Modrwyau Galar Rhianydd Biebrach, 9 Mai 2017 Modrwyau Galar o Pennard Modrwyau Galar o Cydweli Modrwyau Galar o Hundleton, Sir Benfro Roedd teimladau personol dwys yn cael eu mynegi ar fodrwyau galar hefyd. Ond yma, cyfleu’r rhwyg yn y berthynas rhwng y byw a'r marw oedd diben y fodrwy. Yn y Canol Oesoedd, roedd y byw’n cadw rhyw fath o gysylltiad â’r meirw trwy weddïo dros eu heneidiau, ond daeth hyn i ben adeg y Diwygiad Protestannaidd ac, o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, dim ond cofio am y meirw y câi pobl ei wneud, nid eu helpu. Weithiau, roedd modrwyau galar yn cael eu rhannu mewn angladdau fel ffordd o helpu perthnasau a chyfeillion y sawl a fu farw i gofio amdanynt. Roedd y modrwyau hyn yn cyfuno angen pobl i gofio’u hanwyliaid a hen draddodiad y memento mori ac roeddent yn aml yn cynwys llythrennau blaen enw’r un a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Roedd y modrwyau’n ffordd o atgoffa pobl pa mor agos oedd marwolaeth, yn enwedig mewn cyfnod pan oedd llawer o bobl yn marw o glefydau heintus, wrth roi genedigaeth neu hyd yn oed o afiechydon syml. Roedd motiffau memento mori yn gyffredin yn niwylliant y Canol Oesoedd diweddar a’r cyfnod Modern Cynnar, yn aml ar ffurf penglog, ac maent i’w gweld mewn darluniau a llyfrau, ac ar gerrig beddi a gemwaith. Yn y portreadau o Edward a Gawen Goodman o Ruthun, a dynnwyd yn yr 16eg ganrif ac sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, mae’r dynion yn gwisgo modrwyau galar mawr aur ar eu mynegfys, a llun penglog yn crechwenu ar y ddwy. Eu bwriad oedd atgoffa pobl pa mor fyr yw bywyd ac weithiau roedd arnynt arysgrif fwy personol yn dwyn i gof rywun penodol oedd wedi marw. Nid oes yr un o’r modrwyau galar a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru mor gywrain â’r rhai uchod ond yr un yw'r egwyddorion y tu ôl iddynt. Ym mis Hydref 2010, daeth Mr R. Pitman o hyd i fodrwy alar aur ym Mhennard, Abertawe. Mae arni batrwm delltwaith wedi’i fewnosod ag enamel glas tywyll a chredir ei bod yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif. Mae’n un o sawl modrwy a ddaeth i law’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ac mae yn Amgueddfa Abertawe erbyn hyn. Gwelir yr arysgrif ‘Prepared bee to follow me’ ar y tu mewn – gair i atgoffa y gallai angau daro unrhyw bryd ac y dylai’r Cristion da baratoi at hynny yn ysbrydol ac yn feddyliol. Wyddom ni ddim pwy oedd y ‘me’: efallai rhywun oedd eisoes wedi marw; neu efallai Angau ei hunan. Ceir neges gliriach ar dair enghraifft arall. Mae arysgrifau Lladin ar yr ochr fewnol yn nodi llythrennau cyntaf enw’r bobl a fu farw a dyddiad eu marwolaeth. Mae’r hynaf, a ganfuwyd gan Mr D. Raven ym mis Mai 2013 yng Nghydweli ac sydd yn Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn, yn cofnodi marwolaeth ‘J. A. ob 25 July 98 aeta 37’ [J. A. a fu farw 25 Gorffennaf 1698, yn 37 oed]. Mae’r ochr allanol yn blaen ar wahân i benglog wedi’i ysgythru ac mae’n debyg iawn i fodrwy aur arall a ganfuwyd yn Hundleton, Sir Benfro, gan Mr K. Lunn ym mis Tachwedd 2013, ac sydd yn Amgueddfa Aberdaugleddau erbyn hyn. Yma, mae’r penglog yn fwy amrwd a’r arysgrif yn dweud ‘A. E. obijt 30 Jan’ 17034’ [A. E. a fu farw 30 Ionawr 1703/4]1. Mae enghraifft arall a ganfuwyd ychydig ymhellach i’r dwyrain yng Nghaer-went, Sir Fynwy, gan Mr Colin Price, ym mis Gorffennaf 2011, ychydig yn wahanol, â phatrwm blodeuog yn hytrach na phenglog ar y tu allan. Yn ôl yr arysgrif, modrwy ydyw i gofio am ‘G. K. obt 26 March 1702’ [G. K. a fu farw 26 Mawrth 1702]. Er bod y manylion yn brin, maent yn cyfleu’r golled bersonol a’r galar a deimlai’r bobl oedd wedi colli rhywun annwyl a'r angen i gofio amdanynt ymhell i'r dyfodol. 1Y rheswm dros y dryswch ymddangosiadol ynghylch y flwyddyn y bu farw yw mai’r hen galendr a ddefnyddid cyn mabwysiadu Calendr Gregori yng Nghymru a Lloegr yn 1752. Cyn hynny, ar 25 Mawrth, nid 1 Ionawr, roedd y flwyddyn newydd yn dechrau’n swyddogol. Felly, 1 Ionawr 1703, yn hytrach nag 1 Ionawr 1704, fyddai’r diwrnod ar ôl 31 Rhagfyr 1703.
Modrwyau Eiconograffig Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017 Modrwyau Eiconograffig gyda llun o Sain Catrin Modrwyau Eiconograffig o Maes y Groes Un o’r prif resymau pam y mae’r arysgrifau ar y modrwyau galar hyn mor noeth yw dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd a oedd yn golygu nad oedd pobl yn gweddïo dros y meirw nac ar y seintiau bellach. Ar y llaw arall, roedd modrwyau o'r Canol Oesoedd cynnar weithiau'n darlunio seintiau neu'n cynnwys fformiwlâu crefyddol fel darnau o weddïau. Canfuwyd nifer o'r rhain yng Nghymru yn ddiweddar. Daeth Mr Phil Jenkins o hyd i enghraifft hardd yng Nghaeriw ym mis Hydref 2013. Modrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif yw hon. Mae patrwm troellog o’i chwmpas a’r wefl wedi’i rhannu’n dair, â gair gwahanol ar bob un, yn cyfuno i wneud y fformiwla ‘ihs ave maria’ [Iesu. Henffych Fair]. Roedd modrwyau fel hyn yn fwy na datganiadau addurnol o ffydd, roedd modd eu defnyddio i’ch helpu yn eich defosiwn hefyd. Yn nes ymlaen yn y Canol Oesoedd, daeth pwyslais newydd ar berthynas bersonol, fwy cyfriniol, â Duw, trwy weddi a myfyrio, ac roedd pobl yn defnyddio pethau fel llyfrau a lluniau i’w helpu. Gallai modrwy Caeriw fod wedi cael eu defnyddio fel hyn gan fod gweld enw Iesu (‘ihs’) yn gymorth i fyfyrio am ei fywyd a’i farwolaeth. ‘Ave Maria’ yw geiriau agoriadol y weddi Ladin a seilir ar eiriau’r Angel Gabriel pan ymddangosodd i Fair i ddweud wrthi ei bod yn disgwyl Iesu. Felly, mewn tri gair byr, mae'r fodrwy'n cyfleu credo ganolog y ffydd Gristnogol, sef bod Iesu wedi'i anfon i'r ddaear i achub dynolryw. Ydi’r geiriau Lladin ar fodrwy Caeriw yn golygu bod perchennog y fodrwy wedi cael addysg, neu hyd yn oed yn offeiriad? Dim o anghenraid. Er mai ychydig o bobl oedd yn gallu darllen yn y cyfnod hwn, byddai’r rhan fwyaf yn gyfarwydd ag ymadroddion Lladin oedd yn cael eu defnyddio mewn defodau crefyddol a gweddïau, fel yr ydym ni’n adnabod ymadroddion fel ‘post mortem’ ac ‘et cetera’ heddiw. Hyd yn oed pa na baent yn deall yr union eiriau, byddent yn gwybod beth oedd eu hystyr gyffredinol a’u harwyddocâd fel termau crefyddol a byddai hynny’n rhoi grym ysbrydol iddynt. Efallai fod pobl yn meddwl bod modrwyau fel hyn yn gweithio fel swyn i'w gwarchod, er y byddai'r eglwys yn swyddogol yn anghytuno â hynny gan ei fod yn sawru o hud a lledrith. Mae modrwyau eiconograffig eraill a ganfuwyd yng Nghymru’n cynnwys lluniau seintiau. Efallai bod yr union seintiau hynny wedi’u dewis am resymau penodol. Ym mis Hydref 2014, daeth Mr Philip Jenkins o hyd i fodrwy aur o’r Canol Oesoedd diweddar yng Ngorllewin Llandysilio, Sir Benfro, ac arni lun wedi’i ysgythru o'r Santes Catrin. A hithau’n un o’r gwyryfon a ferthyrwyd, roedd iddi arwyddocâd arbennig i ferched ifanc, dibriod, ac roedd hefyd yn nawddsant myfyrwyr, seiri olwynion a rhai grwpiau eraill. Yn aml, mae modd adnabod seintiau canoloesol mewn lluniau wrth y pethau y maent yn eu dal neu eu gwisgoedd. Yn aml, dangosir Catrin gydag olwyn a chleddyf, sef y pethau a ddefnyddiwyd i'w harteithio a'i lladd (a'r ysbrydoliaeth arswydus ar gyfer tân gwyllt Olwyn Catrin). Fel llawer o’r modrwyau eraill a ddisgrifir yma, ar y tu mewn i’r band y mae’r arysgrif ar fodrwy Santes Catrin hefyd. Mae’n dweud ‘en bon eure’ [Mewn blwyddyn dda], sy’n awgrymu y gallai fod yn galennig i rywun a oedd yn arbennig o hoff o’r santes boblogaidd hon. Er bod lluniau o seintiau canoloesol yn aml yn hawdd i'w nabod, nid yw hynny'n wir am y fodrwy eiconograffig o ddiwedd y 15fed ganrif y daeth Mr Paul Anthony Byrne ar ei thraws ym Maes-y-Groes ger Wrecsam. Mae dau lun wedi’u hysgythru ar wyneb dwbl y wefl ond mae’r ddau wedi treulio ac mae’n anodd gweld dim ond aden. Felly, efallai mai llun yr Archangel Gabriel sydd yma, neu’r Sant Mihangel (sy’n aml ag adenydd mewn lluniau), neu hyd yn oed Sant Siôr. Efallai ei bod yn swnio’n rhyfedd i Sant Siôr ymddangos ar fodrwy a ganfuwyd yng Nghymru ond nid oedd yn cael ei gysylltu’n benodol â Lloegr bryd hynny ac mae’n eithaf posib nad Cymro oedd y perchennog. Peth arall diddorol am y fodrwy hon yw’r dwylo plethedig sy’n ymddangos ar waelod y cylch. Gall y rhain fod yn arwydd o gariad, ymddiriedaeth neu briodas ac roeddent yn symbol cyffredin ar fodrwyau canoloesol a elwid yn fodrwyau ‘fede’ (ffydd). Ydi’r dwylo plethedig yn awgrymu mai rhodd i gariad oedd hon, fel y modrwyau arysgrif a ddisgrifir uchod?
Sêl-fodrwyau Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017 Sêl-fodrwyau masnachwr o Hwlffordd Sêl-fodrwyau o Sili Roedd arwyddocâd hefyd i’r lluniau ar sêl-fodrwyau, a oedd yn aml yn cael eu gwisgo ar y bawd. Mae’r modrwyau hyn yn dal i gael eu gwisgo heddiw, ond nid at y diben gwreiddiol gan amlaf. Mewn oes pan nad oedd hyd yn oed bobl gyfoethog a grymus bob amser yn llythrennog, roedd sêl bersonol ar sêl-fodrwy. Roeddent yn defnyddio’r fodrwy yn lle llofnod i ddilysu dogfennau ac roedd hefyd yn arwydd o statws cymdeithasol uchel. Roedd dyfeisiau herodrol yn ymddangos ar fodrwyau pobl oedd ag arfbeisiau ac roedd symbolau, lluniau neu lythrennau i’w gweld ar fodrwyau pobl o statws cymdeithasol is. Roedd nodau masnachwyr yn cael eu defnyddio ar sêl-fodrwyau masnachwyr. Yn 2014, cafodd Mr John Rees hyd i sêl-fodrwy arian o’r bymthegfed ganrif neu ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg ac arni nod masnachwr yn Hwlffordd. Erbyn hyn mae’r prosiect Hel Trysor; Hel Straeon wedi’i chaffael ar gyfer Amgueddfa Tref Hwlffordd. Mae’r nod yn cynnwys croesau crwm, plethedig a chroes heb ben. Roedd croesau fel hyn yn gysylltiedig â Sant Antwn ac roedd cred y gallent drin tân Iddwf, neu ergotiaeth, sef clefyd a achoswyd trwy fwyta grawn drwg. Roedd nod y masnachwr yn ddyfais bersonol y gellid adnabod y perchennog wrthi, ond mae cynnwys y groes heb ben yn rhoi naws crefyddol i’r fodrwy a byddai’r perchennog wedi’i dewis yn benodol. Nid oedd Sant Antwn yn sant arbennig o boblogaidd yng Nghymru’r Canol Oesoedd ond, gan fod masnachwyr yn teithio, gallai'r perchennog fod wedi’i chael yn rhywle arall; roedd masnachwyr o orllewin Cymru'n masnachu ar hyd Môr Hafren ac yn teithio i Iwerddon, Sbaen a Phortiwgal, neu gallai fod yn eiddo i fasnachwr tramor. Canfuwyd sêl-fodrwy symlach o lawer yn Sili ym Mro Morgannwg yn 2013 gan Mr Michael Gerry. Fe’i gwnaed o arian, a’i haddurno â blodyn plaen, pedwar petal, a chredir ei bod yn perthyn i ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg. Mae’n enghraifft fwy enigmatig o lawer, sy’n datgelu bron ddim am y perchennog – pwy ydoedd, ei waith na’i statws cymdeithasol. Mae’n ymddangos bod gan rai modrwyau fwy nag un diben neu arwyddocâd. Daeth Mr Leighton Jones o hyd i enghraifft arbennig o ddiddorol yng Nghwm Darran, Caerffili, ym mis Mawrth 2010. Modrwy arian Rufeinig yw hon o’r ganrif 1af neu’r ail ganrif. Ar un adeg, roedd yn dal intaglio neu geugerfiad hirgrwn, gem werthfawr neu led-werthfawr efallai, a fyddai ag addurn wedi endorri arno er gyfer selio dogfennau. Felly, ar un olwg, mae hon yn sêl-fodrwy fel y rhai a ddisgrifir uchod, a byddai modd adnabod ei pherchennog wrthi, ond roedd cynnwys gem werthfawr neu led-werthfawr yn ychwanegu haen arall o ystyr iddi. Roedd y garreg yn ddeniadol ac yn addurnol ynddi ei hunan, gan awgrymu rhywbeth am statws a chyfoeth y sawl a allai ei fforddio. Ond byddai pobl y cyfnod yn credu bod ganddi bwerau i iacháu neu warchod y perchennog, ac roedd y gwahanol emau’n cael eu cysylltu â gwahanol bwerau meddyginiaethol, gwrthfelltithiol neu oruwchnaturiol.
Modrwyau Addurnol Rhianydd Biebrach, 8 Mai 2017 Modrwyau saffir ac aur o Penfro Modrwyau Addurnol o Silstwn Modrwyau Addurnol o Holt Mae’r grŵp olaf o fodrwyau yn yr adroddiad hwn yn llawer mwy cyndyn o ddatgelu eu cyfrinachau. Maent yn addurnol, heb arwyddeiriau na symbolau, ac er ei bod yn eithaf posib bod iddynt arwyddocâd personol i’w perchnogion, nid oes modd i ni ganfod beth oedd hynny, gwaetha’r modd. Daeth Mr Kevin Higgs o hyd i enghraifft ardderchog o fodrwy aur a saffir ym Mhenfro ym mis Chwefror 2014. Mae’r saffir wedi'i gaboli (cabosión oedd yr enw am hyn) yn hytrach na’i thorri, fel oedd yn boblogaidd yn y Canol Oesoedd, a’i roi ar osodiad chweochrog. Gwaetha’r modd, mae’r saffir wedi torri’n ddau ac wedi dod allan o’r gosodiad, ond mae ei harddwch yn dal yn amlwg. Câi saffirau eu mewnforio o Sri Lanka ac roedd pobl yn credu eu bod yn gallu gwella cur pen ac afiechydon eraill a gwarchod rhag dewiniaeth, ac felly mae’n bosib bod i’r fodrwy hon ddiben arall heblaw bod yn addurn. Mae’n rhaid bod eitem mor gostus, wedi’i mewnforio o ben draw’r byd, yn eiddo i rywun cyfoethog iawn ac mae’n demtasiwn dyfalu y gallai’r perchennog fod yn byw yng Nghastell Penfro neu’r priordy gerllaw. Nid oes gemau yn y rhan fwyaf o'r modrwyau eraill yn y dosbarth hwn. Dim ond patrymau sydd yn eu haddurno, yn amrywio o’r croeslinellu amrwd, afreolaidd ar fodrwy o arian wedi’i oreuro o’r 15fed ganrif a ganfuwyd yn Silstwn, Bro Morgannwg gan Mr Mark Watson yn 2011, i’r band llyfn, cynnil o belenni a borderi uchel ar fodrwy aur o’r cyfnod Tuduraidd cynnar a ganfuwyd yn Holt yn 2013 gan Mr A. E. Jenkins.
Creating Botanical Windows for the Flower Show Katherine Slade, 5 Mai 2017 For the Royal Horticultural Society’s Flower Show in Cardiff this year, we decided to build on previous experience of creating real botanical windows. We wanted something that would form an eye-catching backdrop to the collections on display within Amgueddfa Cymru's woodland-themed marquee.The botanical windows began in 2015 with our Museum in a House exhibit for the Made in Roath festival. We wanted a display that would reflect aspects of our Museum work as well as to represent the herbarium itself. We pressed plants following the standard method for creating herbarium specimens as shown below. In this way, plant specimens last for hundreds of years on conservation grade card and out of light in herbarium cupboards.Method for pressing plants for long-term storage in the botany collections: Select a plant showing as many characters as possible – fruit, flowers, roots. Place between blotting paper, arranging the plant at the same time, to limit the amount of overlapping material. Place in a plant press and tie as tightly as possible. Place in a drier between 20 and 30oC. Change the blotting paper initially every day, and then less often until the plants are completely dry. This will take about a week. Attach plant to conservation-grade card (for example made from cotton) using small strips of adhesive cotton tape. Place the tape strips strategically on the plant’s stems and leaves to hold it safely on the card. This technique allows for some flexing of the card without damage to the plant and for easy removal of the plant from the card for study. Store out of light in an environment with humidity between 40 and 60 RH. After pressing, we attached the plants to large sheets of tracing paper using small pieces of transparent tape strips (rather than the conservation grade materials we would normally use for the botany collections). The tracing paper was then wrapped carefully for transport to the site of the exhibit and then taped to sunny windows in the living room.For the RHS Flower Show in 2016, we built on the initial idea but had the added complication of having to create our own windows to install in the marquee. We had nine 80 x 60 cm sheets of 2mm thick acrylic cut, with holes drilled into each of the corners for hanging. We attached the plants to these sheets using small transparent tape strips. Once at the Flower Show, we attached strong metal rings to the corner of each panel and hung the panels from the cross bars of the marquee by looping fishing line (the type strong enough to catch a 60lb fish!) through the metal rings. The only worry now was whether the ranges of temperature and humidity in the marquee would be too much for the transparent tape and we would arrive the next day to find the plants on the floor! We certainly would never subject pressed specimens from the collection to this environment. We were relieved to find that the panels held well the whole weekend – and with much praise from visitors.In 2017, we planned to recreate the botanical windows for the Flower Show, but with a slight twist. We had a woodland theme, so we chose Welsh trees for each panel: Oak, Beech, Hazel, Hawthorn, Holly, Scots Pine, Yew and Lime. To make the display really stand out, we printed a silhouette of the tree with its Welsh, English and scientific name onto transparent material for the backdrop. We taped the transparencies onto the acrylic and then taped the pressed plants onto the transparencies as before. Unfortunately, this year was particularly warm weather – the transparent tape holding the pressed plants did not last as long on some of the panels, so remedial work had to be carried out to keep the display looking good. Read about the RHS Flower Show in 2017: More than Meets the Eye RHS Flower Show 2017 Museum Twitterfall Find out more on our Made in Roath ‘Museum in a House’ installation in 2015 and the RHS Flower Show in 2016