: Spring Bulbs

Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2018

Penny Dacey, 26 Tachwedd 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Diolch am yr holl waith yr ydych wedi gwneud ac am rannu eich lluniau! Roedd o'n hynod o galed i ddewis dim ond pum enillydd. Mae'r lluniau a ddewiswyd yn dod o ysgolion yng Nghymru sef ddim yn cymryd rhan yn y prosiect estyniad Edina.

Dyma'r enillwyr:

Llanyrafon Primary School

Peterston Super Ely CiW Primary School

St Philip Evans Catholic Primary

Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Ysgol Llandwrog

Diolch yn fawr i bob ysgol a rannodd eu lluniau. Oedd o’n wych i weld y holl waith rydych wedi gwneud a'r hwyl gawsoch!

Cadwch lan gyda'r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro'r Ardd

Cofiwch gymryd cofnodion tywydd

Penny Dacey, 7 Tachwedd 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!

Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd dros 17,000 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!

Wnaeth Cofnodion Tywydd cychwyn ar 5 Tachwedd. Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Diwrnod plannu

Penny Dacey, 19 Hydref 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,


Mae'n bron diwrnod plannu ar gyfer ysgolion yn Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon! Bydd ysgolion yn Yr Alban yn plannu wythnos nesa.


Cliciwch yma ar gyfer adnoddau i'ch paratoi ar gyfer heddiw ac am ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf!


Dylech ddarllen y dogfennau hyn:

• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)

• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)

A chwblhewch y gweithgareddau hyn:

• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau

• Creu Labelai Bylbiau

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?


Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu!


Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld lluniau o ysgolion eraill.


Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2017-18

Penny Dacey, 25 Ebrill 2018

Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i ysgolion o ar draws y DU, i gydnabod eu cyfraniad i'r Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion.

Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion!

Diolch i bob un o’r 4,830 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi a chofnodi, rydych yn wir yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un ohonoch yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych.

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Edina am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r prosiect.

Ysgolion fydd yn derbyn tystysgrifau:

Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau a phensiliau Gwyddonwyr Gwych.

Cydnabyddiaeth arbennig:

I dderbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau.

Clod uchel:

I dderbyn tystysgrifau, pensiliau ac amrywiaeth o hadau.

Yn ail:

I dderbyn tystysgrifau, pensiliau, amrywiaeth hadau a taleb rhodd.

Enillwyr 2018:

I dderbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau a gwobr i'r dosbarth!

 

Cofnodion Blodau

Penny Dacey, 29 Mawrth 2018

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Diolch i’r ysgolion sef wedi rhannu ei chofnodion blodau! Cofiwch i wneud yn siŵr bod y dyddiad yn gywir a bod taldra'r planhigyn wedi ei chofnodi yn filimedrau. Rydym wedi cael cofnodion yn dweud bod planhigion wedi blodeuo ym mis Ebrill a hefo disgrifiadau am grocws a chennin pedr anhygoel o fyr!

Os ydych yn gweld bod eich cofnodion angen ei chywiro, yna yrrwch rhai newydd i mewn hefo esboniad o hyn yn y bwlch sylwadau.

Rwyf wedi mwynhau darllen y sylwadau hefo’r cofnodion tywydd a blodau dros y pythefnos diwethaf. Rwyf wedi atodi rhai o’r sylwadau isod. Daeth cwestiwn diddorol o Ysgol Stanford in the Vale flwyddyn ddiwethaf, yn gofyn a oedd rhaid cofnodi pob blodyn i’r wefan os oedd y dyddiad a’r taldra'r un peth? Mae’n bwysig i rannu’r cofnodion i gyd, oherwydd mae'r nifer o blanhigion sydd yn blodeuo ar ddyddiad unigol a’r taldra'r planhigion yn effeithio'r canlyniadau.

I weithio allan taldra cymedrig eich ysgol ar gyfer y crocws a’r cennin pedr, adiwch bob taldra o’r crocws neu’r cennin peder, a rhannwch hefo'r nifer o gofnodion. Felly os oes genych deg cofnodion o daldra i’r crocws, adiwch y rhain at ei gilydd a rhannwch hefo deg i gael y rhif cymedrig.

Os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm ac un blodyn hefo taldra o 350mm, fydd y rhif cymedrig yn 275mm. Ond, os oes gennych un blodyn hefo taldra o 200mm a deg hefo taldra o 350mm fydd y rhif cymedrig yn 336mm. Dyma pam mae’n bwysig i gofnodi pob cofnod blodau.

Mae pob cofnod blodau yn bwysig ac yn cael effaith ar y canlyniadau. Os nad yw eich planhigyn wedi tyfu erbyn diwedd mis Mawrth, plîs wnewch gofnod data heb ddyddiad na thaldra ac esboniwch pam yn y bwlch sylwadau. Os mae eich planhigyn yn tyfu, ond ddim yn blodeuo erbyn diwedd mis Mawrth, yna plîs cofnodwch daldra'r planhigyn, heb ddyddiad blodeuo, ac esboniwch hyn yn y bwlch sylwadau.

Cadwch y cwestiynau yn dod Cyfeillion y Gwanwyn! Mae 'na nifer o adnoddau ar y wefan i helpu hefo’r prosiect. Unwaith mae eich planhigyn wedi blodeuo, fedrwch greu llun ohono a defnyddio hyn i labelu'r rhannau o’r planhigyn! Hoffwn weld ffotograff o rain, a wnâi rhannu pob un sy’n cael ei yrru ata i ar fy blog nesaf!

Daliwch ati gyda’r gwaith called Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd