Dathlu Balchder: Tu ôl i’r llen gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru James Lindsay, 25 Medi 2025 Ym mis Mehefin 2025, fel rhan o brosiect REACH Cymru, gwahoddodd Amgueddfa Cymru geisiadau ar gyfer dau Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru i gynllunio a chynnal gweithdy ar Balchder. Dyma oedd gan James, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, i’w ddweud am y profiad:Ar gyfer mis Balchder, gwahoddodd Amgueddfa Cymru Kleo a fi i drefnu gweithdy ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Innovate: elusen sy’n ymroddedig i helpu oedolion ag anableddau dysgu. Darparon ni’r deunyddiau, yr ysbrydoliaeth, a gwers hanes fer fel bod modd i bobl greu arwyddion i’w cario ym mharêd Balchder Caerdydd ar 21 Mehefin.Rhan o fy rôl i oedd chwilota drwy gasgliad yr amgueddfa am ysbrydoliaeth, a wnaeth y catalog ddim siomi. Cefais fy synnu gan yr ystod o ddeunydd oedd ar gael; o ddeunydd protest y 1980au, i weithiau gan artistiaid cwiar balch, gweithiau a oedd yn annwyl i bobl gwiar, a ffotograffau teuluol preifat. Ymhlith y deunyddiau protest roedd crysau-t, baneri, a bathodynnau, gyda llawer ohonyn nhw’n gwrthwynebu Adran 28 yn benodol. Rhan o gyfraith a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher oedd Adran 28, a oedd yn nodi bod sôn am gyfunrywioldeb mewn ysgolion yn ymgais i ‘hyrwyddo’ ffordd o fyw. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan blant mewn ysgolion unrhyw ffordd o gael mynediad at wybodaeth gywir a diduedd am rywioldeb a rhyw diogel am dros ugain mlynedd. Mae gan Amgueddfa Cymru grys-t sydd ag union eiriad Adran 28 wedi’i argraffu arno. I fi, wrth ddathlu Balchder, mae’n bwysig ein bod ni’n edrych yn ôl ar yr holl waith a wnaed yn y gorffennol, fel bod ganddon ni’r nerth i edrych tua’r dyfodol. Mae hi mor bwysig i fi bod amgueddfeydd yn cynnwys gwrthrychau fel y rhain, ac mae’n gam enfawr ymlaen i’n cymunedau a’n sefydliadau diwylliannol. Roedd fy nhro cyntaf mewn digwyddiad Balchder yn gymharol aflwyddiannus. Yn 2018 neu 2019, teithiais i a fy ffrind i Lundain gan obeithio dod o hyd i’r fath o gymuned oedd tu hwnt i gyrraedd plant mewn ysgol uwchradd gymharol fach. Ar y daith yno, fe glywon ni grŵp o bobl yn rhybuddio’i gilydd bod dathliad Balchder yn digwydd, a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus gan y bydden ni i gyd yn cael rhyw yn y strydoedd. Galla i ddweud â sicrwydd bod clywed hyn wedi gwneud fi’n llawer mwy anghyfforddus nag unrhyw beth brofais i yn nathliad Balchder. Ond roedd clywed hynny’n dal i deimlo’n ynysig. Ymlwybrodd y ddau ohonon ni o gwmpas Llundain, a chadw i ni’n hunain fwy neu lai, ac nid oedd Balchder yn teimlo fel rhywbeth roeddwn i am fynd iddo eto.Ar fore dathliad Balchder Caerdydd eleni, ro’n i wedi blino’n lân ac yn teimlo’n eithaf digalon o fod yn colli’r parêd. Ond erbyn y prynhawn, ro’n i’n ddigon effro i gerdded i ganol y ddinas, ac ymhen munudau roedd hi’n hawdd adnabod llawer o’r bobl a oedd yno ar gyfer Balchder neu’r Picnic Cwiar Mawr. Roedd hi mor galonogol gweld cymaint o deuluoedd gyda phlant. A wnes i ddim clywed un gair drwg am bobl gwiar. Dim rhybuddion nad oedden ni’n gwybod sut i reoli’n hunain. Dim codi ofn am bobl draws mewn mannau cyhoeddus. Eisteddais i yn yr haul gyda chwpl o ffrindiau. Gwelais gŵn wedi’u gwisgo’n lliwgar mewn hetiau dwl. Ac o’r diwedd, roedd yn teimlo bod digwyddiad Balchder wedi cyflawni ei fwriad, a daeth teimlad llethol o lawenydd ac o deulu drosta i. Ro’n i wedi ymlacio.Roedd hi’n bleser llwyr gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar gyfer mis Balchder. Disgrifiodd rhywun hanes cwiar i fi unwaith fel “crwydro” drwy archifau; gweld pwy neu beth sy’n dal eich llygad. Bydden i’n annog pawb i wneud yr un fath, ac i chwilio am lawenydd cwiar, waeth pa fis yw hi.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025 Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!
Parti Lleoliad Llyngyr Gwrychog - Straeon gan fyfyrwyr sydd ar leoliadau ac yn gweithio ar lyngyr gwrychog morol Teresa Darbyshire, 26 Awst 2025 Mayu SeguchiHelo, Mayu Seguchi ydw i ac rydw i newydd ennill gradd BSc (Anrh) mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol o Brifysgol De Cymru. Y cwestiwn mwyaf cyffredin yr ydw i wedi ei gael ers symud i ffwrdd o fy nhref fach ym Michigan yw "Pam Cymru"? Rwy’n ateb yn syth, bob tro, drwy ganmol y cwrs prifysgol oherwydd bod cymaint o deithio yn rhan o’r cwricwlwm. Mae gen i straeon am fy mhrofiadau - am y gyr o eliffantod Affricanaidd wnaeth ein bygwth ni yn Ne Affrica, neu am nofio mewn afon hyfryd yng Nghoedwig Law Chiquibul yn Belize, wrth i adar seithliw hedfan uwch ein pennau. A byddaf yn siŵr o sôn wrth unrhyw un sy’n fodlon gwrando sut i mi blymio naw gwaith i’r ail farriff mwyaf yn y byd, a sut y gwnaeth hynny agor llwybr newydd ac annisgwyl i mi i fyd bioleg forol. Mi es i mor bell â dewis traethawd hir ar yr iguana er mwyn i mi allu byw ar ynys fach oddi ar arfordir Honduras am ddau fis, gan blymio a snorclo bob munud sbâr.Felly, pan ddaeth cyfle yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weithio gyda llyngyr gwrychog morol, aka polychaetes, roedd yn rhaid imi gyflwyno cais. Yn fy niwrnod cyntaf, osgoi mynd ar goll ar hyd llwybrau dryslyd coridorau’r amgueddfa oedd y brif dasg ac yna dechrau dysgu am y dulliau digideiddio y mae’r amgueddfa yn eu defnyddio ar gyfer sbesimenau. Dim ond ar ôl imi gael trefn ar bethau a dechrau gweithio gyda’r casgliad y sylweddolais pa mor anhygoel ydoedd mewn gwirionedd. Cafwyd y samplau gan R. D. Purchon o bum lleoliad ar hyd Môr Hafren: Llan-bedr Gwynllŵg, Ynys Sili, Harbwr y Barri, Breaksea Point, a Thwyni Dale. Mae hyn yn golygu bod pob sbesimen rwy'n ei drin wedi byw yn nyfroedd Cymru o amgylch Caerdydd! A finnau wedi teithio dramor ar gyfer fy ngwaith maes i gyd, roedd yn hawdd cael fy swyno gan farriffiau lliwgar a mamaliaid morol mawr. Ond mae'r casgliad hwn wedi agor fy llygaid i'r bylchau yn fy ngwybodaeth am rywogaethau rydw i’n rhannu fy nghartref â nhw ac sy’n rhoi cyfle i mi ddysgu mwy. Felly, erbyn hyn, pan fydd pobl yn gofyn i mi pam y symudais i Gymru, rwy’n gallu ateb "Pam lai?” Gyda’r holl fywyd gwyllt hardd, o balod i lyngyr gwrychog, mae cymaint i'w ddarganfod.Mewn amgueddfeydd sydd â chasgliadau mawr, fel Amgueddfa Cymru, mae bron yn amhosibl cofrestru pob sbesimen sy'n dod i law. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfyngu ar faint o wybodaeth y gallwn ei ganfod am rywogaeth, ac mae hynny'n cynnwys gwybodaeth sy’n werthfawr i ffawna Cymru a'r DU. Felly, cafodd fy nghydweithwraig, Caitlin Evans (gweler isod), a minnau y dasg o 1) curadu'r sbesimenau yng nghronfa ddata yr amgueddfa a 2) tynnu llun o bob sbesimen a’i atodi. Byddaf yn trafod y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer curadu'r casgliad gan Purchon (1950), cyn i Caitlin esbonio sut yr aethon ni ati i ddelweddu ein gwaith gyda'r llyngyr gwyrchog.I guradu'r casgliad, defnyddiais gronfa ddata FileMaker Pro gyda thempled a ddatblygwyd gan yr amgueddfa (Ffigur 1). Ar gyfer pob sbesimen, cofnodais enw'r casgliad, rhif derbyn (rhif unigryw sy'n ein galluogi i leoli pob sbesimen), a dyddiad casglu'r sbesimen, yn ogystal â theulu, genws a rhywogaeth y sbesimen. Roedd pob sbesimen hefyd yn nodi safle casglu sydd, o'i baru â thraethawd PhD R. Denison Purchon ar The Littoral and Sublittoral Fauna of the Northern Shores, near Cardiff a Dale Fort Marine Fauna a olygwyd gan J.H. Crothers, yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred bras yr ardal lle tarddodd y sbesimen. Hefyd, roedd y papurau hyn yn cynnwys llawer mwy o gyd-destun ar gyfer safleoedd casglu'r sbesimenau, gyda rhai unigolion yn disgrifio'r gwaddodion lle cawsant eu darganfod. Ar ôl cofnodi'r gwaddod a chwblhau'r dogfennau hyn, byddai gwybodaeth adnabod allweddol yn cael ei hargraffu ar labeli llai i'w cadw yn y jar gyda'r sbesimen (Ffigur 2). Gyda'r casgliad wedi'i guradu'n llawn ar gronfa ddata yr amgueddfa, roedd hi'n bryd dechrau'r broses ddelweddu.Caitlin EvansDychmygwch allu dysgu am anifeiliaid sy'n gwbl angof i bobl ac ymchwilio iddynt. Infertebratau morol yw’r llyngyr gwrychog, a dydy rhai pobl ddim hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw oherwydd eu natur o gloddio yn y tywod. Maen nhw'n byw ar hyd traethlinau a llanw ein hoff draethau ac mae’n hawdd i rywun beidio â sylwi arnyn nhw o gwbl. Caitlin ydw i, myfyrwraig Bioleg sydd ar flwyddyn olaf fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru. Ar hap y daeth y cyfle i mi weithio ar leoliad yn Amgueddfa Cymru - doedd gan i ddim bwriad go iawn i fynd ar leoliad. Ond pan soniodd un o'm darlithwyr am y cyfle hwn, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fachu ar y cyfle. Pan ddechreuais yn y brifysgol, doeddwn i ddim yn siŵr pa faes i’w ddilyn. Ond cyn gynted ag y dechreuais i astudio ecoleg a sŵoleg, taniwyd diddordeb angerddol yn y pwnc. Teithiais i goedwig law ac arfordir Belize am fis, gan ennill profiad ymarferol a chael cipolwg heb ei ail ar sut brofiad fyddai gweithio yn y maes. O rwydi dal adar ac ystlumod i sgwba ddeifio, fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu fy niddordeb. Ar hyn o bryd, rwy'n casglu data ar gyfer fy mhrosiect traethawd hir ar boblogaethau ystlumod, gan gasglu data ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ynghyd â chwblhau'r lleoliad hwn, sy'n golygu bod fy wythnosau i'n llawn dop o weithgareddau sŵoleg.Yn ystod fy amser yn yr amgueddfa, cefais y dasg o guradu a chwblhau gwaith delweddu ar Gasgliad Mendelssohn gan fy ngoruchwylydd Dr Teresa Darbyshire (Uwch Guradur: Infertebratau Morol). Mae hwn yn gasgliad enfawr o tua 115 o sbesimenau sydd wedi'u cadw mewn hylif. Maen nhw'n amrywio o samplau bach y gallwch prin eu gweld i lyngyr mawr sydd prin yn ffitio yn eu jariau. Mae'r sbesimenau sydd yn y casgliad hwn i gyd wedi'u casglu ar ynys Guernsey gan J.M. Mendelssohn ac wedi eu cadw mewn ethanol. Mae gweithio gyda'r casgliad hwn wedi fy helpu i werthfawrogi bioamrywiaeth rhan o’r byd sy’n anghyfarwydd i mi. Mae'n rhoi cipolwg heb ei ail ar fyd natur yr ardal honno. Fel i Mayu grybwyll, roedd y dasg o guradu'r casgliad hwn yn cynnwys chwilio'n drylwyr trwy draethawd ymchwil PhD Mendelssohn o 1976 er mwyn darganfod union leoliadau casglu'r sbesimenau hyn. Trwy ddefnyddio'r traethawd ymchwil a chymorth Google Maps dibynadwy, roedd modd i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred ar gyfer pob sbesimen a'u cofnodi yn y gronfa ddata. Cafodd pob manylyn ei nodi ar y gronfa ddata gan gynnwys yr holl wybodaeth dacsonomaidd a hyd yn oed manylion gwaddodion. Ar ôl cwblhau hyn ar gyfer pob sampl, aethom ati i baratoi labeli ffres ar gyfer y samplau hylif corfforol. Roedd hyn yn cynnwys agor y samplau a rhoi label newydd yn y jar. Dull hawdd a chyflym o adnabod y sbesimen.Y cam nesaf fyddai llywio'n ffordd trwy'r ddrysfa i lawr i'r ystafell ddelweddu. Roedd y broses o ddelweddu'r sbesimenau hyn yn cynnwys y profiad corfforol o sut i ymdrin â sbesimenau hylif wedi'u cadw, yn y ffordd gywir. Roedd tynnu'r llyngyr gwrychog wedi'u cadw allan o'r jar a dadansoddi manylion anhygoel a nodweddion esblygiadol y llyngyr hyn yn wirioneddol anhygoel. Roedd y gwaith delweddu yn rhoi cyfle i ni ennill sgiliau na fydden ni byth wedi'u datblygu oni bai am yr amgueddfa, gan gynnwys sut i drafod hen sbesimenau yn iawn - a chawsom hefyd ein trwytho mewn ffotograffiaeth. Yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa, buom yn ddigon ffodus i dreialu project DISSCO (System Ddosbarthedig ar gyfer Casgliadau Gwyddonol) sy'n cynnwys digideiddio casgliadau'r amgueddfa. Mae’r project helaeth hwn yn cynnwys POB casgliad, a'r gobaith yw y bydd y casgliadau morol yn rhan ohono rywbryd yn y dyfodol (Ffigur 3).Cam cyntaf y broses ddelweddu yw cwblhau delwedd archwilio, sef tynnu llun o bopeth sy'n bresennol yn y jar (Ffigur 4). Gan ddefnyddio gefeiliau, byddem yn tynnu'r sbesimen allan a'i roi mewn dysgl petri llawn ethanol. Byddem wedyn yn cymryd yr holl labeli, hen a newydd, ac yn eu gosod yn daclus mewn ffrâm. Yna, byddem yn ychwanegu cod QR ar gyfer proses DISSCO. Ar ôl tynnu lluniau o du blaen a thu ôl y labeli a'r sbesimen, byddem wedyn yn symud ymlaen i'r delweddau o’r sbesimen. Mae Ffigur 5 yn dangos manylion y sbesimen, er enghraifft mae gan Arenicola marina nifer benodol o 'gylchoedd' ar ei ben a ddefnyddir i'w adnabod. Mae'r broses hon o ddelweddu sbesimenau yn golygu tynnu sawl llun ar lefelau ffocws gwahanol, sydd wedyn yn cael eu cyfuno i greu ffotograff hynod glir a manwl. Yna, rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Helicon Focus i rendro'r ddelwedd derfynol hon cyn ei throsglwyddo i Photoshop i ychwanegu bar graddfa. Cwblhawyd y broses hon ar gyfer fy nghasgliadau i a Mayu (Ffigur 5). Byddem yn cyfnewid tasgau’n rheolaidd, gan roi cyfle i ni feithrin ein sgiliau delweddu ymhellach (Ffigur 6). Ein tasg olaf yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa oedd defnyddio Photoshop i olygu ein delweddau i'w gwneud yn lân ac yn daclus. Mae'r profiad ar leoliad wedi caniatáu i ni ennill sgiliau gwerthfawr a fyddai’n amhosibl eu cael yn unrhyw le arall. Bu'n brofiad anhygoel sydd wedi agor y drws i fyd y gwyddorau naturiol ac mae’n gam anhygoel yn ein gyrfaoedd i’r dyfodol.Roedd ein cyfnod yn yr amgueddfa yn llawn hwyl a rhyfeddodau, diolch i bawb yn yr adran gwyddorau naturiol. Yn ogystal â'r adran forol, cawsom bersbectif mewnol o sawl adran arall gan gynnwys fertebratau a botaneg - rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wedi meithrin cyfeillgarwch newydd trwy gydweithio. Diolch i'r staff ac i’n goruchwylydd, Teresa Darbyshire, am greu amgylchedd gwaith mor gynnes a chroesawgar ac am sicrhau amser anhygoel i ni yn yr amgueddfa. Rydyn ni wedi ehangu ein gwybodaeth yn aruthrol, ac allen ni ddim fod wedi gofyn am brofiad gwell.
Creadigrwydd, Cyfeillgarwch a Balchder: Gweithdai REACH Cymru gyda Innovate Trust a First Choice Hywel Squires, 20 Awst 2025 Fel rhan o brosiect REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth), rydym wedi cael y pleser o weithio gyda grwpiau o Innovate Trust a First Choice - dau sefydliad sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi dod at ein gilydd ar gyfer cyfres o weithdai creadigol i gysylltu â'n hanes a'n treftadaeth leol trwy gelf a chreadigrwydd.Ers dechrau REACH, rydym wedi cynnal chwe gweithdy sy'n canolbwyntio ar amgueddfeydd. Dechreuon ni gyda thaith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rhoddodd gyfle i ni i gyd arafu, sylwi ar ein hamgylchoedd, a sgwrsio mewn lleoliad hamddenol. Roedd yn gosod tôn ysgafn ac agored, un sydd wedi cario trwy'r holl sesiynau ers hynny.Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad gan ein Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+, Mark Etheridge. Rhannodd Mark straeon LHDTC+ pwerus o gasgliadau'r amgueddfa, a arweiniodd at sgyrsiau meddylgar. Rhoddodd le i'r grŵp fyfyrio, gofyn cwestiynau a chysylltu'r straeon hynny â'u profiadau eu hunain. Dywedodd Rhys, un o'r cyfranogwyr, “The LGBTQ+ activity at St Fagans was important to me, after that I started to talk to people and be more open with the group about being gay” Ychwanegodd Zac “this is for me, I’m gay so this is for me, look it’s cool”.Wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau o'r amgueddfa, dechreuodd y grŵp greu eu gwaith celf eu hunain. Roedd rhai pobl yn braslunio delweddau a negeseuon, tra bod eraill yn dylunio crysau-T. Yr hyn oedd yn sefyll allan mewn gwirionedd oedd y meddylgarwch y tu ôl i bob darn. Roedd gan bob dyluniad ystyr ac yn adlewyrchu rhywbeth go iawn i'r person a'i gwnaeth. Yn ôl Rhys “Two of my favourite activities were the art lesson with Marion and designing a t-shirt about what being Welsh meant to me. I liked them because I liked sitting down with friends and support workers, just having fun and getting creative”.Roedd rhai o'n gweithdai mwy diweddar yn canolbwyntio ar Pride. Arweiniodd dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru sesiwn ddifyr am hanes ac arwyddocâd Pride, a wnaeth tanio lawer o chwilfrydedd a thrafodaeth. Cafodd y grŵp y dasg o greu baneri beiddgar, llachar y gellid eu cario yn yr orymdaith. Roedd y sesiynau hyn yn llawn brwdfrydedd, digon o liwiau ac ymdeimlad gwirioneddol o ddathlu.Mae REACH yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mewn gweithdai, rydym yn clywed straeon sydd heb gael eu clywed o’r blaen i uwcholeuo a chryfau balchder, yn ogystal â defnyddio talentau pobl leol i herio’r stigma y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. Gwrandewch ar beth sydd gan Eve, Cydlynydd Iechyd a Lles ar gyfer First Choice, i'w ddweud"Being part of the Wales REACH Project, I've loved seeing a core group form of people who are passionate about learning, sharing and creating. Wales REACH has provided the group with opportunities to try new things and form new friendships; some of these people may have never otherwise crossed paths despite their common interests. Their energy and enthusiasm has been infectious and it's been wonderful to join in with some of the sessions, hosted by kind and knowledgeable facilitators".Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.
Wythnos yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru efo Cari a Mali Cari a Mali, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2025 Diwrnod 1 Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Yn ein diwrnod cyntaf yma bu i ni fynd am dro o amgylch yr ardal gan ehangu ein dealltwriaeth am hanes y chwareli. Yn ogystal, bu i ni ymweld gyda’r Ysbyty Chwarel gan ddysgu mwy am afiechydon a chlefydau a byddai’r chwarelwyr yn eu hwynebu.Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?Gan fod disgyblion ysgol wedi dod i ymweld gyda’r Amgueddfa cawsom ddysgu sut i weithio gydag ymwelwyr - yn enwedig plant iau, a dysgu mwy am yr ardal o wrando ar y cyflwyniad. Wrth gerdded o amgylch yr ardal, yn sicr, rydym wedi dysgu llawer mwy am hanes y chwareli a’r chwarelwyr.Diwrnod 2Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw yr aethom ni i Gastell Penrhyn. Yma, bu i ni gerdded o amgylch y castell a gwylio arddangosiad naddu a hollti. Yn yr arddangosfa cawsom ddysgu fwy am ddylanwad llechi, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Gofynnom hefyd am adborth gan y gwylwyr. Tra yn ymweld â’r Castell, bu i ni ddarganfod gwely wedi ei greu yn gyfan gwbl o lechan!Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?Wrth drafod gyda chynulleidfa’r arddangosfa, bu i ni ddatblygu sgiliau trafod cyhoeddus a derbyn adborth ac roedd o fodd er mwyn magu hyder a sgiliau cyfathrebu. Diwrnod 3Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Diwrnod hanesyddol heddiw yn Ysbyty’r Chwarel. Cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol o’r ysbyty, yr ardal, y chwareli a’r chwarelwyr. Daethom yn ôl i’r swyddfa wedyn i weithio ar ein blog ac am gyfarfod.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Drwy weithio ar y blog rydym wedi cryfhau ein sgiliau dylunio, gwirio ac iaith. Ac wrth gwrs, drwy wario amser yn Ysbyty’r Chwarel cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol.Diwrnod 4Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw cawsom roi ein sgiliau ffilmio a technegol i’r defnydd drwy gymryd clipiau fideo ar gyfer ‘insta reels’. Erbyn diwedd y dydd roeddem wedi casglu clipiau fideo ar gyfer reel ‘Helfa Natur’ ac ar gyfer reel ‘Wythnos Profiad Gwaith’.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Yn sicr, cryfhaom ein sgiliau TGCh wrth ddefnyddio camerâu, mics, a dysgu sut i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Diwrnod 5Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw roedden ni'n help setio fyny stondin yr Amgueddfa Lechi ar gyfer Trail Marathon Eryri 2025. Ar ôl hynny daethom yn ôl i’r swyddfa i orffen ein blog ac y reels.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Drwy setio’r stondin i fyny cryfhaom ein sgiliau gwaith tîm ac wrth gwrs ein sgiliau corfforol! Drwy orffen y blog a'r reels fe wnaeth ganiatáu inni gryfhau eich sgiliau golygu a thechnoleg.Ewch draw i Facebook i weld Reel sy'n cofnodi amser Cari a Mari ar brofiad gwaith i glywed fwy!