Hafan y Blog

Beth sy’n digwydd i ŵyn Sain Ffagan?

Aled Jones, 14 Mawrth 2018

Cwestiwn sy’n cael ei gofyn yn aml i’r tîm ŵyna yw beth sydd yn digwydd i’r ŵyn ar fferm Llwyn-Yr-Eos unwaith mae’r tymor wyna ar ben?

Mae’r ŵyn ar y fferm yn mynd allan i bori ar y gwair ac yn cael eu symud yn aml o amgylch caeau’r amgueddfa.

Byddwn yn dewis yr ŵyn gorau ac yn eu cadw ar gyfer bridio yma ar y fferm. Yr ydym yn gobeithio cadw tua 50 o’r ŵyn eleni.

Bydd y rhan fwyaf o’r ŵyn benywaidd yn aros gyda ni neu’n cael eu gwerthu fel defaid pedigri.

Bydd yr ŵyn gwrywaidd yn mynd i’r lladd-dy am eu cig, gyda chwpl o’r goreuon yn cael eu gwerthu fel hyrddod.

Mae’r ŵyn arall yn cael eu gwerthu ar gyfer cig oen.

Ble mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu?

Mae’r ŵyn yn cael ei gwerthu yn farchnadoedd  Rhaglan, Llanybydder a Tal-y-bont ar Wysg.

Mae ‘na werthiant bridiau prin ar gyfer defaid Llanwenog, defaid Mynydd Maesyfed a defaid Mynydd Duon Cymreig ym marchnad Raglan.

Yr ydym yn gwerthu rhai ŵyn i gigyddion lleol ac yn gobeithio creu perthynas gyda bwyty amgueddfa Sain Ffagan yn y dyfodol fel bod y cig oen sydd ar werth yno yn tarddio o fferm Llwyn-Yr-Eos.

Mae’r cig oen ar eich plât yn 4-12 mis oed.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.