Caerdydd a’i fathdy yn Oes y Normaniaid. Edward Besly & Peter Webster, 5 Hydref 2018 Arian o gyfnod Gwilym Goch - blaen Arian o gyfnod Gwilym Goch - cefn Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael darn prin o hanes cynnar Caerdydd: ceiniog arian o gyfnod y brenin Normanaidd Gwilym II (1087-1100) a wnaed ym mathdy’r castell yn nechrau’r 1090au. Darn arian sydd newydd ei gaffael o gyfnod Gwilym Goch Mab Gwilym Goncwerwr (neu ‘y Bastard’) oedd Gwilym II ac roedd yn cael ei alw’n 'Gwilym Goch’ neu ‘Rufus’, efallai am fod ganddo wallt coch. Yn ystod ei deyrnasiad ef y dechreuodd y Normaniaid gynnal cyrchoedd i’r rhan hon o Gymru o dan Robert FitzHamon, barwn Normanaidd a oresgynnodd yr ardal a dod yn arglwydd cyntaf Morgannwg. Daeth y Normaniaid â’r arferiad o ddefnyddio darnau arian gyda nhw ac ymddengys bod bathdy wedi’i agor yn y castell yn fuan ar ôl ei sefydlu yn 1081. Fodd bynnag, nid oedd yr un darn arian a dadogwyd yn bendant i fathdy Caerdydd yng nghyfnod Gwilym Goch wedi’i gofnodi cyn i hwn ymddangos yn 2017, mewn casgliad preifat oedd yn cael ei werthu ar ocsiwn. Cyn goresgyniad y Normaniaid, roedd darnau arian bath yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yn Lloegr yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Roedd ganddynt rwydwaith o fathdai a chyflenwad canolog o ddeiau i wneud yr arian ond doedd dim traddodiad o fathu arian yng Nghymru. Tref ffiniol oedd Caerdydd yn nyddiau cynnar y Normaniaid ac felly roedd rhaid i’w bathdy ymorol amdano’i hunan: ymddengys bod dei tu blaen (‘pen’) y darnau arian wedi’i fenthyca o rywle arall a delw’r brenin wedi’i ailysgythru, gan wneud iddo edrych braidd yn ddigri. Roedd dei y cefn (‘cynffon’) wedi’i wneud yn lleol ac mae arwyddnod y bathdy, ‘CAIRDI’ [CIVRDI neu CIIIRDI], wedi’i ysgythru’n glir ond yn amrwd arno ond ni allwn ddarllen enw’r bathwr yn iawn, ‘IÐHINI’ (Ð = ‘TH’) – efallai mai Æthelwine oedd ei enw (diddorol nodi mai enw Sacsonaidd yn hytrach nag un Normanaidd yw hwnnw). Roedd dyluniad yr arian bath yn cael ei newid bob ychydig flynyddoedd – ac roedd y brenin yn cael cyfran bob tro y cyhoeddwyd darnau arian newydd. Erbyn hyn, gwyddom am bedwar gwahanol gyhoeddiad o ddarnau arian o fathdy Caerdydd ag enw ‘William’ arnynt (gallai fod yn Gwilym Goncwerwr neu ei fab, Gwilym Goch) a phedwar cyhoeddiad arall yn enw Harri I (1100-35) ond maent i gyd yn eithriadol o brin. Yn rhyfel cartref teyrnasiad y Brenin Steffan (1135-54), syrthiodd Caerdydd i ddwylo plaid ei elyn yr Ymerodres Matilda, plaid yr Angefiniaid. Yn 1980, canfuwyd celc o dros 100 o ddarnau arian yng Nghoed y Wenallt, uwchlaw Caerdydd, y rhan fwyaf yn perthyn i gyhoeddiadau na wyddem amdanynt o’r blaen o gyfnod Matilda. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth am y cyfnod gan y canfyddiad hwn. Roedd yn cynnwys cyhoeddiadau barwnaidd o Gaerdydd ac Abertawe a dyma'r dystiolaeth gynharaf sydd gennym am yr enw 'Swansea'. Ar ôl hynny, fodd bynnag, nid oes sôn am fathdy Caerdydd. Mae ein darn arian newydd o gyfnod Gwilym Goch yn ddarn arall o’r jig-so am hanes cynnar Caerdydd a’r cylch. Mae llawer o ddarnau eraill o’r jig-so yn dal ar goll, a phwy a ŵyr beth sy’n dal heb ei ddarganfod? Bu Gwilym Goch farw ar 2 Awst 1100 pan drawyd ef â saeth wrth iddo hela yn y New Forest: damwain anffodus ynteu lofruddiaeth tybed? Edward Besly, Nwmismatydd (Curadur Darnau Arian a Medalau), Amgueddfa Cymru. Y castell Normanaidd fel y tybia CBHC yr oedd yn edrych. Credir na chodwyd y gorthwr cerrig tan ar ôl teyrnasiad Gwilym Goch ac mai o bren y byddai wedi’i godi’n wreiddiol. Mwnt a dyfrffos o’i gwmpas Man lle tybir yr oedd y wal rhwng y wardiau Mur Rhufeinig wedi’i ailddefnyddio, heb y tyrau oedd yn taflu allan mae’n fwy na thebyg Clawdd pridd a ffos y tu allan iddo Trychiad cynllunio trwy amddiffynfeydd pridd y castell cyn tynnu rhan allanol y clawdd canoloesol oddi yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif ac ail-greu mur y gaer Rufeinig. Olion mur y gaer Rufeinig Clawdd Rhufeinig Clawdd Normanaidd Mur y castell o’r cyfnod canoloesol diweddarach Mur Normanaidd y castell wedi’i ail-greu rhwng Porth y De a Thŵr y Cloc Mur gorllewinol y castell. Yn y bôn, wal y castell Normanaidd yw’r darn rhwng y tyrau. Y mwnt Normanaidd enfawr, gyda gorthwr gwag o gerrig a godwyd yn ddiweddarach yn y canoloesoedd. Y clawdd Canoloesol sy’n dal y tu mewn i’r muriau dwyreiniol. Olion adeilad o’r canoloesoedd hwyr sydd i’w weld yn y glaswellt ym mlaen y llun. Y wal gerrig a’r porth o’r ward allanol i’r ward fewnol, gan edrych o’r Gorthwr tua Phorth y De. Mae’n fwy na thebyg bod y wal hon yn rhan o amddiffynfeydd y castell Normanaidd. Y map a greodd Speed o Gaerdydd yn 1610. Dyfodiad y Normaniaid Ffrwyth datblygu mawr yn Oes Fictoria yw’r Gaerdydd a welwn heddiw i raddau helaeth ond mae ardal reit yng nghanol y ddinas lle bu caer Rufeinig ac a oresgynnwyd wedyn gan y Normaniaid. Ychydig o dystiolaeth, os o gwbl, sydd bod pobl yn byw yng Nghaerdydd rhwng diwedd y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad y Normaniaid i Gymru yn y 1080au, ond efallai bod pobl yn byw am gyfnod yn y man lle’r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerllion i Gaerfyrddin yn croesi afon Taf. Pan gyrhaeddodd y Normaniaid, dyma'r man lle penderfynwyd sefydlu canolfan filwrol a gweinyddol eu harglwyddiaeth newydd, Morgannwg, gan ailddefnyddio olion yr hen gaer Rufeinig i godi mur a sefydlu tref fechan wrth borth y de. Ail-greu’r castell Normanaidd Y castell oedd canolbwynt Caerdydd yn y cyfnod Normanaidd ond mae adeilad presennol y castell yn wahanol iawn i’r un gwreiddiol. Er mwyn cyrraedd at y castell Normanaidd, mae’n rhaid i ni dynnu’r addasiadau a wnaed gan ardalyddion Bute yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif, a oedd yn cynnwys adfer rhannau o furiau’r hen gaer Rufeinig. Cododd y Normaniaid glawdd enfawr o bridd dros olion muriau’r gaer Rufeinig, o fan ger cornel ogledd-orllewinol y castell ac o gwmpas i’r ochrau sy’n wynebu Ffordd y Brenin a Heol y Dug erbyn hyn. Atgyweiriwyd muriau eraill y gaer Rufeinig (o fan ger porth presennol y de ac o gwmpas i’r ochr sy’n wynebu Parc Bute erbyn hyn) ond, yn rhyfedd ddigon, ymddengys bod y tyrau oedd yn taflu allan ac yn rhan o’r amddiffynfeydd Rhufeinig wedi’u tynnu – i gael deunyddiau i wneud y gwaith atgyweirio efallai. Mae’r mur Normanaidd hwn i’w weld o hyd, er bod cryn dipyn o waith adfer wedi’i wneud arno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng porth y de a Thŵr y Cloc ac i'r gogledd o adeiladau pen gorllewinol y castell. Daeth y deunydd ar gyfer y cloddiau ar yr ochr ogleddol, yr ochr ddwyreiniol a rhan o’r ochr ddeheuol o ffos enfawr a gloddiwyd o gwmpas y darn amgaeedig i gyd. Cafodd y ffos hon ei llenwi ar Ffordd y Brenin a Heol y Castell/Stryd y Dug ac mae’n gorwedd o dan y ddyfrffos orllewinol bresennol a'r lledgamlas ogleddol. Cewch gipolwg ar y ffos hon yn achlysurol pan agorir ffosydd gwasanaeth o gwmpas y castell ond cawn syniad cliriach o’i maint o dystiolaeth John Ward, curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd rhwng 1893 ac 1912. Gwelodd Ward y toiledau tanddaear yn cael eu cloddio yn Ffordd y Brenin ac, eu eu bod o dan y ddaear yn llwyr, dywedodd nad oeddent yn cyrraedd gwaelod y ffos. Yn niagram cynllunio Ward o glawdd pridd y castell, gwelir canlyniad yr holl waith cloddio ffosydd – y clawdd sylweddol sy’n dal y tu mewn i furiau’r castell (i’r chwith yn y diagram) a’r un fath ar y tu allan. Y tu mewn i’r amddiffynfeydd allanol, cododd y Normaniaid fwnt enfawr – tomen tebyg i fasn pwdin a’i ben i lawr, a dyfrffos fawr o’i gwmpas. Mae hwn i’w weld o hyd, er bod Capability Brown wedi gwneud peth gwaith tirlunio ar y mwnt tua diwedd y 18fed ganrif a bod y ddyfrffos (a lanwyd gan Brown) wedi’i hailgloddio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac efallai ei bod ar ffurf fwy rheolaidd nag y bu. Gallwn dybio bod rhyw fath o adeiladwaith ar ben y mwnt, tŵr a phalisâd pren mae’n debyg, a bod y 'gorthwr gwag’ presennol o gerrig wedi cymryd eu lle yn yr 1240au. Credir bod gweddill tu mewn y castell wedi’i rannu fel y gwelir yn awr â rhyw fath o wal rhwng y gorthwr a phorth y de. Mae’n debygol, ond nid yn bendant, mai wal gerrig oedd yno. Gallwn ddisgwyl bod adeiladau (o bren mae’n fwy na thebyg) yn y ddwy ‘ward’ a gafodd eu creu felly ond, hyd yma, ni ddaethpwyd ar draws adeiladweithiau pendant yn yr ardal fechan a gloddiwyd. Y dref Normanaidd I’r de o’r castell oedd tref fechan Caerdydd. Y map a grewyd yn 1610 gan John Speed yw’r olygfa glasurol o’r dref ganoloesol. Mae’n dangos darn o dir a mur o’i amgylch yn ymestyn i’r de o fan ychydig i’r dwyrain o gornel de-ddwyreiniol y castell i waelod lle mae Heol Eglwys Fair yn awr. Fodd bynnag, map o’r dref yn y cyfnod canoloesol diweddar yw hwn. Mae’n debygol bod y drefn Normanaidd gyntaf yn llai, a’i ffiniau’n ymestyn i lle mae Stryd Womanby, Stryd y Cei, Stryd yr Eglwys a Heol Sant Ioan (yr hanner cylch o strydoedd ym mhen gogleddol y dref fel y’i gwelir ar fap Speed). Gellir gweld y patrwm hwn o hyd yn strydoedd Caerdydd ac mae cyffordd Heol Fawr a Heol Eglwys Fair, a chyffordd Heol Sant Ioan a Working Street i’w gweld ar y man lle credir roedd y terfyn cynnar. Trafodir hyn a llawer o hanes dogfennol Caerdydd yn oesau’r Normaniaid a’r Angefiniaid gan David Crouch (2006). Ni wireddwyd gobaith Crouch y bydd archaeoleg yn ychwanegu at y darlun hwn hyd yma. Ni ddaethpwyd o hyd i adeiladweithiau mor hen wrth gloddio yn y man lle’r awgrymir roedd y dref gyntaf (yn Stryd Womanby a Stryd y Castell) ond mae’r gwaith yn cadarnhau bod pobl yn byw yno yn oes y Normaniaid. Yn wir, wrth i drigolion Caerdydd yn Oes Fictoria fynd ati i gloddio selerydd, collwyd llawer o dystiolaeth bosibl, gwaetha’r modd. Peter Webster, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Amgueddfa Cymru (cyn-ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd) Darllen Pellach Castell Caerdydd Ceir ymdriniaeth helaeth o’r castell canoloesol yn CBHC, An inventory of the ancient monuments in Glamorgan, Vol. III, Part 1a, Medieval Secular Monuments, the early castles from the Norman conquest to 1217, Llundain 1991, 162-211, sydd, er gwaetha’i deitl, yn adrodd stori’r castell hyd at yr 20fed ganrif. Rhoddir rhagor o gefndir i waith adfer Ardalyddion Bute gan J. P. Grant, pensaer i’r 4ydd Ardalydd (Cardiff Castle, its history and architecture, Caerdydd 1923). Y Dref Gan David Crouch y mae’r drafodaeth orau ar Gaerdydd yr oes Normanaidd. ‘Cardiff before 1300’ tt.34-41 yn J.R.Kenyon, D.M.Williams (Goln), Caerdydd. Architecture and Archaeology in the Medieval Diocese of Llandaff, Trafodion Cynhadledd Cymdeithas Archaeolegol Prydain 29, Llundain 2006. Mae hwn yn cynnwys cyfeiriadau at waith cynharach gan W.Rees (1962) a D.Walker (1978).
Coast – an exhibition fusing art, science and museum activism Julian Carter, 5 Hydref 2018 Over the past few months the museum has been working closely with colleagues at the beautiful Oriel y Parc gallery in St Davids to bring together an exhibition celebrating Wales ‘Year of the Sea’ called ‘Coast’.The exhibition fuses artworks and natural science specimens specially selected by the Oriel y Parc team from Amgueddfa Cymru’s collections, and displays these alongside some of the recent museum activisim work of Amgueddfa Cymru’s 'Youth Forum Group' highlighting the issues of plastic pollution.The multidisciplinary nature of the display explores how the sea has inspired artists for centuries, highlights the biodiversity of the Pembrokeshire coast, and how plastic now impacts on the environment and our everyday life.Centre piece to the art works is Jan van de Cappelle’s masterpiece ‘A Calm’, surrounded by sea and coast inspired paintings from a selection of other artists including Cedric Morris and John Kyffin Williams. Amongst these works are specimens from the natural science collections capturing the richness of Pembrokeshire's wildlife, including the skeleton of a leatherback turtle found dead on Skomer Island in 1988.The turtle had in the past been on display at the visitor centre on Skomer, but was removed a number of years back when the buildings on the Island underwent redevelopment. In need of some repairs and cleaning, the specimen became an excellent project for one of our conservation student placements at the museum, Owen Lazzari. The end result has enabled us to bring the specimen back to Pembrokeshire to form one of the centrepieces of the exhibition.Other highlights from the natural science collections include one of our historic Blaschka glass models dating from the late 1800s, and a Goose barnacle covered builder's helmet found off the Welsh Coast.Further information can be found on Oriel y Parc's website: https://www.pembrokeshirecoast.wales
Who Decides? - what you had to say Guest Blog: Thea Green, 20 Awst 2018 Hi, I’m Thea, a sixth form student from Shropshire who decided to create this short video as part of my work experience at the National Museum Cardiff.I had heard about Who Decides? before I became involved in the exhibition, so I was very eager to find out more. After working with the public opinion cards, speaking to the people involved in the museum and doing some short interviews, I created an animation that I thought would best reflect the aims of exhibition and the feedback it had received.I am passionate about art and against the idea that art and museums are ‘elitist’ or should be for the ‘privileged’ rather than the majority, so I wanted to focus on this issue in the video.Working with the WallichThe exhibition itself was incredibly eye opening for me; the museum had decided to work with the charity The Wallich to involve people with experience of homlessness in the process of designing and creating the exhibit and gives the public the chance to choose some of the artwork on display. I haven't seen an exhibition that has ever taken this kind of approach, so I found it intriguing to see how others reacted to the idea.I hope this refreshing approach to curation will be an archetype for future exhibits and museums because it challenges what we usually connote with galleries and exhibits and hopefully encourages more people to visit exhibitions and museums.Who Decides? is on show at National Museum Cardiff until 2 September 2018. You can also contribute to Who Decides? by voting for your favourite work to be ‘released’ from the store and placed on public display.
Cadair Eisteddfod Caerdydd - Ysbrydoliaeth Sain Ffagan Sioned Williams, 9 Awst 2018 Caiff Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 ei noddi gan Amgueddfa Cymru, i nodi 70 mlynedd ers sefydlu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae Sain Ffagan wedi bod yn hyrwyddo crefftwaith Cymru ers agor ym 1948, ac mae noddi Cadair yr Eisteddfod yn ffordd addas o ddathlu hyn. Chris Williams gafodd y fraint o ddylunio a chreu'r Gadair eleni.Mae Chris yn gweithio fel cerflunydd ac mae'n aelod o'r Royal British Society of Sculptors. Mae'n byw yn Pentre, ac mae ganddo weithdy ac oriel yn Ynyshir, Rhondda.Cafodd elfennau o'r gadair eu creu yn Gweithdy, adeilad newydd cynaliadwy yn Sain Ffagan, sy'n dathlu sgiliau gwneuthurwyr ddoe a heddiw - a lle mae cyfle i ymwelwyr o bob oed droi eu llaw at grefftau o bob math. Yno, bu Chris yn arddangos ac yn rhannu'r broses o greu'r gadair gydag ymwelwyr – y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn hanes Cadair y Genedlaethol.Tapiwch ar y cylchoedd isod, wrth i Chris esbonio'r broses o greu cadair eiconig Eisteddfod Caerdydd: O'r Aelwyd i'r OrseddCadair Eisteddfod 2018 trwy lygad y saer Yr YsbrydoliaethMae cadair Eisteddfod 2018 wedi'i ysbrydoli gan gadeiriau ffon Cymreig, fel hon yn Ffermdy Cilewent, Sain Ffagan Dathlu Crefft CymruDewiswyd y garthen hon am ei phatrwm manwl - a ddaeth yn briff nodwedd y gadair Y deunydd crai - pren llwyfen ac onnen - yn cyrraedd y gweithdy yn Pentre Dyluniwyd y gadair fel model cywir ar Rhino 3D. Galluogodd hyn i mi fesur yn fanwl er mwyn creu jigiau a thempledi ar gyfer y breichiau a'r coesau Mae sedd a chefn y gadair o'r un goeden lwyfen. Rhaid oedd sandio'r pren er mwyn datgelu'r graen - a gweld a oedd nam ar y pren sydd angen ei ystyried Fe wnes i'r gwaith siapio yn Gweithdy, oriel grefft newydd Sain Ffagan. Roedd yn braf gallu rhannu'r broses o greu'r gadair gyda'r cyhoedd Addurnwyd y cefn a'r sedd yn defnyddio laser Co2 - mawr yw'r diolch i gyngor Caerffili am gael defnyddio'r engrafwr! Ysbrydolwyd y patrwm cain gan garthen a wehyddwyd ym Melin Esgair Moel yn 1960. Mae'r felin (a'r garthen) 'nawr yn Sain Ffagan. Roedd clampio'r pren ar gyfer yr uniad yn broses gymhleth, a roedd angen nifer o glampiau hir i reoli'r pwysau Cafodd y testun hefyd ei engrafu â laser. Gwnaed hyn ar ddarn fflat o onnen, a gafodd ei lamineiddio i'r fraich gyda nifer fawr o glampiau Gludo'r coesau yn eu lle Bron â gorffen... Morteisio'r cefn yn ei le Troi'r breichiau o gwmpas y cefn i greu uniad unigryw, a'i ludo yn ei le. Caiff y coesau bychain eu hychwanegu, a'u gosod gyda lletemau A dyma hi yn ei holl ogoniant - cadair Eisteddfod 2018. Pob lwc i'r holl gystadleuwyr!
Lleisiau coll Cymraeg Caerdydd Blog Gwadd: Dylan Foster Evans, 6 Awst 2018 Sut beth oedd Cymraeg Caerdydd yn y gorffennol? Dylan Foster Evans sy'n trafod lleisiau coll ein prifddinas: Wrth bori mewn papurau newydd o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe welwch fod trafod o dro i dro ar ddiflaniad Cymry Cymraeg ‘brodorol’ Caerdydd.Roedd gan y dref yr adeg honno ei ffurf ei hun ar y Wenhwyseg, y dafodiaith leol draddodiadol. Ond er bod niferoedd siaradwyr Cymraeg Caerdydd ar gynnydd, llai a llai a siaradai hen dafodiaith Gymraeg Caerdydd. Mae’n destun rhyfeddod, felly, ein bod ni heddiw yn gallu gwrando ar leisiau’r to olaf o unigolion a fagwyd yn siarad y Wenhwyseg leol yn y Gaerdydd bresennol neu’n agos iawn ati. Mae gwrando arnynt yn brofiad sy’n gofyn am ychydig o ymdrech ar ein rhan. Ar adegau, waeth cyfaddef ddim, mae rhyw afrwyddineb yn nodweddu geiriau rhai o’r siaradwyr olaf hyn. Nid niwsans mo hynny, chwaith, ond rhywbeth sy’n gwbl, gwbl greiddiol i’r profiad. Hen bobl yw’r rhain ac mae olion y degawdau i’w clywed ar eu lleisiau.Ac yn achos sawl un, nhw yw siaradwyr Cymraeg olaf y llinach. Mae eu perthynas â’r iaith wedi breuo o flwyddyn i flwyddyn ac o ddegawd i ddegawd.Ond yn yr afrwyddineb hwnnw — ac yn wir yn eu Saesneg — y daw eu profiadau’n fyw.Dyna lle clywn ôl addysg a anwybyddai’r Gymraeg; dyna lle clywn effaith diffyg trosglwyddo rhwng cenedlaethau; a dyna lle’r ymdeimlwn â realiti shifft ieithyddol. Ond er gwaethaf hynny oll, mae yma wir brydferthwch. Enwau'r ddinas - o Blwyf Mair i LanetarnY cynharaf ohonynt yw Edward Watts (1840–1935) o Landdunwyd ym Mro Morgannwg. Fe’i recordiwyd pan oedd yn hynafgwr dros ei ddeg a phedwar ugain.Cofiai ymweld â Chaerdydd tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac wrth sôn am safle hen neuadd y dref yn ‘Plwyf Mair’ mae’n cofnodi elfen o ddaearyddiaeth Gymraeg Caerdydd sydd bellach wedi ei cholli. A dyna chi Tom Lewis y ‘trychwr’ o ‘Rwbina’ (nid ‘o Riwbeina’ fel y dywedai llawer ohonom heddiw). A’r Husbands — cynnyrch cymuned amaethyddol Llanishan, Llys-fæ̂n a Llanetarn, chwedl hwythau (ond Llanisien, Llys-faen a Llanedern i ni, debyg iawn). Caerdydd wahanol iawn oedd Caerdydd llawer o’r lleisiau hyn. Ond hebddyn nhw a’u tebyg, gwahanol iawn fyddai ein Caerdydd ninnau. Gyda diolch i Beth Thomas, Meinwen Ruddock-Jones a Pascal Lafargue. Am ragor o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, dilynwch @CymraegCaerdydd a @diferionDFE - ac am ragor o Archif Sain Ffagan, dilynwch @ArchifSFArchive Bydd arddangosfa o hanes Trebiwt, y Bae a Chaerdydd i'w gweld yn Y Lle Hanes trwy gydol yr Eisteddfod.