Amgueddfa sy'n Trydar - flwyddyn yn ddiweddarach
1 Mehefin 2015
,Yn ystafell ffansi'r cyngor y byddwn ni'n cwrdd yfory, ar gyfer ail drydarfod blynyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cynhaliwyd yr un cynta y llynedd i annog trydawyr amgueddfa i ddod i adnabod ei gilydd yn y cigfyd. Amcan gudd i fi (a eglurwyd i bawb cyn cychwyn) oedd i fi gael dod i ddeall rhagor am arfer da a rhwystrau cyffredin 'roedden nhw'n dod ar ei draws yn eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe ges i ddigon o adborth i lenwi blwyddyn o raglen waith, yn edrych ar broblemau oedd angen eu datrys ar lefel reolaethol; patrymau gwaith organig, clymog, oedd angen eu twtio, a chanu cloch uwch ar ran nifer o brosiectau da. Fe gadwais i'n brysur, felly, yn diweddaru polisi, cynnal hyfforddiant sylfaen, yn ogystal â phrosiectau peilot mwy uchelgeisiol, a chadw llygad fwy craff ar analytics. Dwi wedi mwynhau cyd-weithio efo'r holl bobl sy di cyfrannu at y prosesau uchod, a mae dychwelyd at fy nghariad cyntaf - y we - mewn cyd-destun proffesiynol, wedi bod yn hwyl chwerw-felys hefyd.
Museumweek - cyfle i werthuso
Bu Museumweek 2014 yn gyfle da i weld beth oedd iechyd rhwydwaith twitter Amgueddfa Cymru - mae'n wythnos pan fo pawb, o'r trydarwyr tawel i'r trydarwyr diocswrth (diolch @geiriadur) i fod yn rhoi rhywbeth ar y platfform. Felly, er nad yw'n sampl gynrychioladol o 'wythnos arferol' yn Amgueddfa Cymru, mae'n rhoi sbec i ni ar sut mae'r rhwydwaith yn siapo pan ma pawb (i fod) yn rhoi tro go lew arni. Pan ddaeth yr ymgyrch rownd unwaith eto, roedd yn amser i fesur eto i weld i le 'dyn ni'n mynd fel amgueddfa sy'n trydar.
Lawrlwytha'r adroddiad cryno
Mi fydda i'n dangos dau neu dri sleid yfory yn y trydarfod, ond dwi hefyd yn awyddus i bobl gael gweld crynodeb fwy manwl os hoffen nhw: mae modd lawrlwytho un fan hyn: lawrlwytho adroddiad cryno (pdf).
Mi sgrifennais i fe ar gyfer pwyllgor penodol - sgwn i sut y byddai'r adroddiad yn edrych petawn i wedi ei sgrifennu ar eich cyfer chi, fy nghynulleidfa ddychmygol? Gan fo fy nghenfndir mewn gwerthuso dysgu amgueddfaol, dw i wastad wedi gwyro tuag at yr ansoddol, felly roedd llunio adroddiad mesurol yn brofiad boddhaol, er i fi betruso wrth ei sgrifennu.
Adborth i'w gynnig?
Fe fyddwn i'n falch iawn o gael adborth gan unrhyw gyd-weithwyr sector sydd â sylw adeiladol i'w wneud ar sut y gallwn i fod wedi cyflwyno fy nehongliad a'm casgliadau. Neu labeli fy ngraffiau, unrhywbeth, rili, y gall wneud y gwaith yn eglurach ac yn fwy defnyddiol.
Fy nhasg nesaf fydd i gael gafael ar ddanteithion ar gyfer cyfarfod fory. O edrych ar ddata y llynedd, dwi di nodi tuedd ffafriol tuag at siocled a glwten. Gobeithio y bydd y canlyniad yma yn help i mi pan af i siopa bisgedi nes ymlaen.