Blog Gwadd gan y Grŵp Tecstilau Cutting Edge: Arddangos ein Gwaith yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Loveday Williams, 13 Mai 2025 Ar ôl blwyddyn (2024) o greu tecstilau a chelf amlgyfrwng anhygoel wedi’u hysbrydoli gan Sain Ffagan, daeth aelodau Cutting Edge at ei gilydd yn Oriel Gweithdy, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 25 a 26 Ebrill i arddangos eu gwaith a chynnig gweithgareddau crefft a gwnïo i ymwelwyr er mwyn dathlu Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd. Ac am ddeuddydd anhygoel! Roedd yr ymwelwyr wrth eu boddau’n cael gweld yr arddangosfeydd a darllen y gweithlyfrau a oedd yn disgrifio sut datblygodd y prosiect dros amser. Roedden nhw hefyd wir yn mwynhau bod modd iddyn nhw ymuno yn y gweithgareddau amrywiol, a chawson ni lawer o adborth dros y deuddydd, mewn sgyrsiau ac yn y Llyfr Ymwelwyr. Dyma flas o’r hyn oedd gan bobl i’w ddweud: “Fel cyd-gwiltiwr ac artist tecstilau, mae’n hyfryd mynd allan a gweld gwaith pawb. Llongyfarchiadau.” Lesley, Higham Quilters, Caerloyw “Roedd yn drawiadol iawn gweld darn mor syfrdanol o ysbrydoliaeth leol a gwaith dychmygus” y teulu Byron “Arddangosfa ffantastig. Da iawn bawb. Diolch am y croeso cynnes” Sue a Vicki Rhoddodd y plant gynnig ar y rhan fwyaf o bethau, o liwio i stampio i wnïo, a oedd i weld yn plesio pawb. Ar ôl lliwio llun ar ffabrig, roedd llawer yn awyddus i roi cynnig ar wnïo, a doedden nhw methu cael digon! Darluniodd un ferch fach y llythyren E yn fawr ar sgwâr tecstilau a dechreuodd ei wnïo. Roedd hi’n siomedig pan oedd rhaid iddi adael ar ganol ei gwaith, ond fe aeth hi ag ychydig o edafedd gyda hi i’w orffen gartref. Serch hynny, nes ymlaen daeth yn ôl i gasglu mwy o edafedd gan ei bod wedi rhedeg allan o un o’r lliwiau. Mae’n rhaid ei bod hi wedi dod o hyd i gornel fach i barhau â’i gwnïo wrth grwydro o gwmpas yr amgueddfa! Roedd yr oedolion yn mwynhau’r gwnïo hefyd! Bu criw Grŵp Pwytho Pontardawe yn mwynhau creu broetsys a thylluanod: “Am arddangosfa hyfryd, mor ysbrydoledig. Diolch am fy nhylluan/pengwin. Dw i wrth fy modd ag e! Rydych chi’n griw mor hyfryd. Diolch yn fawr i chi gyd!" Glenda, Stitch Pontadawe. “Am ddigwyddiad hyfryd. Diolch am y cit broetsh. Wnes i fwynhau ei greu yn fawr. Roedd pawb yn hyfryd a chyfeillgar.” Dawn Roedd digonedd o dylluanod yno diolch i Carol. Roedden nhw mor boblogaidd nes bod rhaid iddi fynd adre nos Wener i baratoi mwy! “Diolch Carol am fy helpu i greu fy nhylluan!” Roedd yna waith lliwio a braslunio gwych i’w weld. Roedd llyfrau braslunio lledr bach Pat yr un mor boblogaidd â thylluanod Carol. Dydy hynny’n ddim syndod, gan eu bod yn rhodd bach gwych i fynd adre gyda chi. “Diwrnod hyfryd gyda llawer o grefftau gwych, mwynheuodd y plant yn fawr. Diolch yn fawr iawn.”Doedd aelodau Cutting Edge ddim yn ofni ymgolli yn y gweithgareddau eu hunain chwaith. Roedden nhw wrth eu boddau’n sgwrsio ag ymwelwyr hefyd, gan ei fod yn gyfle i rannu gwybodaeth, cyngor, ac i’w cyfeirio at adnoddau. Roedd un ymwelydd yn bwriadu mynd ati i drwsio lliain allor, ac roedd hi’n falch iawn o gael ei chyflwyno i ymwelydd arall a allai ei helpu i ddod o hyd i’r plethiadau oedd eu hangen arni. Adborth gan aelodau grŵp Cutting Edge: “Mwynheais i’r prynhawn. Roedd yn ffordd wych o’i dreulio. Ro’n i wrth fy modd yn edrych ar yr arddangosfeydd unwaith eto, a mwynheais i’r stampio!” Sally “Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl gyda chymaint o ddiddordeb a gwerthfawrogiad... cwrddais i â phobl hyfryd, gyda rhai’n dweud eu bod wedi’u hysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth creadigol eu hunain, a phlant cwrtais iawn oedd yn dweud diolch am eu helpu. Wrth fy modd.” Ella. “Am amser hyfryd heddiw yn cwrdd ag ymwelwyr oedd â chymaint o ddiddordeb yng ngwaith ein grŵp. Roedd cymaint wedi’u synnu ar yr ystod o wahanol sgiliau celf / tecstilau oedd i’w gweld. Ond fy hoff ran oedd y bachgen ifanc yn y llun uchod, a oedd yn benderfynol o bwytho o gwmpas ei gennin Pedr cyn gadael. Roedd hi mor braf cael cyfle i annog y bobl ifanc.” Liz “Deuddydd gwych, a chymaint o bobl yn gadael wedi’u hysbrydoli i barhau i bwytho.” Eleri Roedd y cwilt Monopoly yn boblogaidd, a chafwyd sawl awgrym ar gyfer cartref parhaol iddo, ond roedd llawer o’r farn y dylai aros yn Sain Ffagan. “Ystod anhygoel o waith a sgiliau. Wir wedi mwynhau’r arddangosfa gyfan, yn enwedig y cwilt Monopoly.” Lesley, Y Rhws Roedd prosiect pwytho coeden deulu Carol yn boblogaidd hefyd. Roedd Carol wedi’i syfrdanu gan yr ymateb a gafodd. O ganlyniad, mae cnewyllyn gweithdy bellach yn cael ei ffurfio! Dros y ddau ddiwrnod, cawson ni dros 650 o ymwelwyr – o bell ac agos – a rhai mor bell â’r Iseldiroedd! Roedd dwy fenyw o’r Iseldiroedd a ymwelodd yn awyddus i brynu darnau o’n gwaith celf. Pan ofynnon ni beth oedd yn denu eu diddordeb, cyfeirion nhw at gerdyn post Dianne a cherdyn post Thomas the Taylor gan Monica. Rhoddwyd y cardiau yn rhodd i’r menywod, a chyfnewidiwyd cyfeiriadau gydag addewid gan Monica a Dianne y bydden nhw’n postio cerdyn post ffabrig iddyn nhw hefyd! Deuddydd gwych, gydag ymwelwyr ac aelodau Cutting Edge wedi mwynhau fel ei gilydd. Diolch yn fawr i: Yr aelod o staff Sain Ffagan, Loveday, a aeth yr ail filltir i wneud yn siŵr fod popeth oedd ei angen arnon ni ganddon ni. Fe wnaeth hi hyd yn oed ymuno a helpu pan oedden ni’n brysur iawn, ac roedden ni wir yn gwerthfawrogi hynny! Gŵr Jan, Alan, am dynnu lluniau i ni. Maen nhw’n edrych yn wych yn ein halbwm! A diolch yn fawr iawn i holl aelodau anhygoel Cutting Edge am eu darnau o waith ysbrydoledig a’u hymroddiad i wneud y digwyddiad deuddydd yn Sain Ffagan yn un cofiadwy. Rydych chi’n sêr! Cynhalion ni’r digwyddiad yn ystod Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd, a oedd ar ddiwedd y gwyliau Pasg. Roedd yn sicr yn ticio pob bocs ar gyfer ymgysylltu rhwng cenedlaethau, gan fod plant ac oedolion wedi gadael yno’n hapus ac yn fwy hyderus gyda’r sgiliau newydd roedden nhw wedi’u dysgu. “Arddangosfa wych a hyfryd oedd gweld yr holl sgiliau. Menter hyfryd, a gwych i blant o bob oed i’w phrofi!” "Fantastisch!" Lia, yr Iseldiroedd “Arddangosfa ysbrydoledig wych. Ro’n i’n hoff o’r amrywiaeth hefyd – patrymau, pwythau, dyfrlliwiau. Mwynheais i’r gweithgareddau ymarferol hefyd. Ymlaciol a hwyl.” Gwynedd “Am ddigwyddiad gwych, gyda darnau gwaith hyfryd i’w hedmygu ac i ysbrydoli! Roedd darparu popeth ar gyfer y prosiectau pontio’r cenedlaethau wnaethon ni mor garedig a hael” Caroline “Arddangosfa ardderchog. Menywod dawnus a hyfryd.” Ar ôl y digwyddiad, roedden ni’n falch iawn o dderbyn llun o’r digwyddiad gan Mike, sy’n aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Ymwelodd ar y dydd Sadwrn, gan eistedd yn dawel yn y gornel yn braslunio’r olygfa o’i flaen. Roedd e’n meddwl bod ein gwaith, fel ei waith e, yn anhygoel: “Cefais i’r cyfle i ymweld â’r arddangosfa o waith aelodau Grŵp Tecstilau Cutting Edge yn Sain Ffagan. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd, ac roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd yn mwynhau diwedd gwyliau’r Pasg. Roedd llawer o weithgareddau llawn hwyl i blant ac oedolion. Cefais fy annog i ymweld ag arddangosfa Grŵp Tecstilau Cutting Edge i weld beth maen nhw’n ei wneud gan aelod o’r grŵp sydd hefyd yn aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Yr ateb yw llawer, gyda’r safon yn uchel iawn hefyd! Roedd pawb mor garedig yn rhannu eu gwaith. Mae gen i lwyth o syniadau, a cheisiais ddal y digwyddiad yn fy mraslun” Instagram @mikelinewalker Nodyn cloi: Postiodd Monica gerdyn post ffabrig at un o’r menywod o’r Iseldiroedd a ymwelodd â’r arddangosfa, ac fe gyrhaeddodd y cerdyn cyn iddi ddychwelyd adre i’r Iseldiroedd! Dyma’r e-bost gafodd Monica gan Thea: “Annwyl Monica, Am sioc oedd darganfod bod y cerdyn anfonaist ti ata i wedi cyrraedd yn barod erbyn i fi ddychwelyd o fy ngwyliau yn teithio drwy Gymru. Roedd hi’n braf iawn dy gwrdd yn yr arddangosfa a chael dewis o’r cardiau roeddet ti wedi’u creu. Roedd hi’n arddangosfa ysbrydoledig iawn, a mwynheais i hi’n fawr. Bydda i’n dangos y cardiau i aelodau’r clwb cwiltio yfory, ac rwy’n siŵr y byddan nhw wrth eu bodd gyda nhw hefyd. Mae angen i fi ddod o hyd i le da i’w rhoi nhw, un ai yn fy nghartref neu yn fy ysgol, lle bydda i’n mwynhau edrych arnyn nhw, ond dydw i ddim yn siŵr eto. Dymuniadau gorau, ac i aelodau eraill Grŵp Tecstilau Cutting Edge Thea”I ddysgu mwy am Grŵp Cutting Edge, ymwelwch â: Cutting Edge | Sharing textiles knowledge, ideas and skills
Blog ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Gŵyl Caru Eich Lles Meddwl yn Amgueddfa Cymru Loveday Williams , 12 Mai 2025 Dathlu lles meddwl cadarnhaol drwy ymgysylltu â threftadaeth, creadigrwydd a chymuned ar Ddiwrnod Santes Dwynwen:Ar 25 Ionawr 2025, dathlodd Amgueddfa Cymru Ddiwrnod Santes Dwynwen, sef diwrnod Nawddsant Cariad Cymru, gyda gŵyl i ddathlu lles meddwl cadarnhaol gyda chefnogaeth creadigrwydd, treftadaeth a chymuned. Ar draws ein saith amgueddfa, cynhaliwyd gwahanol weithgareddau a pherfformiadau, a ddyluniwyd i ddileu straen, gwella hwyliau a helpu pobl i ymdopi â heriau bob dydd. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai celfyddydau creadigol a ysbrydolwyd gan ein casgliadau, datganiadau cerddoriaeth, perfformiadau côr, sesiynau blasu gwaith gof a gweithdai barddoniaeth. Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni hefyd gynnal marchnadoedd gwybodaeth yn Sain Ffagan a Big Pit lle gallai sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi lles pobl ymgysylltu â’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth a chyngor. Sain FfaganYn Sain Ffagan fe wnaethon ni groesawu Côr Cymunedol Sally’s Angels a buon nhw’n canu ar y Llwyfan Cymunedol yng nghyntedd yr amgueddfa wrth i ymwelwyr gyrraedd yn y bore. Yn dilyn hyn cafwyd perfformiadau ar safle Capel Pen-rhiw a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn ddiweddarach yn y dydd. Perfformiodd y côr amrywiaeth o ganeuon yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys perfformiad twymgalon o’r gân fythol boblogaidd, Calon Lân. Ymatebodd ymwelwyr yn dda iawn i’r awyrgylch hapus a gwresog a gafwyd gan y côr drwy gydol y dydd. Diolch i holl aelodau gwych y côr a helpodd i’w wneud yn ddigwyddiad mor arbennig. Cynhaliwyd marchnad stondinau gwybodaeth yn y prif gyntedd hefyd, gyda sawl sefydliad yn cynnal gweithgareddau crefft galw heibio, fel addurno fframiau cardfwrdd siâp calon. Roedd y gweithgareddau yma’n boblogaidd iawn gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd ac yn galluogi’r sefydliadau partner i siarad ag ymwelwyr am eu gwasanaethau yn fwy manwl wrth i bobl dreulio amser ar y stondinau yn cymryd rhan yn y gweithgareddau crefft oedd ar gael. Roedd wyth stondin i gyd, yn cynnwys Canolfan Ganser Felindre, Oasis Caerdydd, Prosiect Hapus (Iechyd Cyhoeddus Cymru), grŵp cymorth dementia Memory Jar, Mudiad Meithrin/Cymraeg i Blant, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Platfform – yr elusen iechyd meddwl, yn ogystal â stondin gan yr Amgueddfa yn hyrwyddo rhaglen Iechyd a Lles Amgueddfa Cymru, yn enwedig y Prosiect Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion. Rydyn ni’n amcangyfrif bod y farchnad wedi ymgysylltu â thua 165 o bobl drwy gydol y dydd.Yn ystod y dydd cynhaliwyd gweithgareddau amrywiol yn Sain Ffagan gyda’r nod o ddarparu amgylchedd ymlaciol i fwynhau ac ymgysylltu â chasgliadau’r amgueddfa mewn ffordd greadigol. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai crefft gwlân a gwehyddu gan ddefnyddio ein hatgynhyrchiadau o wyddiau llaw o’r Oes Haearn, teithiau cerdded myfyriol ym myd natur yn archwilio gofodau tu allan, fflora a ffawna’r amgueddfa, a gweithdy creu Llwy Garu bapur eich hun wedi’i hysbrydoli gan y casgliad Llwyau Caru yn oriel Gweithdy, wedi’i gynnal gan yr artist Nia Skyrme.Roedd y gweithdai gwehyddu lle roedd pobl yn gallu creu eu nod llyfr gwlân eu hunain i fynd adref gyda nhw yn boblogaidd iawn. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn gyda llawer o bobl yn dweud pa mor ymlaciol a myfyriol oedd y gweithgaredd iddyn nhw a pha mor hyfryd oedd hi i wneud rhywbeth drostyn nhw eu hunain wrth dreulio amser gyda theulu a ffrindiau. Dywedodd llawer o rieni a gymerodd ran yn y sesiwn pa mor hyfryd oedd hi i wneud rhywbeth y gallen nhw roi cynnig arno eu hunain, gyda’u plant, gan ddysgu sgil newydd a mwynhau’r broses greadigol gyda’i gilydd. Roedd y plant a gymerodd ran i’w gweld yn canolbwyntio ac yn y mwynhau’r gweithdai ac yn gadael yn falch iawn gyda’u llyfrnodau gwlanog! Soniodd y bobl a gymerodd ran ar y teithiau natur myfyriol pa mor ymlaciol a heddychlon oedd y profiad iddyn nhw, a’u bod hefyd yn gweld y teithiau’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rhannodd Ian Daniel, a arweiniodd y teithiau cerdded, dechnegau meddwlgarwch gyda phobl i fynd gyda nhw a’u defnyddio yn eu bywydau bob dydd, yn ogystal â ffeithiau diddorol am y fflora a’r ffawna ar eu taith gerdded. Cafodd yr artist Nia Skyrme, a fu’n arwain y gweithgaredd Llwy Garu yn y Gweithdy, brynhawn prysur iawn gydag o leiaf 95 o bobl yn galw draw i gymryd rhan yn ystod y sesiwn. Gwnaeth y cyfranogwyr lwyau caru papur hardd yn cynrychioli beth oedd yn bwysig iddyn nhw, wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa hyfryd yn oriel Gweithdy drws nesaf i’r sesiwn. Roedd teuluoedd â phlant hŷn yn gallu cymryd rhan yn y gweithgaredd celf hygyrch yma gyda’i gilydd, ac roedd rhieni plant ifanc iawn yn gallu mwynhau gweithgaredd creadigol yn heddychlon tra roedd eu babanod yn cysgu. Roedd hi’n ffordd hyfryd o annog ymwelwyr i gysylltu â’r casgliadau mewn ffordd wahanol; roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.Roedd y tywydd yn hyfryd ar 25 Ionawr. Roedd yr haul yn gwenu drwy’r dydd, gan ddenu llawer o ymwelwyr i Sain Ffagan – llawer mwy nag y bydden ni’n ei ddisgwyl fel arfer ar ddiwedd mis Ionawr. Rhoddodd hyn hwb mawr i’r ŵyl a chaniatáu i ni hyrwyddo ‘amgueddfeydd er lles’ i gynulleidfa eang.Big PitYn Big Pit roedd amrywiaeth o weithgareddau i’w harchebu a gweithgareddau galw heibio. Drwy gydol y dydd, bu Len Howell, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o weithio fel gof mewn pwll glo, yn arwain sesiynau gwaith gof yn yr efail yn Big Pit. Bwriad rhain oedd helpu dynion i ymdopi â straen drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a ‘tharo’r einion yn galed’. Gydag arweiniad, roedd y cyfranogwyr yn gallu gweithio gyda dur poeth a gwneud calon fach i fynd adref gyda nhw. Arweiniodd y bardd Patrick Jones weithdai ‘Ysgrifennu er Lles’ er mwyn ceisio curo diflastod mis Ionawr. Drwy weithdy hwyliog ac ysgafn o ddarllen, gwrando a thrafod cerddi, bu cyfranogwyr hefyd yn cymryd rhan mewn ymarferion ysgrifennu a gynlluniwyd i godi hwyliau. Dywedodd pob un o’r cyfranogwyr fod lefel eu bodlonrwydd a’u hapusrwydd wedi codi erbyn diwedd y gweithdy, ac roedd pawb yn hapus i rannu eu meddyliau a’u teimladau mewn ffilm fer a wnaed ar y diwrnod.Cymerodd teuluoedd ran mewn gweithgaredd ‘Creu Llwy Garu’, a dysgu am y gwahanol symbolau ac ystyron, cyn dylunio a chreu eu llwy eu hunain. Rhoddodd y gweithgaredd difyr yma gyfle i bobl ymlacio a sgwrsio ag arweinwyr y gweithdai, a manteisiodd llawer o bobl ar y cyfle hefyd i wisgo gwisgoedd mwyngloddio yn erbyn cefnlen hanesyddol, wrth archwilio’r thema ‘Cynefin’. Daeth nifer o sefydliadau sy’n gallu helpu gyda lles meddwl cadarnhaol a chyfeirio pobl at ragor o wybodaeth i’r farchnad ar y diwrnod. Cafodd Andy’s Man Club, grŵp cerdded Take a Stroll Torfaen, Sport in Mind, Torfaen Talks CIC, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd gyfleoedd i ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo’r cymorth, y cyngor a’r arweiniad maen nhw’n eu darparu. Fe wnaeth yr ymwelwyr fwynhau chwarae tenis bwrdd ar y bwrdd a ddarparwyd gan Sport in Mind (ac ambell i dwrnamaint mwy difrifol). Llwyddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog sefydliadau i gofrestru fel cefnogwyr Hapus.Amgueddfa Wlân Cymru Yn Amgueddfa Wlân Cymru, gwahoddwyd ymwelwyr i fachu paned, codi cacen gri siâp calon a gwrando ar alawon melfedaidd y delynores Delyth Jenkins. Perfformiodd Delyth drwy gydol y dydd, a rhoddodd ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch i’r Amgueddfa. Roedd yr ymwelwyr yn ei gwerthfawrogi’n fawr. Amgueddfa Genedlaethol CaerdyddYn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd achubwyd ar y cyfle i dreialu ein Llwybr Celf Meddyliol sydd newydd ei ddatblygu. Mae Louise Rogers, un o’n hwyluswyr yn y tîm Dysgu wedi treulio amser dros y flwyddyn ddiwethaf yn datblygu’r adnoddau ar gyfer y llwybr hunan-arweiniol a gwahoddiad i brofi’r orielau celf mewn ffordd fyfyriol. Ar y diwrnod, arweiniodd Louise ddau lwybr myfyriol, gan annog cyfranogwyr i edrych ar gelf o safbwynt myfyriol yn unig, heb bwysau, ac i fwynhau’r gelfyddyd syml o ‘edrych’.Yn ôl ymchwil, mae’r rhan fwyaf o bobl yn edrych ar waith celf am tua saith eiliad, ond roedd y sesiwn yn annog pobl i gymryd mwy o amser i edrych ac amsugno’r hyn roedden nhw’n ei weld, yn lle rhuthro drwy’r orielau. Arweiniodd hyn at ddarganfod mwy o fanylion ym mhob darn o waith, ac roedd defnyddio’r synhwyrau a’r dychymyg yn galluogi pobl i ddelweddu straeon posib am y gweithiau celf. Roedd hwn yn brofiad newydd i’r holl gyfranogwyr, ac fe wnaeth pawb ymlacio i’w ffordd eu hunain o ryngweithio â’r gelfyddyd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd adnoddau fel y rhain yn annog pobl i edrych ar yr orielau fel gofod diogel ac anfeirniadol i gael seibiant o’u harferion dyddiol prysur, ac i fwynhau eiliadau o dawelwch.Diolch i’n holl sefydliadau partner anhygoel, aelodau hyfryd Côr Sally’s Angels, arweinwyr y gweithdai gwych a phawb a ddaeth i gymryd rhan. Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud hebddoch chi. Dywedodd y bobl a ddaeth i’r digwyddiadau yn y gwahanol amgueddfeydd eu bod yn gwerthfawrogi gallu galw heibio i sesiynau yn rhad ac am ddim, gan gael gwared ar y straen o ddifyrru plant yn ystod cyfnod ariannol anodd.Diolch yn arbennig i Brosiect Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru am gefnogi’r ŵyl gyda chyllid, gan ein galluogi i gynnig mwy o gyfleoedd a gweithio gyda’r gweithwyr creadigol llawrydd a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am Brosiect Hapus a chofrestru fel cefnogwr. Diolch hefyd i holl staff yr amgueddfa a gefnogodd y digwyddiad, arwain sesiynau a helpu gyda’r gwaith trefnu ar y diwrnod. Fel gwaddol i’r ŵyl, rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion sy’n cael eu lansio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Diolch i Glyn Roberts a Tom Maloney am weithio i greu cofnod o’r holl weithgareddau bendigedig a’r eiliadau hyfryd a rannwyd yn ystod y dydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r canlyniadau! Byddwn hefyd yn gweithio ar ddatblygu adnoddau meddwlgarwch mewn cydweithrediad â Meddwlgarwch Cymru ar gyfer ein hamgueddfeydd, yn ogystal â chroesawu pobl greadigol llawrydd i gyflwyno gweithdai lles sy’n ystyriol o ddementia wedi’u hysbrydoli gan ein casgliadau. Cadwch lygad am ragor o fanylion.
Diwrnod y Ddaear 2025 Victoria Hilman, Arweinydd Prosiect: Datblygu Cynaliadwy a Datgarboneiddio, 22 Ebrill 2025 Bob blwyddyn ar 22 Ebrill, mae Diwrnod y Ddaear yn cael ei ddathlu ledled y byd. Mae nod Diwrnod y Ddaear yn syml i: “arallgyfeirio, addysgu ac i ysgogi’r mudiad amgylcheddol ledled y byd”. Mae 2025 yn nodi pen-blwydd 55 mlynedd Diwrnod y Ddaear a’r thema yw “Ein Grym, Ein Planed”. Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur yn 2019. Rydym wedi cymryd ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd o ddifrif ers tro, ond ers y garreg filltir bwysig hon, rydym wedi cynyddu ein hymdrechion ac wedi rhoi ysbrydoliaeth i eraill ei dilyn. Mae Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw i fod yn ganolfan dysg a darganfod ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ac ymwelwyr o bell. Rydym wedi ymrwymo i warchod eitemau hanesyddol, cynnal adeiladau hardd, cadw sgiliau traddodiadol yn fyw a lleihau ein heffaith negyddol ar yr amgylchedd – hyn i gyd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau a chael eu hysbrydoli gan yr un pethau yr ydym ni wedi bod yn ddigon ffodus i’w profi. Mae’r blog hwn yn archwilio rhai meysydd lle mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn weithgar. Boed gartref neu yn y gwaith, sut allech chi gyfrannu at athroniaeth Diwrnod y Ddaear? Bioamrywiaeth a NaturMae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o fannau awyr agored – o’r tirweddau dramatig o amgylch Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, i rostir ysgubol Big Pit ym Mlaenafon, i ddôl corsiog tawel Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre. Mae amrywiaeth eang o rywogaethau yn byw yn y cynefinoedd arbennig hyn. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i gael tîm o guraduron gwyddorau naturiol ymroddedig sy’n arbenigo mewn botaneg a sŵoleg. Yn ogystal â gofalu am gasgliad sylweddol yr Amgueddfa (tua 5 miliwn o wrthrychau), mae’r curaduron yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith maes ac ymchwil. Mae’r curaduron yn cynnal arolygon ar ein wyth safle ac yn argymell camau gweithredu i gynnal a gwella’r cynefinoedd, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd o gynyddu bioamrywiaeth. Dros amser, bydd yn ddiddorol gweld sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y rhywogaethau sy’n byw ar y safleoedd. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mae’r tîm garddio a’r tîm gwirfoddoli yn gweithio i ddatblygu dolydd blodau gwyllt trwy hau cribell felen a chymryd rhan yn “Mai Di-dor” (a Mehefin, Gorffennaf ac ati). Bydd gweithgareddau o’r fath yn annog pryfed peillio i’r ardal. Beth am ymweld yn y gwanwyn neu’r haf i weld faint o rywogaethau y gallwch chi eu hadnabod? Fel arall, ewch i Amgueddfa Wlân Cymru a dilynwch lwybr y ddôl sy’n addas i deuluoedd. Digwyddiadau bioamrywiaeth a natur sydd ar ddod Yr Wythnos Werdd Fawr, 7 – 15 Mehefin 2025 Wythnos Natur Cymru, 5 – 13 Gorffennaf 2025 Dathlu byd natur yn Sain Ffagan, 12 Gorffennaf 2025 Pen-blwydd 20 mlynedd Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, yn dechrau ym mis Medi 2025 Cynaliadwyedd, Ailddefnyddio a HunangynhaliaethMae nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru yn arddangos dulliau cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o fyw o’r gorffennol. Gall y dulliau a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i godi’r adeiladau hanesyddol a ailgodwyd yn Sain Ffagan ddarparu pwyntiau dysgu i ni heddiw. Mae hanes dyfeisgarwch meddyliau Cymreig yn cael ei fynegi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ac mae Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru yn dangos sut y bu i ddiwydiannau allweddol Cymru reoli pŵer dŵr a dangos lefel hynod o hunangynhaliaeth. Mae symud o economi llinol (cymryd, gwneud, gwastraffu) a thuag at economi gylchol yn allweddol i ddiogelu adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Enghraifft ddiweddar o ddiwylliant ailddefnyddio Amgueddfa Cymru yw’r gwaith adnewyddu’r siop yn Big Pit. Cafodd hen ddramiau glo eu hadfer, a’u hadnewyddu’n ofalus ac maent bellach yn cymryd lle amlwg fel nodwedd arddangos yn y siop. Agoriad mawreddog siop Big Pit, 28 Ebrill 2025 DatgarboneiddioMae Amgueddfa Cymru ar genhadaeth i ddatgarboneiddio ei hystâd adeiledig. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i leihau’r defnydd o danwydd ffosil ar safleoedd drwy uwchraddio cyfarpar i fersiynau mwy effeithlon a thrwy newid systemau gwresogi â systemau trydan amgen (e.e. pympiau gwres o’r aer). Dros bum mlynedd (2019/2020 i 2023/2024), mae’r defnydd o nwy naturiol wedi gostwng 36%. Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru eisoes yn cael eu gwresogi a’u pweru’n gyfan gwbl gan drydan o ffynonellau 100% adnewyddadwy. Cynhaliwyd prosiect sylweddol rhwng Ionawr a Mawrth 2025 pan gafodd systemau gwresogi tanwydd ffosil (nwy naturiol, LPG ac olew) eu disodli mewn wyth adeilad ar bedwar safle gan bympiau gwres o’r aer. Gwnaethpwyd y gwaith diolch i gyllid gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a bydd yn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach.
Lleisiau'r Amgueddfa - Dr Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Dr Nicole Deufel, 14 Ebrill 2025 Helo, Nicole, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti dy hun a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.Dr Nicole Deufel ydw i, a fi yw Pennaeth yr Amgueddfa yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Fy rôl i yw arwain y tîm, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar ailddatblygu’r amgueddfa dros y blynyddoedd nesaf.Yr hyn sy’n arbennig iawn am yr amgueddfa hon, Amgueddfa’r Glannau o fewn Amgueddfa Cymru, yw ein bod ni mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe. Rhan fawr o fy rôl i ar hyn o bryd yw canolbwyntio ar y bartneriaeth honno, ei siapio, ei chryfhau a’i sicrhau ar gyfer y dyfodol.Rydyn ni’n llawn cyffro o glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer Amgueddfa’r Glannau, beth alli di ei rannu gyda ni?Maen nhw’n gynlluniau mawr ac yn dod fesul cam, ond rydyn ni’n awyddus iawn i ddechrau arni eleni. A dweud y gwir, rydyn ni wedi dechrau’n barod!Un o’r pethau allweddol i ni yw ailsefydlu’r cysylltiad rhwng ein warws hanesyddol a’r ardal hanesyddol o’i amgylch. Rydyn ni’n defnyddio hynny fel man cychwyn i ddehongli hanes diwydiant, datblygu ac arloesi yng Nghymru, a’r cysylltiadau byd-eang drwy’r môr. Mae’n stori hynod o gyffrous.Yn bersonol, rydw i mor falch bod y warws gyda ni fel ased hanesyddol i helpu adrodd y stori.Mae hunaniaeth yn ffocws mawr arall ar hyn o bryd. Pan gerddwch chi i mewn i’r amgueddfa, dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n amlwg ar unwaith pwy ydyn ni, yn enwedig o gymharu ag amgueddfeydd eraill Amgueddfa Cymru. Yn Big Pit, er enghraifft, mae ei hunaniaeth yn glir yr eiliad y cyrhaeddwch chi. Mae’r un peth yn wir am yr Amgueddfa Wlân; mi es i yno’n ddiweddar, ac mae ei holl bwrpas yn eich taro chi’n syth.Dydi Amgueddfa’r Glannau ddim yno eto, felly mae hynny’n rhywbeth rydyn ni am fynd i’r afael ag e. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr ddod i mewn, yn enwedig trwy’r fynedfa o ochr y ddinas, a gweld gwrthrychau ‘waw’, sydd nid yn unig yn creu argraff ond hefyd yn dal hanfod y straeon rydyn ni’n eu hadrodd. Rydyn ni eisiau i’n hunaniaeth ddisgleirio yr un mor llachar ag y mae yn ein hamgueddfeydd eraill. Fel bod pobl yn cerdded i mewn ac yn gwybod ar unwaith – rydw i yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!Fe soniaist ti am ddarnau ‘waw’. Pa rôl mae’r casgliad yn ei chwarae yn y weledigaeth newydd yma, a pha mor bwysig yw cadwraeth a gwarchod y casgliad?Os edrychwn ni ar Neuadd Weston, mae’r casgliad yn help gwirioneddol i ni ddatblygu a darlunio’r straeon, sef straeon pobl. Nid dim ond grŵp o wrthrychau yw’r casgliad. Mae’n cynrychioli stori Cymru a phobl Cymru.Dyna sut rydyn ni eisiau defnyddio’r casgliad. Nid dim ond dangos y gwrthrychau ond cloddio’n ddyfnach i’r straeon y tu ôl iddyn nhw a’u helpu nhw i ddisgleirio.Fel rhan o’r broses ailddatblygu yma, byddwn ni hefyd yn cadw ac yn ailddehongli rhai o’r gwrthrychau trwy ddod ag eitemau allan sydd heb gael eu harddangos ers tro byd a’u defnyddio nhw i adrodd y stori yma.Dyna beth sy’n fy nghyffroi i am y casgliad. Roeddwn i yn y storfa’n ddiweddar, a dangosodd y curadur y fan bocs i mi. Dyna un o’r gwrthrychau rydyn ni am ei adfer a’i ddefnyddio mewn gofod arddangos trochol. Wrth ei osod yn y gofod yma, mae’n helpu i esbonio’r golofnfa, y warws, a’r cysylltiadau trwy’r rheilffyrdd i weddill Cymru, a sut roedd nwyddau’n teithio allan i’r byd ac yn ôl eto. Mae’r casgliad yn ein galluogi ni i rannu hynny i gyd. Dyna pam ei fod mor bwysig.Beth sy’n dy ysbrydoli di fwyaf wrth iti gamu i mewn i Amgueddfa’r Glannau, fel y mae heddiw?Mae mor gyffrous inni i gyd fod yma. Rwy’n teimlo mor ffodus o ddod i weithio bob dydd gyda thîm proffesiynol, creadigol, anhygoel.Gyda’n gilydd rydyn ni’n edrych ar beth sy’n gweithio yn yr amgueddfa, beth allwn ni ei wella, a sut y gallwn ni osod pobl, eu straeon a’u profiadau wrth galon popeth wnawn ni. Rydyn ni eisiau cysylltu pobl trwy eu hymweliad yma a dyna sy’n fy nghyffroi i.Rwy’n cael gwneud hyn gyda thîm anhygoel, mewn lleoliad hyfryd. Dwi wir wrth fy modd â’r warws, a chymaint o’r gwrthrychau yn ein casgliad. Mae’r cyfan mor gyffrous. Bob dydd, rydyn ni’n gwirioneddol fwynhau’r hyn rydyn ni’n ei wneud.Mae’ch gardd GRAFT yn dathlu ei seithfed penblwydd eleni, ac mae’n ffynnu, mewn dinas brysur. Sut allwn ni fel Amgueddfa Cymru, neu fel ymwelwyr, wneud ein rhan yn yr ardd?Mae croeso i bawb ymweld â’r ardd a gweithio ynddi.Ar hyn o bryd, os mai ymwelydd cyffredinol ydych chi, efallai nad yw’n glir sut mae’r ardd yn cysylltu â gwaith yr amgueddfa. Ond mae cymaint o syniadau a themâu arloesol yn cael eu harchwilio yn yr ardd, a phobl o bob cefndir yn cyfrannu eu profiadau.Rydyn ni’n edrych nawr ar sut y gallwn ni wneud hynny’n fwy gweladwy. Rydyn ni eisiau helpu pobl i weld y cysylltiad hwnnw, fel bod yr ardd yn dod yn rhywbeth maen nhw’n ymgysylltu’n weithredol â hi ac nid dim ond rhywbeth maen nhw’n pasio heibio iddi.Mae’n cysylltu mor dda â’r themâu rydyn ni’n eu harchwilio yn ein gofodau arddangos mwy traddodiadol, ac roedd sefydlu’r ardd yn syniad mor wych. Mae’n fan lle gall pawb brofi rhywbeth ystyrlon, boed nhw’n gwirfoddoli neu ddim ond yn picio allan i gael golwg.Mae’n gyferbyniad hyfryd, y peiriannau diwydiannol trwm hyn ochr yn ochr â gardd fioamrywiol, gynaliadwy. Mae’n dangos o ble mae Cymru wedi dod a ble mae’n mynd. Mae cynaliadwyedd yn amlwg yn ganolog i hynny.Yn hollol. Os ydyn ni’n sôn am ddad-ddiwydiannu, sef un o’r themâu allweddol rydyn ni am eu harchwilio yma, mae’r ardd yn enghraifft wych.Roedd llygredd yn y tir, felly fe ddefnyddion ni welyau uchel. Mae popeth wedi tyfu o’r fan yna. Dyna beth sydd mor gyffrous amdano fe.Rydyn ni’n clywed dy fod ti wedi bod yn treulio amser yn crwydro dy gartref newydd, Cymru. Wyt ti wedi cael cyfle i ymweld â phob un o’n hamgueddfeydd eto?Ddim cweit. Dw i ddim wedi cyrraedd Llanberis eto, mae hynny ar frig fy rhestr. Rwy’n mynd i Gaerllion yr wythnos nesaf, a Big Pit ddydd Gwener. Dw i wedi bod i Big Pit o’r blaen, ond y tro yma rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd y tu ôl i’r llenni.Dw i wrth fy modd. Ac o safbwynt ein gwaith datblygu ni’n hunain yma, mae mor bwysig i ni ddeall ein lle yn y stori ehangach. Mae hynny’n golygu dod i adnabod y safleoedd eraill go iawn, y tu hwnt i brofiad ymwelydd.Mae straeon mor gyfoethog, adnabyddus gan ein Hamgueddfa Lechi Genedlaethol, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Amgueddfa’r Lleng Rufeinig a’r Big Pit. Sut mae rhoi’r enwogrwydd byd-eang yna i’n diwydiant a’n trafnidiaeth? Mae’n rhan mor bwysig o stori Cymru, ond heb gael ei gysylltu â’r genedl yn yr un modd â glo neu lechi.Yn union. Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf, ac mae daearyddiaeth yn chwarae rhan fawr yn hynny. Mae hynny’n rhywbeth y mae gyda ni ddiddordeb mawr ynddo.Mae’r warws yn adlewyrchu’r cyfan, mae gennych chi’r rheilffyrdd yn dod drwodd o’r meysydd glo, y mwynau, y dociau, y bobl fu’n gweithio yma, a’r cysylltiadau â’r môr.Ond nid dim ond stori am ddiwydiant trwm yw hyn. Mae’n stori am ddaearyddiaeth, symud, arloesi. Un o fy hoff ddarnau yw’r Robin Goch. Mae’n wrthrych mor greadigol, y math yna o ysbryd dyfeisgar a wnaeth ddatblygiad diwydiannol yn bosibl, ac mae hefyd yn ganolog i stori dad-ddiwydiannu a chynaliadwyedd heddiw.Roedden ni’n siarad yn ddiweddar am gynlluniau ynni cymunedol sy’n digwydd nawr yng Nghymru. Mae’r rhain yn straeon y mae angen i ni eu hadrodd yn gryfach, a’u rhannu gyda’r byd.Fe soniaist ti am y Robin Goch. Oes gen ti hoff wrthrych o gasgliad Amgueddfa Cymru?Does gen i ddim un yn arbennig, ond rwy’n dwlu ar y Robin Goch. Mae mor ddyfeisgar, defnyddio deunyddiau bob dydd i wneud peiriant sy’n hedfan. Mae’n ffantastig.Rwy’n dwlu ar locomotif Penydarren hefyd. Mae’n debyg ei fod yn annwyl i mi am fy mod i wedi gweithio yng Nghymru o’r blaen, a stori Trevithick oedd un o’r cyntaf i mi ddod ar eu traws.Mae’n grêt dod yma a gweld y replica. Dyw e ddim yma ar hyn o bryd, mae e yn Darlington, ond pan welais i e’n cael ei symud a’r holl rannau’n dod yn fyw, roedd yn emosiynol iawn. Felly ie, mae’n debyg mai’r ddau yna yw fy ffefrynnau.
Blodau Gwyllt Sain Ffagan Elin Barker, Cadwraethydd Gardd, 7 Ebrill 2025 Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae gerddi a dolydd Sain Ffagan yn llenwi â lliw wrth i flodau gwyllt flodeuo ar draws y dirwedd. Mae’r blodau hyn nid yn unig yn hardd, ond maent wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwledig Cymru ers canrifoedd. O’r dolydd gwyllt yn yr amgueddfa i’r perlysiau a dyfwyd mewn gerddi bwthyn, mae’r planhigion hyn yn ein cysylltu â’r tir a hanes Cymru. Mae Sain Ffagan yn gartref i sawl dôl flodau gwyllt, pob un yn cael ei edrych ar ôl yn ofalus i gefnogi bioamrywiaeth. Ar flaen yr amgueddfa, mae dôl yn croesawu ymwelwyr gyda chymysgedd o flodau brodorol, yn llawn pryfed peillio yn ystod yr haf. Dôl arbennig arall yw’r Dôl Coroni, sydd wedi’i lleoli yn y berllan afalau ger y castell, rhan o fenter ar draws y DU i adfer dolydd traddodiadol. Rhai o’r blodau gwyllt sy’n tyfu yma yw cribell felen (yellow rattle), planhigyn a elwir yn "wneuthurwr dôl" am ei allu i wanhau glaswellt a helpu blodau eraill flodeuo, a dant y llew (dandelion), gyda'u dail wedi eu siapio fel dannedd llew. Llygad y dydd (daisy), mae’r blodau yn agor gyda’r haul ac yn cau gyda’r nos. O dan y coed, mae clychau’r gog (Blue bell) yn gorchuddio’r llawr mewn carped glas, gyda’u henw’n gysylltiedig ag galwad y gog yn y gwanwyn. Mae blodau gwyllt wedi bod yn rhan o erddi Cymru ers cenedlaethau hefyd. Mae sawl tŷ hanesyddol yn Sain Ffagan, gan gynnwys Nantwallter, Abernodwydd a Hendre’r-ywydd Uchaf yn cynnwys gerddi perlysiau, lle byddai teuluoedd yn tyfu planhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth. Mae’r gerddi hyn wedi’u hail-greu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a phlanhigion addas i ddangos ffordd o fyw trigolion gwreiddiol y tai. Mae gardd Nantwallter wedi’i dylunio i adlewyrchu gardd gwas fferm yn Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd y 18fed ganrif, pan oedd teuluoedd yn dibynnu ar eu gerddi ar gyfer bwyd, meddyginiaeth ac anghenion dyddiol. Buasai'r teulu gan mwyaf yn hunangynhaliol gan dyfu llysiau a pherlysiau. Yn ogystal â thyfu llysiau, byddent wedi casglu planhigion gwyllt ar gyfer eu defnydd ymarferol a meddyginiaethol. Roedd planhigyn Craith Unnos (Self heal) yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin i drin clwyfau. Byddai Tanclys (Tansy), sydd ag arogl aromatig, yn cael ei ddefnyddio i gadw pryfed mas o’r tŷ, a Chribau San Ffraid (Betony) a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer cur pen a phryder. Defnyddiwyd llawer o’r planhigion meddyginiaethol hyn gan Feddygon Myddfai, grŵp o feddygon chwedlonol o Sir Gaerfyrddin y cofnodwyd eu gwybodaeth am berlysiau mewn llawysgrifau canoloesol. Mae’r ardd perlysiau yn Nantwallter yn cynnwys planhigion traddodiadol sy’n gysylltiedig â Meddygon Myddfai, gan gynnwys Fenigl (Fennel), Wermwd Lwyd (wormwood) a Briallu Mair (Cowslip). Roedd y perlysiau hyn yn trin llawer o bethau gwahanol, ac mae eu defnydd wedi cael ei drosglwyddo drwy’r cenedlaethau. Nid yw blodau gwyllt yn unig yn gyswllt a’r gorffennol, maent hefyd yn bwysig i gefnogi bywyd gwyllt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mentrau fel Mai Di Dor wedi annog pobl i beidio â thorri’r lawnt am fis gan roi lloches a bwyd i bryfed fel gwenyn, pili-palod ac anifeiliaid bach. Yn ystod yr haf, gallwch weld blodau gwyllt yn blodeuo yn Sain Ffagan. Roeddent yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y gorffennol, yn cael eu gwerthfawrogi am eu defnyddiau ymarferol. Heddiw, maent yr un mor bwysig gan gynnal bywyd gwyllt ac yn atgoffa ni o’r cysylltiad rhwng pobl a natur drwy’r oesoedd.