Casgliadau ac Ymchwil

Hwylio i Bennod Newydd: Ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Nicole Deufel, 25 Medi 2025

Yn gynharach eleni, cymerais y llyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac wrth i ni gyrraedd yr Hydref mae eisoes yn teimlo fel pe baem yn dal y gwynt yn ein hwyliau. O’r diwrnod cyntaf, cefais fy ysbrydoli gan angerdd ac arbenigedd ein tîm, sy’n caru straeon rhyfeddol ein casgliadau. Mae eu mewnwelediadau, ynghyd â’r croeso cynnes a gefais gan Abertawe ei hun, wedi fy argyhoeddi o un peth: bod gan yr amgueddfa yma y potensial i fod yn gyrchfan sy’n synnu, yn swyno ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd. 

Angori Ein Stori

Un o’r heriau cyntaf yr ydym yn eu hwynebu yw sut rydym yn adrodd ein stori. Mae ymwelwyr yn aml yn cyrraedd heb wybod ble dylai eu taith ddechrau. Gyda thair mynedfa wahanol a llwybrau troellog, mae’n hawdd colli’ch ffordd. Ychwanegwch at hynny’r disgwyliad (ar sail ein henw a’n lleoliad) fod yr amgueddfa’n ymwneud â’r môr a straeon morwrol Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam y gall rhai ymwelwyr adael yn ddryslyd. 

Mae ymwelwyr hefyd yn aml yn chwilfrydig ynghylch stori ein warws haneysddol. Beth oedd ei bwrpas? Pam fod y warws yma? Am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi adrodd stori’r adeilad rhyfeddol yma i’n hymwelwyr. 

Mae’r warws yn sefyll yn ei leoliad gwreiddiol, lle bu unwaith yn edrych allan dros ddoc prysur yn llawn llongau, gweithwyr, a rhythm diwydiant. Yma, bu’r warws yn rhan o’r cyfnewid mawr rhwng diwydiannau trwm Cymru a gweddill y byd ar draws y môr.

Dyna’r stori a’n hysbyrdolodd i droi ein golygon tua’r môr, i adael i’r môr arwain sut rydym yn adrodd straeon: y môr yw gwir galon ein gweledigaeth. Y môr yw’r edefyn sy’n cysylltu popeth – diwydiant, celf, archeoleg, a bywydau cymunedau ledled Cymru. O allforio glo a chopr, i deithiau teuluoedd a groesodd y cefnforoedd, mae stori Cymru’n stori a luniwyd gan y môr. 

A pha le gwell i adrodd y stori yma na’n warws haneysddol? Adeiladwyd yn 1900 wrth ymyl Doc y De – bellach yn gartref i Farina Abertawe – ac mae’r adeilad ei hun yn dal i sibrwd ei orffennol diwydiannol. Mae traciau rheilffordd yn rhedeg ar hyd y llawr, ac mae swyddfa’r Harbour Trust a’r Tŷ Pwmp yn dal i sefyll gerllaw. Dyma hanes y gellir ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo o’ch cwmpas. 

Agor y Drysau i’r Môr

Rydym eisoes wedi dechrau ar newidiadau bach ond pwerus. Mae ffenestri caeedig y warws bellach ar agor unwaith eto, gan adael golau i mewn a chysylltu’r gofod gyda’r Marina y tu allan. Mae’r weithred syml yma wedi trawsnewid yr awyrgylch, ac mae’n teimlo fel bod yr adeilad yn anadlu unwaith eto. Rydym hefyd wedi tynnu strwythurau arddangos swmpus oedd yn rhwystro’r olygfa, gan wneud yr amgylchedd haneysddol yn rhan o brofiad yr ymwelydd unwaith eto. 

Mae’r Neuadd Weston, sy’n cysylltu’r Oriel Newydd â’r Warws hefyd wedi gweld rhai newidiadau. Rydym wedi cael gwared ar yr annibendod ac wrthi yn datblygu’r gofod i fod yn ardal croesawgar ac ysbrydoledig. Yma, bydd ymwelwyr yn dod ar draws canolbwyntiau trawiadol – gwrthrychau bydd yn eich stopio gan roi’r foment “WOW” i chi!

Dychmygwch hyn: yr optic goleudy South Bishop o 1842, wedi’i adfer i’w gyflwr gweithio, ei ben uchaf yn disgleirio bob dydd pan gaiff ei droi â llaw. Neu gerbyd rheilffordd hanesyddol wedi’i osod ar y traciau gwreiddiol, gan wneud gorffennol diwydiannol y warws yn weladwy ar unwaith. Nid arddangosfeydd yn unig mohonynt, ond pileri ein hunaniaeth gan gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar y môr, Abertawe fel Dinas Noddfa, a chysylltiadau dwfn rhwng Cymru a gweddill y byd. 

Golygfa Gyda’ch Coffi

Mae’n debyg hefyd y bydd ein caffi’n symud. Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o’i leoli i fyny’r grisiau er mwyn manteisio ar ein balconi sy’n edrych allan dros y Marina. Dychmygwch yfed eich coffi gyda golygfa banoramig o’r glannau. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i drawsnewid Mynedfa’r Marina yn fynedfa ddiddorol i groesawu’r nifer cynyddol o bobl sy’n pasio heibio. 

Gorwelion Newydd ar gyfer Arddangosfeydd

Hyd yma, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro yn Neuadd Weston, gofod na chafodd ei gynllunio ar gyfer cynnal arddangosfeydd. Canlyniad hyn oedd cyfaddawdau a chyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei ddangos. Mae hyn ar fin newid!

Rydym yn disgwyl creu orielau pwrpasol ar y mesanîn yn yr Oriel Newydd. Bydd y gofod hyblyg yma yn caniatau i ni gynnal arddangosfeydd uchelgeisiol o safon uchel a fydd yn synnu ac yn ysbrydoli, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. 

Edrych Ymlaen

Mae’r daith o’n blaen yn un gyffrous i ni fel amgueddfa ac i Abertawe. Ein cynllun yw ail-ddatblygu’r Oriel Newydd a’r Warws yn unol â safonau arddangos modern, gan osod cymunedau ac ysbrydoliaeth i bawb yn greiddiol i’n gwaith. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn llunio’r manylion, yn gweithio gyda chymunedau ac ymwelwyr, ac yn mapio sut i adrodd stori Cymru trwy lens y môr.

Hyd nes hynny, disgwyliwch newidiadau bach ond pwerus – eiliadau annisgwyl, cyfarfyddiadau llawen, a safbwyntiau newydd sy’n amlyug sut mae’r môr wedi siapio bywyd ledled Cymru. 

Amgueddfa Fyw i Bawb

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma, y mae eu syniadau a’u brwdfrydedd yn ein llywio ymlaen. Gyda phobl Abertawe a’n hymwelwyr, rydym yn gwneud Y Glannau yn lle i’w archwilio, ei fwynhau, a’i ddathlu – amgueddfa fyw, llawn profiadau llawen a rhyngweithiol i bawb. 

Felly dewch ar y daith gyda ni. Mae’r llawn’n troi, ac mae pennod newydd yn hanes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd ddechrau. 

Slipmats DJ Jaffa

Kieron Barrett, 15 Gorffennaf 2025

Mae slipmat yn ddarn allweddol o offer DJ pan yn chwarae feinyl, yn enwedig i DJs sy hefyd yn crafu neu'n gwneud triciau eraill gyda'r trofwrdd. Mae llawer o DJs, gan gynnwys Jaffa, wedi darganfod yn gyflym iawn fod defnyddio system hi-fi mam a dad i ddysgu crafu yn mynd i ddifetha'u casgliad recordiau nhw. Yn hytrach na rhwbio'r feinyl yn erbyn rwber neu blastig y trofwrdd, mae slipmat yn gadael i ti symud y record yn ôl ac ymlaen yn gelfydd heb farcio'r feinyl. Am y rheswm yma'n unig, roedd angen i ni gynnwys pâr o slipmats yn yr arddangosfa, ond nid unrhyw bâr sydd gyda ni, ond y pâr cyntaf erioed i DJ Jaffa ei brynu.

Os nad wyt ti’n gyfarwydd â’r sin Hip Hop yng Nghymru, falle bo ti ddim wedi clywed am DJ Jaffa o'r blaen, felly dyma ychydig o’r hanes. Mae stori Jaffa hefyd yn cynnwys rhai o'r eitemau eraill yn yr arddangosfa, ac fe esbonia i fwy am y slipmats yna hefyd.

Fel llawer o bobl eraill yng Nghymru a'r DU, blas cyntaf Jason Farrell, neu DJ Jaffa, ar Hip Hop oedd fideo miwsig Malcolm McLaren, 'Buffalo Gals', oedd yn dangos graffiti, brecio, crafu a rapio gan artistiaid Efrog Newydd. Mae hefyd yn cofio cael cip ar y diwylliant ar raglen BBC2 Entertainment USA yn 1983.

Ond nid y World Famous Supreme Team DJs o'r fideo yna oedd e'n trio'u hefelychu ar y dechrau, ond brecwyr y Rock Steady Crew. Dechreuodd ymarfer mor aml ag y gallai, gartref ac yn yr ysgol, gan ddefnyddio unrhyw luniau neu glipiau o'r teledu y gallai gael gafael arnyn nhw. Pan oedd 'brecddawnsio' ar ei fwyaf poblogaidd ar ôl ffilmiau fel Beat Street a Breakdance the Movie yn 1984, roedd eisoes yn freciwr da iawn, ac fe gymerodd ran yn ei frwydr go iawn gynta yn erbyn criw o Bort Talbot yng nghanol dinas Caerdydd.

Does dim lle i roi holl hanes Jaffa yma, ond mae'r darn yma'n allweddol i gam nesaf ei ddatblygiad achos wedi brwydr yn erbyn criw o Fryste, daeth yn ffrindiau gyda nhw a dechrau treulio'u benwythnosau yn y ddinas dros y bont. Roedd yn mynd i bartïon Wild Bunch ac yn gweld y sîn ym Mryste yn tyfu o flaen ei lygaid, a sylwodd hefyd ar sut oedd darpar-aelodau Massive Attack yn mynd i ati i ddysgu'r grefft o DJio.

Ond y foment dyngedfennol, pan sylweddolodd ei fod e am droi at y decs, oedd gwylio'i ffrind Dennis Murray yn perfformio triciau trofwrdd ar system sain Galaxy Affair. Gyda llaw, Dennis Murray – neu DJ Easygroove – oedd un o arloeswyr y sîn rêfs.

Roedd DJ ei ganolfan ieuenctid leol yn yr Eglwys Newydd yn gadael i Jaffa chwarae recordiau o bryd i'w gilydd ac fe ddatblygodd ffordd o ddysgu crafu ar y system hi-fi gartref, gan ddefnyddio slipmats cardfwrdd syml y creodd ei hun. Dilyn ei glust oedd ffordd Jaffa o ddysgu, gan ddadansoddi clipiau sain byw o Bencampwriaeth y DMC lle'r oedd trofyrddwyr gorau'r byd yn cystadlu. Ond, pan gafodd ei set gyntaf o ddecs recordiau proffesiynol yn 1986, buan iawn y cyrhaeddodd ei sgiliau DJ y lefel nesaf.

Wrth gwrs, roedd yn rhaid prynu set go iawn o slipmats hefyd. Roedd wedi bod yn prynu recordiau o siop Spin-Offs yn Fulham Palace Road yn Hammersmith, gorllewin Llundain, trwy'r post yn bennaf bryd hynny. Greg James, y DJ o Efrog Newydd, oedd perchennog y siop. Roedd wedi symud i Lundain i helpu agor clwb nos The Embassy yn 1978. Mae Greg yn cael ei gydnabod yn eang fel y DJ cyntaf i ddod â steil disgo – cyfuno recordiau'n gelfydd a di-dor – i'r DU.

Roedd Spin-Offs hefyd yn adnabyddus am werthu'r offer DJ diweddaraf, felly dyma'r lle perffaith i ffeindio'r slipmats gorau. Mae Jaffa'n cofio mai DJ Richie Rich a'i wasanaethodd y diwrnod hwnnw. Roedd e’n DJ uchel ei barch ar y pryd, ac roedd ganddo ei sioe ei hun ar Kiss FM, yn y dyddiau pan oedd yn orsaf radio heb drwydded. Cafodd ambell i lwyddiant gyda recordiau Hip Hop a Hip House tanddaearol yn yr 80au a'r 90au, a dechreuodd label Gee Street.

Mae'r ffaith bod yr enw 'Mixmaster' ar y slipmats yn ddiddorol. Llond llaw o DJs gyda'r enw yna oedd bryd hynny. Nid oedd Mix Master Mike eto wedi ymuno â'r Beastie Boys nac wedi dechrau ei yrfa. Roedd Mixmaster Spade yn dal i wneud tapiau tanddaearol yn Compton, Califfornia. Y tri alla i feddwl am tua 1986 yw: Mixmaster Morris a'i Mongolian Hip Hop Show ar orsaf radio heb drwydded Network 21 yn Llundain, Mixmaster Ice o'r grŵp U.T.F.O yn Efrog Newydd a Mixmaster Gee and the Turntable Orchestra o Long Beach a gafodd gwpl o lwyddiannau tanddaearol gyda MCA Records. Ond dwi'n colli'r trywydd braidd nawr.

Fe wnaeth Jaffa gloi ei hun yn ei ystafell, ac ymarfer. Ymhen hir a hwyr, cafodd ei berswadio i osod ei ddecs tu allan i siop Rudi's Donut yng nghanolfan y Capitol ar ddiwedd Stryd y Frenhines, Caerdydd. Er bod rhai DJs clwb yn chwarae Hip Hop yn lleol ar y pryd, fel Paul Lyons yn Lloyds, mae llawer yn ystyried hwn fel y jam Hip Hop go iawn cyntaf yn y ddinas. Daeth Jaffa â meicroffon gyda fe, ac un rapiwr yn unig roddodd gynnig arni, sef Dike (ynganiad Dî-cei) o Gabalfa.

Ar ôl hwnna, roedd jams Hip Hop yn digwydd yn rheolaidd ar bnawn Sadwrn yng nghanolfan ieuenctid Grassroots. Byddai Jaffa ar y decs, a rapwyr fel Dike, Mello Dee (4Dee yn ddiweddarach) ac MC Eric (Me-One yn ddiweddarach) ar y meic. O'u cwmpas, ffurfiodd criw o'r enw Hard Rock Concept oedd yn cynnwys rapwyr, artistiaid graffiti ac wrth gwrs, Jaffa. Yn y cyfnod yma, roedd criwiau'n fwy amlwg nag unigolion, ond tua diwedd yr 80au, fe adawodd Jaffa ac Eric y criw a symud i Lundain. Wedi hynny cawsant gontract mawr gyda label Jive Records, ac ymddangosodd eu traciau ar yr albyms detholiad Def Reggae a Word Four o dan yr enw Just The Duce. Mae'r albyms yn yr arddangosfa hefyd.

Dychwelodd Jaffa i Gaerdydd yn y diwedd, a chafodd Eric lwyddiant byd-eang gyda Technotronic. Yn ystod y 90au cynnar, symudodd llawer o bobl oddi wrth Hip Hop draw i'r sîn rêfs a ddaeth yn anferth bron dros nos, ond fe helpodd Jaffa i gadw'r diwylliant i fynd gyda 4Dee, ei chwaer Berta Williams (RIP) a The Underdogs – sefydliad ieuenctid yn Llaneirwg oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fel dawns Hip Hop, rapio a DJio. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y sîn byth ers hynny, ac wedi bod yn rhan o brojectau di-ri dros y blynyddoedd – o Rounda Records i grwpiau fel Tystion, Manchild, Erban Poets a Kidz With Toyz ac yn ddiweddar, Xenith.

Torrodd record y DU am y set DJ hira erioed pan fu wrth y decs am 70 awr, er iddo fethu curo Record y Byd o ddim ond pedair awr. Cefnogodd Snoop Dogg ar ei daith o'r DU ac mae'n dal i DJio bob penwythnos. Mae'n cyflwyno sioe This That & The Third ar yr orsaf Radio Raptz ym Mharis, gan chwarae recordiau artistiaid Cymreig mor aml â phosibl. Mae wedi bod yn rhan o recordiau ar draws y byd, fel DJ a chynhyrchydd, gan gynnwys The Yellow Album gan The Simpsons (gallwch ei glywed yn crafu ar y trac ‘The Ten Commandments of Bart’, a Dike wnaeth gyd-ysgrifennu'r geiriau).

Mae Jaffa hefyd wedi bod yn rhan annatod o greu'r arddangosfa hon, a'i wyneb ef sy ar ein posteri, felly mae'n teimlo'n addas i ni ganolbwyntio ar ei slipmats yma. Gobeithio bo chi hefyd yn gweld ar ôl darllen yr erthygl yma pam rydyn ni mor gyffrous i'w dangos. Dewch yn ôl at y blog yma i glywed mwy am eitemau eraill sy'n rhan o arddangosfa Hip Hop: Stori Cymru.

Blog Cadwraeth: Glanhau yng Nghastell Sain Ffagan

Sarah Paul, Prif Gadwraethydd, 14 Gorffennaf 2025

Dyma her i chi! Mae gennych chi dridiau i lanhau pum ystafell enfawr, sydd ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos. Sut mae mynd ati i lanhau'r paneli, paentiadau a photiau i gyd? A beth am gaboli'r dodrefn ac adfywio'r llenni a'r carpedi yn y plasty hwn a adeiladwyd tua 1580, gyda chasgliadau sy'n adlewyrchu ysblander ei gyfnod? Wel, yr ateb yw – gyda chriw o gadwraethwyr, glanhawyr a gwirfoddolwyr medrus ac arbenigol, sgaffaldiau, ysgolion (gan gadw rheoliadau gweithio ar uchder mewn cof!) brwshys, sugnwyr llwch, clytiau, toddyddion, swabiau gwlân cotwm, nerth bôn braich, dyfalbarhad, brwdfrydedd, paned a siocled!

Ar ddiwedd Mehefin 2025, aeth yr Adran Gadwraeth, dan oruchwyliaeth yr Uwch Gadwraethydd Dodrefn, ati i lanhau'r gofodau cyhoeddus yn drylwyr. Parhaodd y Castell i fod ar agor i ymwelwyr yn ystod y cyfnod hwn.

Er mwyn sicrhau bod popeth wedi’i lanhau’n drwyadl, roedd rhaid i ni gael gwared ar yr haenau o ddeunydd gronynnol ym mhob twll a chornel o'r dodrefn a'r ffitiadau. Byddai hyn yn llonni ystafelloedd y Castell a gwella profiad ein hymwelwyr. O safbwynt cadwraeth, mae'r dasg flynyddol hon yn hynod bwysig gan ei bod yn cael gwared ar y baw sy'n gallu bod yn ffynhonnell o fwyd i blâu llwglyd a llwydni. Mae presenoldeb y baw hwn yn cynyddu'r risg o ymosodiad biolegol ar ein casgliadau unigryw. Mae glanhau hefyd yn gwaredu deunydd gronynnol, sydd, yn yr amodau amgylcheddol cywir, yn gallu cyflymu dirywiad gwrthrychau yn ein gofal.

Dechreuon ni yn y neuadd fwyta, i'r dde o'r brif fynedfa. Gan weithio fel tîm, tynnon ni wrthrychau oddi ar y waliau, gan symud gwrthrychau llai i hen neuadd y gweision. 

Cafodd y gwrthrychau mwy, megis y soffa Edwinsford, y byrddau a'r seldau eu symud yn ofalus i ganol yr ystafell er mwyn i ni allu eu glanhau’n drylwyr, yn ogystal â glanhau’r gofodau lle maent fel arfer yn sefyll.

Ar ôl tridiau o ddringo ysgolion, brwsio eitemau cain ac addurnedig, llawer o hwfro a defnyddio emylsiynau mewn toddiant ac olew caledu i amddiffyn celfi gyda haenau gwarchodol, roedd y dasg o lanhau'r Castell wedi'i chwblhau. ⁠

Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ffrwyth ein llafur. Dim ond un o dros 50 o adeiladau hanesyddol yw'r Castell – pob un angen rhaglen dreigl o ofal a chynnal a chadw er mwyn iddynt barhau i fod yn hygyrch i bawb. Efallai y byddwch chi'n gweld ein timau cadwraeth a glanhau wrth eu gwaith ar y safle y tro nesaf i chi ymweld â'r Amgueddfa. Os ydych chi, dewch i ddweud helo. Bydden ni wrth ein boddau i ateb unrhyw gwestiynau ar lanhau'r adeiladau a'r casgliadau hanesyddol.

Hip Hop: Stori Cymru

Kieron Barrett, 9 Gorffennaf 2025

Mae dau gwestiwn wedi bod ar flaen fy meddwl wrth guradu Hip Hop: Stori Cymru ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yn gyntaf, 'beth yw Hip Hop?' ac yn ail, 'beth yw amgueddfa?'. Byddech chi'n meddwl bod y ddau'n gymharol hawdd i’w hateb, ond dwi dal ddim wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae chwilio'n barhaus am ryw fath o ateb wedi bod yn sail i'r project.

Fe ddylai'r cwestiwn cyntaf ddod yn haws i mi. Rydw i wedi dilyn Hip Hop ers dechrau'r 80au ac mae'n rhan bwysig o fy hunaniaeth. Ar wahanol adegau, dwi wedi bod yn rapiwr, DJ, hyrwyddwr, blogiwr a rheolwr artistiaid, ond yn bennaf oll, dwi wedi bod yn ffan o'r holl agweddau ar ddiwylliant Hip Hop. Hip Hop yw fy nghefndir, nid amgueddfeydd. Ond, mae'r gyfrifoldeb o greu arddangosfa fel hyn wedi bod yn hollbwysig i fi. I wneud cyfiawnder â hynny, roedd yn rhaid i fi gamu i ffwrdd o fy mherthynas fy hun â Hip Hop er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli trawsdoriad o'r wlad. Roedd yn rhaid i fi ymchwilio i'r nifer fawr o ffyrdd y mae Hip Hop wedi dod yn rhan o ddiwylliant Cymru ac mewn llawer o achosion hunaniaeth Gymreig. Roeddwn i eisiau archwilio a dathlu'r effaith mae Hip Hop wedi'i gael ar Gymru ers iddo gyrraedd, ddechrau'r 80au.

Er i Hip Hop ddechrau yn y 1970au, tua diwedd 1982 y dechreuodd y diwylliant afael yma. Roedd yn hawdd ffurfio hunaniaeth gyfunol bryd hynny gan mai dim ond 4 sianel deledu a hyn a hyn o ddeunydd print oedd ar gael. Ond, mae Hip Hop wedi newid mewn cymaint o ffyrdd ers dyfodiad y we a globaleiddio, felly dyw e ddim yn hawdd rhoi eich bys ar beth yw Hip Hop bellach.

Mae'n sgwrs hir, a dwi'n siŵr na fydda i'n llwyddo i’w datrys yma, ond roedd yn bwysig i fi glywed meddyliau a phrofiadau cymaint o bobl â phosibl. Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa yn un triw, roedd yn rhaid i ni gynnwys lleisiau pobl sy'n hŷn ac yn iau na fi, yn ogystal â fy nghyfoedion. Fe deithiais i hyd a lled Cymru a siarad â llawer o bobl roeddwn i'n eu 'nabod a llawer nad oeddwn i'n eu 'nabod – yng Nghasnewydd, Caerdydd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Caerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth, Bangor, Conwy, Bae Colwyn, Wrecsam a llawer o drefi a phentrefi llai eraill ar hyd y daith. Recordiwyd dros 70 o gyfweliadau, a bydd llawer ohonynt yn cael eu cynnwys yn archif hanes llafar yr Amgueddfa. Fodd bynnag, fe wnes i gwrdd â channoedd mwy ar hyd y ffordd – mae'r project hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd enfawr. Rhaid i fi hefyd ddiolch yn arbennig i Luke Bailey a gasglodd nifer o gyfweliadau pwysig ar ffurf podcast a oedd yn gyfraniad amhrisiadwy at y gwaith ymchwil.

Bues i'n tyrchu trwy nifer o archifau hefyd yn chwilio am straeon a gwybodaeth. Papurau newydd, llyfrgelloedd a'r BBC yn arbennig. Roeddwn i'n gwybod am nifer o fideos ac erthyglau ond roedden nhw'n amhosib i'w ffeindio. Treuliais oriau'n pori trwy wefannau ac erthyglau ar y we, a dwi'n ddiolchgar i Dr Kieran Nolan, sylfaenydd irishhiphop.com am ddod o hyd i rai o dudalennau archif fy hen wefan, welshhiphop.com o'r flwyddyn 2000. Ffeindiais i rai lluniau anhygoel, ond roedd blynyddoedd o'u rhannu ar y we wedi effeithio ar eu hansawdd. Bues i'n hela sgwarnog sawl tro, wrth i fi geisio cael fy nwylo ar y fersiynau gwreiddiol, ond roeddwn i'n darganfod mwy o leisiau a mwy o straeon. Ac yn anochel, arweiniodd hyn at ganfod rhagor o luniau a rhagor o wrthrychau i ni eu rhannu â chi. Bues i'n ceisio cysylltu â rhai pobl am flynyddoedd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn i ni siarad wyneb yn wyneb. Roedd yn cymryd amser i ni feithrin perthynas ac ymddiriedaeth fel bo nhw'n hapus i ddatgloi eu hatgofion â rhoi benthyg rhai o'r gwrthrychau roedden nhw'n eu trysori fwyaf i ni. Dwi'n dal i deimlo pwysau'r cyfrifoldeb mawr yma dros bopeth sydd yn yr arddangosfa.

Dechreuais i dynnu themâu allan o'r cyfweliadau a'r sgyrsiau. Y mwyaf cyffredin oedd cymuned a chystadleuaeth. Nid oedd y themâu hynny'n rhan o brofiad pawb, ond roedden nhw'n ddigon cyffredin fel eu bod yn dechrau troi'n naratif ar gyfer yr arddangosfa. Mae camsyniad cyffredin wedi bod mai creu cofnod o hanes Hip Hop yng Nghymru ydyn ni. Efallai bod hyn yn digwydd am fod pobl yn gweld amgueddfeydd fel lle i rannu hanes, ac mai’n bosibl mae dyna ran o'u swyddogaeth. Doedd nifer o bobl ddim eisiau cymryd rhan am yr union reswm yna ar y cychwyn, am nad oedden nhw'n barod i gael eu gwthio i'r gorffennol. Yn sicr, nid dyna bwrpas yr arddangosfa hon, ac nid dyna sut dwi'n gweld amgueddfeydd chwaith. I fi, mae amgueddfeydd yn ein helpu i archwilio ein hunaniaeth, yn enwedig ein cenedligrwydd. Yn Oes Fictoria ac Edward, mae'n debyg bod hyn yn fwy penodedig, ond nawr mae'n sgwrs sy'n esblygu bob dydd a dwi mor falch bod Hip Hop yn rhan o'r sgwrs yna o'r diwedd.

Ond, wedi dweud hynny, dim ond crafu'r wyneb ydyn ni wedi gallu ei wneud. Byddai angen adeilad cyfan a mwy er mwyn creu hanes cyflawn o Hip Hop yng Nghymru. Fe glywais i bodcast gan Neil deGrasse Tyson oedd yn disgrifio nod amgueddfa fel ‘ysbrydoli pobl i ddysgu mwy’ a dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn i chi. Byddwn ni'n dal i roi mwy o wybodaeth a chyd-destun yn y blog yma dros y misoedd nesaf.

Roeddwn i'n meddwl bo fi'n gwybod am Hip Hop yng Nghymru pan ddechreuais i'r project yma ond dwi wedi dysgu cymaint ar hyd y ffordd. Mae ein hanes Hip Hop ni mor gyfoethog, ac mae dylanwad y diwylliant i'w weld ym mhob man os edrychwch chi'n ddigon agos. Dwi'n gwybod fod pobl yn nerfus am y ffordd y bydd Hip Hop yn cael ei gynrychioli. Wir i chi, does neb yn fwy nerfus na fi am gael hynna'n gywir. Dwi mor ddiolchgar am y tîm anhygoel sydd wedi tynnu popeth at ei gilydd – fydden i byth wedi dyfalu bod cymaint o waith yn mynd i mewn i arddangosfa mewn amgueddfa cyn cychwyn ar hon. 

Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr arddangosfa mor hygyrch â phosibl i gynifer o bobl â phosibl, ac roedd rhaid iddo fod yn hanesyddol ac yn academaidd gywir hefyd. Roedd hyn yn golygu treulio oriau o fy amser fy hun yn gwneud fy ngwaith cartref ar Hip Hop a dadbacio'r chwedlau niferus sy'n sail iddo. Llyfrau, papurau academaidd, cyfweliadau, rhaglenni dogfen, erthyglau. Mae'n anodd craffu ar rywbeth rydych chi'n ei garu cymaint ond ymchwil gefndirol oedd hwn i raddau helaeth. Yng Nghymru rydyn ni wedi addasu a cherfio ein pennod ein hunain yn hanes Hip Hop. Rydyn ni'n adleisio'r llinynnau ehangach yn y stori – brwydro, derbyn, hunanfynegiant, cystadleuaeth iach a throsglwyddo'r fflam i'r cenedlaethau ddaw ar ein hôl. Mae yna lawer o straeon sy'n werth eu hadrodd, ac rydym wedi tynnu sylw at rai i greu Hip Hop: Stori Cymru. Rydyn ni wir yn gobeithio y byddwch yn galw i weld yr arddangosfa ac yn gadael wedi'ch ysbrydoli, fel yr oedden ninnau wrth weithio arni.

Mark Etheridge ar Hanes ac Actifaeth LGBTQ+

Mark Etheridge, 27 Chwefror 2025

Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+

Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+
© Amgueddfa Cymru

Mae’n Fis Hanes LHDTQ+ a’r thema eleni yw Ymgyrchedd a Newid Cymdeithasol. Wedi’i sefydlu gan Schools Out yn 2025, mae Mis Hanes LHDTQ+ yn ofod penodol, neilltuedig i ddathlu hanes amrywiol a chyfoethog ein cymunedau LHDTQ+.

I nodi’r achlysur, buom yn cyfweld â’n prif guradur casgliadau LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru i archwilio’r eitemau yn ein casgliadau sy’n cofnodi’r adegau allweddol hyn yn hanes ymgyrchedd LHDTQ+ Cymru.

Helô Mark, a hoffech chi gyflwyno eich hun a dweud mwy wrthym am eich rôl yn Amgueddfa Cymru?

Hoffwn. Mark Etheridge ydw i. Fi yw Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru, yn gweithio o Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Dechreuais y rôl hon wrth ddatblygu’r casgliad LHDTQ+ yn ôl yn 2019, ar adeg pan oedd nifer fach iawn o wrthrychau y gellid eu nodi fel rhai LHDTQ+. Roedd y gwrthrychau hyn yn ymwneud yn bennaf â ffigyrau hanesyddol, digwyddiadau Pride Cymru, ac Adran 28, ond nid oeddent ar unrhyw gyfrif yn cynrychioli croestoriad y gymuned LHDTQ+ gyfan ledled Cymru, yn y gorffennol ac mewn profiadau cyfoes ill dau.

Rwyf wedi gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol ac unigolion dros y blynyddoedd diwethaf i adeiladu casgliad sy’n llawer mwy cynrychioliadol ac mae gennym bellach gasgliad o dros 2,200 o eitemau wedi’u nodi fel rhai LHDTQ+.

Baner brotest a wnaed gan CYLCH mewn gwrthdystiad yn erbyn Adran 28.

Baner brotest a wnaed gan CYLCH mewn gwrthdystiad yn erbyn Adran 28. 
© Amgueddfa Cymru

Mae’n Fis Hanes LHDTQ+ a’r thema ar gyfer eleni yw Ymgyrchedd a Newid Cymdeithasol. Gyda’ch gwybodaeth am hanes LHDTQ+ yng Nghymru ac o’ch profiad eich hun, pa newidiadau ydych chi wedi’u gweld?

Mae thema eleni yn cyd-fynd yn dda â’n casgliadau a’n cas arddangos LHDTQ+ newydd, Cymru... Balchder, yn Sain Ffagan, sef yr arddangosfa barhaol gyntaf o hanes LHDTQ+ yn Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa’n dangos sut mae hawliau cyfartal wedi newid dros y 50-60 mlynedd diwethaf a sut y maen nhw’n esblygu ac yn newid heddiw. Rydyn ni wedi gweld – a dyma beth mae’r cas newydd yn ei esbonio – pethau fel dad-droseddoli cyfunrhywiaeth yn rhannol ym 1967, ffurfio grwpiau fel Ffrynt er Rhyddid Pobl Hoyw Caerdydd yn y 1970au cynnar, protestiadau yn erbyn Adran 28 ar ddiwedd y 1980au a’r 90au, hyd at rai o’r protestiadau hawliau traws mwyaf diweddar yn erbyn pethau fel therapi trosi, sydd wedi bod yn digwydd yng Nghaerdydd a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Y meysydd rwyf wedi bod yn casglu eitemau ynglŷn â nhw dros y blynyddoedd diwethaf yw’r newidiadau yn 2021 i’r gwaharddiad ar ganiatáu i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed, ynghyd â bil yr Eglwys yng Nghymru a oedd yn caniatáu bendithio priodasau rhwng pobl o’r un rhyw a phartneriaethau sifil o fis Medi 2021.

Felly, dwi’n credu bod y protestiadau a gweithredu presennol ynghylch gwelliannau i hawliau cyfartal yn dangos bod y frwydr yn dal i fynd rhagddi heddiw ac na ddaeth i ben ym 1967.

Adroddiad yn ymwneud â Bil yr Eglwys yng Nghymru, a basiwyd ym mis Medi 2021.

Adroddiad yn ymwneud â Bil yr Eglwys yng Nghymru, a basiwyd ym mis Medi 2021.
© Amgueddfa Cymru

A fyddech chi’n gallu dweud mwy wrthym am yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn Sain Ffagan sy’n ymwneud â’r adegau hynny yn hanes ymgyrchwyr LHDTQ+?

Un o’r eitemau yn y ces yw bil yr Eglwys yng Nghymru. Mi wnes i gasglu nifer o eitemau ynghylch ei gyfreithlondeb, ynghyd ag araith mewn llawysgrifen gan Esgob Llandaf, a siaradodd o’i blaid. I gyd-fynd â’r eitemau hyn ac i ddod ag elfen bersonol i’r foment hanesyddol hon, fe gesglais drefn gwasanaeth ar gyfer dau ddyn hoyw y bendithiwyd eu priodas yn dilyn y bil.

Gyda llawer o’r casglu rwy’n ei wneud, nid yw’n ymwneud â’r ffeithiau ynghylch y newidiadau mewn hawliau cyfartal yn unig, mae’n ymwneud â sut mae’n effeithio ar y gymuned LHDTQ+ a’r straeon personol o’u cwmpas.

Mae’n arbennig iawn ein bod ni’n gallu clywed am y profiadau personol y tu ôl i’r digwyddiadau hanesyddol hyn. A allech ddweud ychydig wrthym am sut yr ydych yn mynd ati i gaffael y darnau hyn, yn enwedig pan fyddant yn eitemau personol?

Placard 'Raid Gwahard Therapi Trosi'. Defnyddiwyd mewn protest, a drefnwyd gan Trans Aid Cymru, yn erbyn therapi trosi, 26 Ebrill 2022.

Placard 'Raid Gwahard Therapi Trosi'. Defnyddiwyd mewn protest, a drefnwyd gan Trans Aid Cymru, yn erbyn therapi trosi, 26 Ebrill 2022.
© Amgueddfa Cymru

Weithiau mae’n fater o estyn allan at bobl trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu rydych chi’n digwydd cwrdd â rhywun sy’n cynnig rhoi eitem i’n casgliadau.

Rhan ohono hefyd yw gweithio gyda rhai sefydliadau. Mae Trans Aid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn o’m gwaith ac wedi fy helpu i gasglu placardiau a ddefnyddiwyd mewn amrywiol brotestiadau hawliau traws a gynhaliwyd ganddynt yng Nghymru.

Mae’n bwysig ein bod yn meithrin cysylltiadau ag aelodau o’r gymuned LHDTQ+, boed hynny’n unigol neu fel grwpiau cymorth, a’n bod yn darparu man diogel i’r casgliad ac i straeon gael eu hadrodd.

Yn ogystal â Trans Aid Cymru, ydych chi wedi gweithio gydag elusennau a grwpiau LHDTQ+ eraill? A pha rai ydych chi’n credu sydd angen mwy o sylw?

Rydw i wedi gweithio gyda rhai grwpiau fel Glitter Cymru a Pride Cymru ond hefyd wedi gweithio gyda’r grwpiau Pride llai.

Baner a wnaed gan Glitter Cymru, a ddefnyddiwyd yn Pride BAME Cymreig cyntaf a gynhaliwyd ym mis Awst 2019.

Baner a wnaed gan Glitter Cymru, a ddefnyddiwyd yn Pride BAME Cymreig cyntaf a gynhaliwyd ym mis Awst 2019.
© Amgueddfa Cymru

Mae yna rai ohonyn nhw y bues i’n estyn allan atyn nhw yn ddiweddar ac sydd wedi bod yn gefnogol wrth roi gwrthrychau i’n casgliadau, fel Pride Merthyr Tudful, Pride Caerffili a Pride y Fflint.

Rwy’n meddwl bod pob un o’r rhai yr wyf wedi sôn amdanynt yn bwysig i’w cefnogi, gan fod y digwyddiadau Pride llai yn y cymunedau lleol yn hanfodol i ganiatáu i bobl fynychu Pride wrth gynrychioli’r gymuned LHDTQ+ ar yr un pryd a chaniatáu iddi gael ei gweld mewn cymunedau llai.

Mae’n ymwneud â gwelededd. Roedd Glitter Cymru yn gefnogol iawn pan ddechreuais yn y rôl hon gyntaf yn 2019, ac maent yn diwallu angen penodol iawn yng Nghymru o ran cefnogi pobl mwyafrif byd-eang sy’n LHDTQ+. Mae yna lawer o wahanol elusennau a llawer o wahanol grwpiau, i gyd yn cefnogi llawer o wahanol feysydd a chyda’u gwerth eu hunain.

Arwydd o dafarn King's Cross, 25 Stryd Caroline, Caerdydd, 1990au.

Arwydd o dafarn King's Cross, 25 Stryd Caroline, Caerdydd, 1990au.
© Amgueddfa Cymru

Os ystyriwn yr arddangosfa newydd yn Sain Ffagan a’n casgliad ehangach o eitemau LHDTQ+, pa ddarn fyddech chi’n ei ddweud sy’n golygu fwyaf i chi?

Mae’n un eithaf personol. Mae gennym arwydd o dafarn o’r enw’r King’s Cross yng Nghaerdydd, a dyna oedd un o’r tafarndai hoyw cyntaf i mi fynd i mewn iddi ar ôl i mi ddod allan. Roedd yn gyrchfan i bobl hoyw o’r 70au cynnar hyd at pan gaeodd yn 2011.

Mae gen i’r cysylltiad personol hwnnw yno ac rwy’n meddwl bod ein casgliadau yn bwysig o’r safbwynt hwnnw. Rydych am i bobl uniaethu â nhw am ba bynnag reswm, boed hynny er mwyn eu hannog i ymgyrchu’n fwy, neu i’w galluogi i gysylltu ag eitem ar lefel bersonol lle mae’n dod ag atgofion penodol yn ôl.

Rydym am i gasgliadau’r amgueddfa alluogi pobl i wneud y cysylltiadau hynny.

Reg a George yn cael picnic gyda'u ci. Cyfarfu'r ddau ym 1949 a buont gyda'i gilydd am dros 60 mlynedd.

Reg a George yn cael picnic gyda'u ci. Cyfarfu'r ddau ym 1949 a buont gyda'i gilydd am dros 60 mlynedd.
© Mike Parker/Amgueddfa Cymru

Yn hollol, a chan fynd yn ôl at ymgyrchedd a newid cymdeithasol, nid oes angen iddi fod yn brotest o reidrwydd. Ar adegau, dim ond mater o fodolaeth yw hi.

Ie, yn union, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y soniais amdano’n ddiweddar mewn sgwrs am ein casgliad ar Reg Mickisch a George Walton o On the Red Hill. Rwy’n meddwl eu bod yn enghraifft o hynny, ganeu bod yn byw eu bywyd bob dydd gyda’i gilydd ar adeg pan oedd yn anghyfreithlon.

Nid protestio yn unig yw actifiaeth, mae bodoli fel person LHDTQ+, yn enwedig ar adegau pan oedd yn anghyfreithlon neu’n dabŵ, yn fath o actifiaeth ynddo’i hun.

Mae hynny’n rhywbeth rwy’n eithaf awyddus i’r arddangosfeydd eu dangos – nad yw’n ymwneud yn unig â gweithredu o ran protestio a balchder, ond bod llawer o straeon am bobl LHDTQ+ yn byw eu bywydau bob dydd yng Nghymru, a dyna’i gyd.

Yn ogystal â’r cas arddangos LHDTQ+ newydd yn Sain Ffagan, beth hoffech chi ei gyflawni nesaf?

Rydyn ni’n dal i gasglu hanes LHDTQ+, ac rydyn ni’n arbennig eisiau mwy o eitemau yn ymwneud â gweithredu cynnar a straeon cynnar am bobl LHDTQ+ sy’n byw yng Nghymru.

Mae gennym ni’r cas newydd yn Sain Ffagan a phethau – dyweder – cysylltiedig â LHDTQ+ yn yr adran gelf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond mae gennym ni lai ar rai o’n safleoedd eraill.

Felly rwy’n meddwl mai’r cam nesaf yw dechrau defnyddio’r casgliad i greu mwy o arddangosfeydd a’i blethu i stori pob safle a phopeth a wnawn.

Ein arddangosfa LGBTQ+ newydd Cymru… Balchder yn Sain Ffagan

Ein arddangosfa LGBTQ+ newydd Cymru… Balchder yn Sain Ffagan
© Amgueddfa Cymru

Sut byddech chi’n cymharu hanes gweithredu a newid cymdeithasol LHDTQ+ â grwpiau o ymgyrchwyr heddiw a’r dirwedd wleidyddol?

Mae’r frwydr dros hawliau cyfartal yn dal yn mynd rhagddi mewn llawer o ffyrdd. Y pryder i rai pobl yw y gall yr hawliau a roddwyd gael eu tynnu oddi arnynt. Gellir eu tynnu’n ôl yr un mor hawdd ag y gallant symud ymlaen. Gallwn ni ddim cymryd rhai pethau yn ganiataol, ac mae’n rhaid i ni gofio hynny.

Wyddoch chi, mae hyn yn amlwg mewn pethau fel dileu cyfunrhywiaeth fel trosedd ym 1967. Roedd ond yn ddad-droseddoli rhannol o dan amgylchiadau penodol iawn.

Fel gyda bil yr Eglwys yng Nghymru, fe aethon nhw un cam i ganiatáu i briodasau rhwng pobl o’r un rhyw gael eu bendithio yn yr Eglwys yng Nghymru ond wnaethon nhw ddim mynd y cam ymhellach i ganiatáu iddynt briodi.

Pethau bach felly ydyn nhw, lle gallan nhw fod yn un cam ymlaen, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd yn mynd yr holl ffordd.

Diolch, Mark, am gymryd yr amser i drafod ein casgliadau LHDTQ+ mewn perthynas â gweithredu a newid cymdeithasol. Rwy’n llawn cyffro o weld y casgliad yn tyfu ac iddo ddod yn nodwedd barhaol yn stori ein hamgueddfeydd.

© Amgueddfa Cymru

Nawr, hoffem orffen trwy ofyn beth yw eich hoff eitem yn ein casgliadau y tu allan i’ch gwaith?

Cymerwyd y negatif plât gwydr hwn gan Mary Dillwyn ym 1854 neu 1855. Mary yw un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru ac mae’r negatif hwn o gasgliad mawr yn Amgueddfa Cymru a gymerwyd gan aelodau o deulu Dillwyn Llewelyn. Rwyf wrth fy modd bod y ddelwedd hon yn dal yr hyn mae'n debyg yw'r ffotograff cyntaf a dynnwyd o ddyn eira yng Nghymru; gyda'r casgliad hefyd yn cynnwys llawer o rai cyntaf yng Nghymru megis y ffotograff cyntaf o noson tân gwyllt.

Gallwch archwilio mwy o’n casgliadau LGBTQ+ ar-lein, ymweld â’n harddangos LGBTQ+ newydd Cymru... Balchder yn Sain Ffagan, neu ddarganfod ein casgliad 'Lesbian and Gays Support the Miners' yn ein harddangosfa Streic! 84-85 Streic! yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, agor tan 27 Ebrill 2025.