: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Sgrinwyna 2021 - Cwestiynau Cyffredin:

Bernice Parker, 19 Chwefror 2021

Rydyn ni'n barod ar gyfer tymor wyna arall yn Sain Ffagan ac rydyn ni'n gwybod eich bod chi'n edrych ymlaen at y #sgrinwyna.  Felly, rydyn ni wedi casglu atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a gododd dros y flynyddoedd. Cofiwch y canlynol pan fydd pethau'n poethi yn y sied wyna: 

Pam fod y defaid yn penio’u gilydd? 

Mae’r defaid mewn hwyliau drwg, yn hormonaidd ac yn diriogaethol wrth baratoi i roi genedigaeth. Dim ond dannedd gwaelod sydd gan ddefaid, gyda pad caled ar eu gên uchaf – perffaith i falu porfa ond da i ddim i gnoi. Dydyn nhw ddim yn dda am gicio chwaith gyda’i coesau tenau. Mae peniad cryf yn berffaith i greu lle i’w hunain! 

Pam fod gan rai o’r defaid strapiau glas arnyn nhw?  

Fel pob anifail beichiog gall defaid weithiau ddioddef o gwymp y groth (edrychwch i ffwrdd nawr os ydych chi’n tueddu i simsanu). Fel arfer, caiff ei achosi gan ŵyn mawr. Mae’r harnais yn helpu dal popeth yn ei le tan y bydd y famog yn barod i wyna. Mae’r rhan fwyaf o ddefaid wedyn yn gallu wyna yn ôl yr arfer heb waredu’r groth hefyd. 

Mae rhai o’r defaid yn gloff neu’n cerdded ar eu pengliniau – fyddwch chi ddim yn gwneud dim? 

Bydd y defaid yn cael torri eu gwinedd yn gyson, ond dyw hi ddim yn syniad da gwneud hyn pan fyddan nhw ar fin rhoi genedigaeth. Mae’n rhaid eu heistedd ar eu tinau (fel wrth gneifio) all wasgu ar eu hysgyfaint a’u hatal rhag anadlu. Felly erbyn amser wyna byddan nhw’n drwm iawn, a rhai gyda’u traed yn brifo. Ar ôl rhai diwrnodau i orffwys byddwn ni’n torri eu gwinedd fel rhan o’n pecyn gofal i famau newydd.  

Mae rhai defaid yn dioddef poen nerfau yn eu coesau oherwydd pwysau’r ŵyn tu fewn iddyn nhw. Gall hyn eu gwneud yn gloff, ond bydd fel arfer yn gwella ar ôl rhoi genedigaeth. Os yw dafad yn bwyta ac yfed yn iawn mae’n well ei gadael gyda’r praidd – dim ond mewn argyfwng meddygol fyddwn ni’n gwahanu’r defaid. 

Oes unrhyw un yn gofalu am y defaid? 

Mae tîm bychan a diwyd yn gofalu am y sgrinwyna. Pan fydd pethau'n prysuro bydd staff profiadol wrth law ddydd a nos. 

Yw'r defaid mewn poen?  

Ydyn - mae nhw'n rhoi genedigaeth, a gall esgor fod yn broses hir a phoenus!  

Rydw i wedi bod yn gwylio dafad mewn trafferthion - pam nad oes neb yn mynd i'w helpu hi? 

Mae defaid yn anifeiliaid nerfus sydd ddim yn ymlacio o gwmpas pobl. Eu greddf yw rhedeg i ffwrdd (fel y gwelwch chi pan fydd aelodau'r tîm yn mynd i mewn). Mae rhedeg o gwmpas y sied yn rhoi straen ar y defaid ac yn arafu'r enedigaeth. Mae'r bugeiliaid yn gwylio'n dawel o bell ac yn ymyrryd cyn lleied â phosibl. Mae sied dawel, ddigynnwrf yn golygu genedigaeth gynt i bawb. 

Ond mae hi wedi bod mewn trafferthion ers oes a does neb wedi'i helpu hi! 

Yn ogystal â'r sied ar y camera, mae siediau meithrin ar gyfer y defaid a'r wyn. Bydd y tîm yn asesu anghenion y praidd i gyd ac yn blaenoriaethu'r defaid gwannaf. Bydd oen sâl sydd angen cael ei fwydo drwy diwb yn cael blaenoriaeth dros ddafad sy'n esgor. Cofiwch, efallai bod aelod staff yn gwylio gerllaw ond ddim ar y sgrin. 

Pam ydych chi'n gadael iddo barhau mor hir? 

Rhaid gadael y broses esgor tan bod ceg y groth wedi lledu digon i'r oen gael ei eni. Gall hyn bara 30 munud, neu sawl awr. Yn aml, y rhai sy'n gwneud y mwyaf o ffys yw'r defaid blwydd sy'n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf. Y defaid yma sy'n gorfod gweithio galetaf i agor ceg y groth. Genedigaeth caesarian fyddai'r dewis olaf un, ac nid yw'r rhagolygon ar gyfer y ddafad yn dda iawn. Mae esgoriad hir yn ddewis llawer gwell bob tro - sori ferched! 

Mae dafad yn y sied yn sgrechian mewn poen... 

Mae defaid fel arfer yn hollol dawel wrth roi genedigaeth (yn wahanol i amser bwydo!). Bydd anifeiliaid gwyllt yn rhoi genedigaeth mor dawel â phosib er mwyn osgoi denu sylw ysglyfaethwyr ar foment mor fregus. Pan fydd dafad gyda'i llygaid led y pen, yn taflu ei phen yn ôl ac yn dangos ei gweflau, mae'n arwydd o gryfder y cyfangiadau. Mae hyn yn beth da ac yn golygu ei bod hi yn ymroi ac y bydd hi'n rhoi genedigaeth yn fuan. 

Rydw i newydd weld y bugail yn rhoi pigiad i'r ddafad - pigiad o beth? 

Gall pigiad calsiwm gyflymu'r broses os yw dafad wedi bod yn esgor am amser hir ond nad yw ceg y groth yn agor yn rhwydd.  

Pam fyddan nhw weithiau'n siglo'r oen gerfydd ei draed? 

Mae'n hanfodol bod yr oen yn dechrau anadlu ar ei ben ei hun yn syth wedi cael ei eni. Weithiau mae'r gwddf a'r trwyn yn llawn hylif. Weithiau bydd y bugail yn gwthio gwelltyn i drwyn yr oen i'w helpu i beswch neu disian. Os na fydd hyn yn gweithio byddan nhw weithiau'n siglo'r oen gerfydd ei goesau ôl. Mae'n olygfa ddramatig, ond dyma'r dull gorau o glirio'r hylif. Mae grym allgyrchol yn helpu'r oen i beswch yr hylif allan. 

Beth mae nhw'n ei wneud wrth roi eu dwylo y tu fewn i'r ddafad? 

Darllenwch y blog yma o 2016 am esboniad llawn o beth sy'n digwydd. 

Rhowch i ni UN GAIR - dim ond un - am Gymru

Angharad Wynne, 17 Chwefror 2021

Heddiw, mae Cymru’n genedl fodern, amlethnig, amlddiwylliannol, ac mae llawer o’n teulu, ffrindiau a chyd Gymry wedi’u gwasgaru ledled y byd. Rydyn ni wedi bod yn byw trwy amseroedd digynsail, mae ein byd yn newid. Felly wrth i Ddydd Gŵyl Ddewi agosáu, rydyn ni am weld os yw hunaniaeth Gymreig yn newid hefyd.

Rydym yn colli’ch croesawu i oriel Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru lle rydym yn archwilio hunaniaeth Gymreig ac yn gofyn ichi rannu eich syniadau amdani, felly hoffem glywed gennych yn fawr iawn. Gofynwn i chi rhoi UN GAIR i ni – dim ond UN GAIR i ddisgrifio Cymru neu Gymreictod ar hyn o bryd. Gallai fod yn beth, yn emosiwn, yn lliw, beth bynnag ydyw i chi, nawr.

Un Gair am Gymru

Rydym am wybod a yw pethau megis cennin Pedr neu gawl neu gysyniadau fel ‘hiraeth’ neu ‘cwtch’ yn ein cynrychioli ni o hyd, neu a oes yna bethau a theimladau eraill sy’n dod i’r amlwg fel eiconau neu fel syniadau am Gymru gyfoes.

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bawb ac unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, neu unrhyw un sy’n uniaethu fel Cymry – o ba bynnag gefndir ethnig neu ddiwylliannol, waeth ble rydych chi’n byw yn y byd ar hyn o bryd.

Byddwn yn casglu’ch holl eiriau gyda’i gilydd ac yn gwneud rhywbeth hardd gyda nhw i’w rannu gyda chi ychydig cyn Dydd Gŵyl Ddewi.

Mae croeso i chi drydar eich gair neu greu Instagram i’w rannu, ond cofiwch ychwanegu’r hashnod #gairamgymru i’ch post fel y gallwn ddod o hyd iddo a’i gynnwys yn ein hymatebion. Fel arall, e-bostiwch eich gair atom gan ddefnyddio:

ungairamgymru@amgueddfacymru.ac.uk.

A chofiwch rannu hyn gyda ffrindiau a theulu ledled Cymru ac ar draws y byd.

CYSTADLEUAETH! Creuwch a Traddodwch stori wedi eu Hysbrydoli gan y Ffrog Briodas hon.

Angharad Wynne, 1 Chwefror 2021

Mae'n Wythnos Genedlaethol Storïo !! Er mwyn ei ddathlu, rydyn ni'n eich gwahodd i greu a dweud stori wrthym .... am y ffrog briodas hon!

Byddwn yn adrodd mwy o hanes y ffrog yma ar ddiwedd y gystadleuaeth, gan nad ydym am gyfyngu ar eich creadigrwydd na dylanwadu ar eich syniadau, ond efallai y byddai gennych ddiddordeb gwybod ei bod wedi'i gwneud o frethyn cain, wedi'i brynu ym 1974, pan oedd ein hamgueddfa yn dal i fod yn felin wlân weithredol o'r enw Melin Cambrian.

Bydd yr enillydd yn derbyn Carthen Cymraeg wlân ddwbl, a wnaed ar ein safle amgueddfa gan Melin Teifi. Mae nifer o ddewisiadau lliw ar gael.

Bydd y gwehydd stori orau yn ennill blanced Gymraeg ddwbl hardd, draddodiadol, a wnaed gan Melin Teifi ar ein safle amgueddfa. Yn draddodiadol, rhoddwyd y blancedi hyn fel anrheg briodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.

SUT I GYSTADLU:

Mae'r grefft o adrodd straeon yn un hynafol yma yng Nghymru. Cafodd ei ymarfer gan Gyfarwyddion yn llysoedd ein brenhinoedd ac arglwyddi yn ogystal ag wrth dan yr efail ac ar aelwydydd ledled y Genedl. I anrhydeddu'r traddodiad hwn, ar gyfer wythnos adrodd straeon, rydyn ni'n gofyn i chi DDWEUD stori, yn hytrach nag ysgrifennu un i lawr. Mae croeso i chi ymgeisio trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg. Felly,

1. Breuddwydiwch, dychmygwch a meddyliwch trwy stori fer, wreiddiol, a ysbrydolwyd gan y ffrog briodas hon o'n casgliad. Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi nodi ychydig o bwyntiau i strwythuro’r stori.

2. Ymarferwch DWEUD y stori, ac amserwch eich hun i sicrhau ei bod DAN 2 FINUD O HYD. Ni fyddwn yn derbyn straeon sy'n mynd dros amser.

3. Pan fyddwch chi'n teimlo'n hyderus, ffilmiwch eich hun yn adrodd y stori mewn llai na 2 funud. Nid oes angen iddo fod yn ffansi, bydd ffilm ar gamera ffôn yn hollol dderbyniol. Fel arall, allech chi recordio'ch hun yn siarad y stori (dim mwy na 2 funud o hyd) ac anfon y recordiad sain atom. Fodd bynnag, peidiwch â DARLLEN stori I ni. Mae gwahaniaeth mawr rhwng traddodi stori ar lafar a'i darllen. 

4. Pan fydd gennych recordiad ffilm / sain rydych chi'n hapus ag ef, anfonwch e dros e-bost atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad yma: stori@amgueddfacymru.ac.uk

Yn draddodiadol, rhoddid y blancedi yma'n anrhegion priodas, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi a'u casglu ledled y byd.

DYDDIAD CAU’R GYSTADLEUAETH: DYDD MERCHER 10 CHWEFROR am 15:00. Am delerau ac amodau cystadlu, gwelwch isod

Byddwn yn rhannu'r 5 stori orau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd San Ffolant, ac yn cyhoeddi'r enillydd y prynhawn hwnnw.

 

 
 

CYNGOR AM RECORDIO EICH STORI YN DEFNYDDIO FFÔN SYMUDOL / TABLET / GLINIADUR / CYFRIFIADUR BEN-DESG

Goleuo

- Defnyddiwch olau naturiol: y tu allan neu wrth ymyl y ffenestr gyda'r golau ar eich wyneb.

- Ceisiwch osgoi cael golau’r tu cefn i chi, megis ffenestr, lampau, teledu ayyb.

 

Fframio a Lleoli

- Ffilmiwch gan ddefnyddio fformat  tirwedd, yn hytrach na portred.

- Cadwch eich ffôn mor llonydd ag y gallwch trwy ddefnyddio tripod neu ei orffwys ar wyneb cyson. Cisiwch osgoi ffilmio â llaw.

 

Cofnodi ar Gliniadur neu Gyfrifiadur Ben-desg

- Cychwynwch Zoom, Tims, Skype, FaceTime ac ati gan sicrhau eich bod chi'n gallu gweld eich hun, yna dechreuwch QuickTime Player.

 

Defnyddio nodwedd cipio sgrin gyda QuickTime Player

- O fewn y rhaglen: File, “New Screen Recording”, pwyswch botwm recordio coch i ddechrau recordio.

- Pwyswch y botwm stopio i ddiweddu'r recordiad.

- Safiwch y ffeil: Ffeil, “Export As”, 1080p, teitl y fideo, dewis lleoliad y ffeil, “Save”.

 

Telerau ac Amodau
· Yr Hyrwyddwr yw: Amgueddfa Genedlaethol Cymru / the National Museum of Wales (Rhif Elusen: 525774) sydd â’i swyddfeydd cofrestredig ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.
· Ni chaiff gweithwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru na aelodau'r teulu, neu unrhyw un arall sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd, gystadlu.
· Nid oes tâl mynediad i'r gystadleuaeth ac nid oes yn rhaid gwneud unrhyw bryniad i gystadlu.
· Ni fydd unrhyw ymgais sy’n rhoi ymgeisydd, staff neu unrhyw berson arall mewn perygl yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw anaf neu niwed corfforol i ymgeiswyr neu unrhyw berson arall wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
· Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, ac unrhyw berson arall presennol, tra’u bod yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
· Dyddiad cau’r gystadleuaeth fydd Mercher, 10 Chwefror am 15.00. Wedi’r dyddiad hwn ni chaiff ceisiadau pellach eu derbyn.
· Ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw geisiadau nas derbynnir, am unrhyw reswm. Nid yw prawf anfon yn brawf fod y cais wedi'i dderbyn.
· Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i ddileu neu newid y gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd yn achos unrhyw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r ymgeiswyr cyn gynted â phosibl o unrhyw newid i’r gystadleuaeth.
· Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir am wobrau a ddarperir i ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth.
· Ni chaiff gwobrau ariannol eu cynnig yn lle’r gwobrau a nodir. Ni ellir trosglwyddo’r gwobrau. Cynigir y gwobrau yn unol â’u hargaeledd a cheidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr am wobr gyfwerth heb rybudd.
· Caiff yr enillwyr eu dewis gan gynrychiolydd yr Hyrwyddwr.
· Caiff yr enillwyr eu hysbysu drwy ebost, Facebook neu Twitter erbyn 15 Chwefror. Os na ellir cysylltu â’r enillwyr, neu os na fyddant yn hawlio eu gwobr o fewn 72 awr o gael eu hysbysu, cedwir yr hawl i dynnu’r wobr yn ôl a’i dyfarnu i enillydd arall.
· Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu’r wobr – neu lle i’w bostio
· Bydd penderfyniadau’r Hyrwyddwr, ym mhob achos yn ymwneud â’r gystadleuaeth, yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
· Caiff y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn eu rheoli dan gyfraith y DU a bydd unrhyw anghydfod yn atebol i awdurdod llysoedd y DU yn unig.
· Wrth ymgeisio, mae pob ymgeisydd yn rhyddhau Facebook, Twitter a Instagram o unrhyw a phob atebolrwydd sy'n ymwneud â'r gystadleuaeth hon.
· Bydd pob ymgeisydd yn cytuno y gall Amgueddfa Genedlaethol Cymru arddangos a rhannu’r cais a gyflwynwyd, ar eu gwefan a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gydnabod eu henw os yw’r wybodaeth ar gael. Erys hawlfraint ddeallusol y gweithiau ym meddiant yr ymgeisydd
· Mae’r enillwyr yn cytuno i yrru neges o gydnabyddiaeth ar Facebook, Instagram neu Twitter, gan enwi @amgueddfacymru yn eu neges.
· Mae’r enillydd yn cytuno y gellir defnyddio ei enw, llun, a’r gwaith a gyflwynwyd mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.
· Caiff unrhyw ddata personol yn ymwneud â’r enillydd neu unrhyw ymgeiswyr eraill ei ddefnyddio’n unol â chyfraith ddiogelu data gyfredol y DU yn unig ac ni chaiff ei ddatgelu i drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr ymgeisydd.
· Bydd ymgeisio yn y gystadleuaeth yn gyfystyr â derbyn y telerau ac amodau hyn.
· Nid yw’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi, ei chymeradwyo na’i gweinyddu, nac ychwaith yn gysylltiedig â Facebook neu unrhyw Rwydwaith Gymdeithasol arall. Rydych yn darparu eich gwybodaeth bersonol i Amgueddfa Cymru yn hytrach nag unrhyw barti arall. Caiff y wybodaeth a ddarperir ei defnyddio yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.

Cacennau Blasus, Rhamantus yn barod ar gyfer Dydd Santes Dwynwen

Angharad Wynne, 20 Ionawr 2021

Mae'n Ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr, y diwrnod pan rydyn ni'n dathlu cariad yma yng Nghymru. Rhag ofn eich bod ar wahan oddi wrth anwylyd yn ystod y cyfnod clo hwn, rydyn ni'n rhannu’r rysáit hon yn gynnar er mwyn i chi gael cyfle i'w danfon yn y post. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rydyn ni'n anfon cwtch mawr Covid- ddiogel atoch o'r amgueddfa.

Daw'r rysáit hyfryd hon wrth ein tîm arlwyo yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Drefach Felindre.

 

Pice Bach Siap Calon

 

CYNHWYSION:

Blawd hunan-godi 1 lb

Menyn 8oz

Siwgr caster 6oz

2 wy

2 lond llaw o gyrens - neu llugaeron os ydych chi am ychwanegu tipyn o liw coch ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen!

Menyn ychwanegol ar gyfer seimio

 

DULL:

1. Hidlwch y blawd mewn i fowlen ac ychwanegwch y menyn wedi'i ddeisio.

2. Rhwbiwch â'ch bysedd, neu mewn prosesydd bwyd, nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara.

3. Ychwanegwch y siwgr, y cyrens / llugaeron a'r wyau wedi'u curo a'u cymysgu'n dda i ffurfio pelen o does, gan ddefnyddio sblash o laeth os oes angen.

4. Rholiwch y toes allan ar fwrdd â blawd arno i drwch o tua 5mm / ½ modfedd.

5. Torrwch y toes gyda thorrwr siap calon 7.5–10cm / 3-4in.

6. Rhwbiwch lech neu radell haearn trwm â menyn, sychwch unrhyw ormodedd a'i roi ar yr hob nes ei fod yn cael ei gynhesu drwyddo.

7. Coginiwch y picie bach ychydig ar y tro am 2–3 munud ar bob ochr, neu nes eu bod yn frown euraidd.

8. Tynnwch o'r radell a taenwch siwgr mân trostynt tra’n gynnes.

Dyma nhw! Pice Bach blasus a rhamantus!

Mwynhewch!!

 

Arddangosfa Gobaith - Diweddariad y Flwyddyn Newydd!

Kate Evans, 6 Ionawr 2021

Lansiodd Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol. Nod y project yw creu sgwariau lliw enfys 8” neu 20cm gan ddefnyddio hoff dechneg y crefftwr – gweu, ffeltio, gwehyddu neu grosio. Bydd y sgwariau wedyn yn cael eu rhoi at ei gilydd gan wirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru gan greu carthen enfys enfawr a gaiff ei arddangos yn yr Amgueddfa ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Yn dilyn yr arddangosfa caiff carthenni llai eu creu o’r garthen enfawr a’u rhoi i elusennau amrywiol.

Hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y project hyd yn hyn, mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac rydym wedi derbyn dros 670 o sgwariau o bob cwr o’r wlad! Rydym yn ddiolchgar am bob sgwâr a dderbyniwn, ynghyd â’ch negeseuon caredig a dymuniadau gorau. Mae’n hyfryd clywed bod cynifer ohonoch wedi teimlo bod creu’r sgwariau hyn wedi helpu yn ystod y cyfnod digynsail a heriol hwn. Er nad oes modd i ni gyfarfod, rydym yn un mewn ysbryd, gobaith a chymuned.

Aeres Ingram yw ein cyfrannwr mwyaf toreithiog ar hyn o bryd, mae hi wedi gwau 70 sgwâr ar gyfer y flanced! Wrth siarad am y prosiect, meddai:

"roedd gwau’r sgwariau ar gyfer y flanced enfys wedi fy helpu'n fawr yn ystod y cyfnod clo ac fe roddodd ymdeimlad o berthyn a chyflawniad i mi, gan wybod fy mod yn ymwneud â rhywbeth pwysig a hefyd helpu rhai mewn angen. Edrychaf ymlaen at weld y darnau wedi’u gwnïo gyda’i gilydd a’r flanced orffenedig."

Cafodd Arddangosfa Gobaith ei chynnwys yn Wythnos Addysg Oedolion a rhyddhawyd dau fideo o’r Grefftwraig Non Mitchell yn dangos sut i greu sgwâr wedi’i ffeltio a’i wehyddu. Os hoffech greu sgwar, gymrwch olwg ar rhain:


  

Rhannodd elusen Crisis (de Cymru), sy’n cefnogi pobl ddigartref, wybodaeth am Arddangosfa Gobaith ar eu tudalennau Facebook a chreu pecynnau yn cynnwys gwlân a chyfarwyddiadau i’w hanfon at ddefnyddwyr y gwasanaeth i’w helpu i gymryd rhan.

Lluniwyd y sgwariau hynod gain mewn lliwiau, arddulliau, pwythau, a chynlluniau amrywiol. Dyma hanes rhai o’r sgwariau a’u crefftwyr...

Sgwâr o liwiau'r enfys wedi'i wau ar gyfer y flanced obaith

Crewyd y sgwâr hwn gan ein Gwirfoddolwr Gardd Susan Martin. Mae Susan wedi troellli edafedd ei hun a’i liwio’n naturiol. Mae’r lliwiau enfys yn dod o gymysgu glaslys, llysiau lliw a’r gwreiddrudd gwyllt â gwyn i greu effaith ysgafnach a brethynnog, gellir dod o hyd i’r holl blanhigion hyn yng Ngardd Lliwurau Amgueddfa Wlân Cymru. Derbyniodd Gardd Lliwurau Naturiol yr Amgueddfa Wobr Gymunedol y Faner Werdd sy’n newyddion arbennig! Mae rhagor o wybodaeth am yr Ardd Liwurau ar ein gwefan.

Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith.

Lluniwyd y sgwâr hwn gan y Gwirfoddolwr Crefft Cristina gan ddefnyddio’r edafedd cyntaf a wnaed gan y Cynorthwyydd Amgueddfa, Stephen Williams, a’r crefftwyr dan hyfforddiant Richard Collins a James Whittall wrth iddynt ddysgu i droelli. Cyfrannodd ymwelwyr yn ogystal at greu’r edafedd, gan gynnwys menyw oedd heb droelli ers ugain mlynedd, plentyn tra byddar, â mam i aelod o staff.

Sgwâr wedi'i weu a logo Amgueddfa Genedlaethol y Glannau arno ar gyfer ein blanced obaith.

Crëwyd y sgwâr hyfryd hwn gyda logo’r Amgueddfa gan Gynorthwyydd Oriel Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Ruth Melton.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’r Gwirfoddolwyr Crefft yn ôl i’r Amgueddfa y flwyddyn yma a dechrau ar y gwaith o greu’r garthen. Cadwch lygad barcud ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Diolch i The Ashley Family Foundation a  Sefydliad Cymunedol Cymru am gefnogaeth gyda’r prosiect.

Y dyddiad cau ar hyn o bryd ar gyfer cyfraniadau yw 31/03/2021. Cliciwch yma am wybodaeth ar sut i gymryd rhan.

Diolch unwaith eto am eich holl gefnogaeth.