Y celc o’r Oes Efydd Ddiweddar o Drefddyn: Stori am Fwyeill a Phicellau Matthew Guiseppe Knight, 16 Medi 2017 Celc Trefddyn, Torfaen Llafn uchaf y fwyell De Cymru oedd wedi torri. Dychmygwch yr olygfa. Rydych allan yn cerdded mewn cae. Rydych yn sgubo’ch datgelydd metel ffyddlon yn ôl a blaen dros y ddaear o’ch blaen wrth gerdded. Fe glywch bipian rhythmig y peiriant gyda phob cam a gymerwch. Yn sydyn, mae’r bipian yn cyflymu. Mae rhywbeth yn y ddaear. Rydych yn dechrau cloddio, i weld beth sydd yno. Wrth gloddio, daw pen bwyell hynafol i’r golwg… Dyna oedd hanes Gareth Wileman a’i ddatgelydd metel ym mis Tachwedd 2014. Dros gyfnod o ryw bythefnos, datgelodd Gareth gelc o’r Oes Efydd Ddiweddar oedd yn cynnwys tri phen bwyell socedog efydd a dau flaen picell efydd yn agos iawn at ei gilydd yng nghymuned Trefddyn, Torfaen. Roedd Gareth yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd ei ganfyddiad ac fe gysylltodd yn syth â Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, a aeth ati i archwilio man darganfod y celc. Claddwyd y celc tua 3000 o flynyddoedd yn ôl (rhwng 950 ac 800 CC) yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd celciau o lawer o offer metel, yn cynnwys arfau a thŵls, eu claddu mewn gwahanol fannau. Beth sydd yn y celc? Er y gellir dosbarthu eitemau’r celc yn fras fel ‘pennau bwyeill’ a ‘phennau picellau’, mae pob un yn perthyn i ddosbarth penodol y gallwn eu defnyddio i’n helpu i ddeall sut y câi gwahanol bethau eu masnachu yn yr Oes Efydd. Un peth diddorol iawn yw soced yn perthyn i fwyell socedog ‘De Cymru’ a gladdwyd yn y celc. Cafodd yr ymyl dorri ei thynnu’n fwriadol yn yr Oes Efydd. Mae un o’r bwyeill eraill wedi’i difrodi’n fwriadol hefyd. Mae i’r bwyeill hyn dair asen fertigol ar y ddau wyneb ac maent yn arbennig o gyffredin yn … ie, rydych chi’n iawn, De Cymru! Ar y llaw arall, mae un pen picell yn eithaf prin. Cyfeirir ato fel ‘pen picell lafn lloerfwlch’ gan fod dau dwll hanner crwn yng nghanol y llafn. Mae blaen y pen picell hwn a rhan o’r soced wedi'u torri i ffwrdd, a gallai hynny fod yn fwriadol hefyd. Pam y mae’r celc yn bwysig? Daethpwyd o hyd i gelc Trefddyn mewn ardal lle na wyddem o’r blaen am weithgarwch pobl yn yr Oes Efydd. Mae’n ychwanegu at swm cynyddol o ddeunydd o’r Oes Efydd Ddiweddar a ganfuwyd ledled Cymru. Roedd casglu neu gelcio pethau a’u claddu yn draddodiad eang yn yr Oes Efydd Ddiweddar, ond nid ydym yn siŵr pam roedd pobl yn gwneud hyn. Mae cyfuniadau o arfau, fel picellau, a thŵls, fel bwyeill, yn gyffredin mewn celciau o’r Oes Efydd Ddiweddar. Ond gall eitem berthyn i fwy nag un dosbarth – gall bwyell fod yn arf peryglus hefyd a gallai rhai pennau picellau fod yn eitemau seremonïol. Mae’n bosib mai casgliad un person yw'r cyfuniad o wahanol bethau sydd mewn celc. Neu efallai bod nifer o bobl wedi dod ynghyd i gladdu pethau a oedd yn bwysig i ardal benodol. Mae’n fwy na thebyg na fyddwn ni fyth yn gwybod beth y mae celf Trefddyn yn ei gynrychioli. Y pen picell ‘lafn lloerfwlch’ prin. Yr unig fwyell gyflawn yn y celc. Daethpwyd o hyd i un fwyell wedi torri, a llawer o ddarnau llai. Roedd datgladdu’r celc yn waith mwdlyd iawn!§ Torri neu Beidio â Thorri Mae llafnau dwy o’r bwyeill yng nghelc Trefddyn fel pe baent wedi’u tynnu’n fwriadol. Mae difrod bwriadol tebyg i’w weld ar y pennau picellau. Fodd bynnag, gadawyd y drydedd fwyell yn gyfan. Pam oedd hyn? A lle mae’r darnau coll? Mae’n bosib bod y darnau yn dal yn y ddaear, yn disgwyl cael eu darganfod. Fodd bynnag, roedd difrodi eitemau cyn eu claddu mewn celc yn beth cyffredin i’w wneud. Roedd rhai darnau o eitemau’n cael eu dewis i’w claddu – yn yr achos hwn – pennau soced y bwyeill – ac roedd darnau eraill yn cael eu heithrio (y llafnau torri). Weithiau, mewn celciau eraill, dim ond llafnau’r bwyeill a gawn, heb y socedi. Efallai bod y rhan o’r eitem a gladdwyd yn bwysig. Mae arwyddocâd i gynnwys eitemau cyflawn hefyd. Yn Nhrefddyn, roedd y fwyell gyflawn wedi’i hogi ac mae’n debyg ei bod wedi’i defnyddio cyn ei chladdu. Byddai’n dal yn ddefnyddiol, felly pam fyddai rhywun yn claddu eitem y gellid ei defnyddio? Efallai bod y fwyell wedi’i defnyddio ers blynyddoedd a bod iddi arwyddocâd arbennig i'w pherchnogion, gan ei gwneud yn addas i'w chladdu. Mae’n bwysig meddwl am yr eitemau hyn fel pethau defnyddiol a symbolaidd. Deall yr Oes Efydd Diben archaeoleg yw dod i ddeall pobl y gorffennol. Mae celc Trefddyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr Oes Efydd yn y rhan hon o Gymru, lle na chanfuwyd deunyddiau cynhanesyddol o’r blaen. Mae’n dangos fod yno gymunedau yn yr Oes Efydd a’u bod yn ymwneud ag eitemau mewn ffyrdd dirgel na allwn ni ddim ond dyfalu beth oeddent. Mae pob darganfyddiad yn ein helpu i ddeall y darlun ehangach ac mae celc Trefddyn yn gam pwysig tuag at wneud hyn. Nodiadau a Diolchiadau Bu darganfyddwr y celc hwn yn ddigon cyfrifol i’w gyflwyno trwy Gynllun Henebion Cludadwy Cymru ac erbyn hyn rydym yn falch o gael ei arddangos yn Amgueddfa Pont-y-pŵl lle gall y cyhoedd ei fwynhau. Cafodd ei gaffael â chyllid gan y Prosiect Hel Trysor: Hel Straeon. Cewch weld rhagor o fanylion am waith ymchwilio’r celc, a sgwrs gyda’r darganfyddwr, Gareth Wileman, yma. Diolch i Adam Gwilt (Prif Guradur: Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru) a Mark Lodwick (Cydlynydd Darganfyddiadau: PAS Cymru) am ganiatáu i mi weld adroddiad oedd heb ei gyhoeddi am y celc.
Gweithdai Gwyddoniaeth Gwych Grace! Sarah Williams - Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, 15 Medi 2017 Eleni, am y tro cyntaf, fe fachon ni ar y cyfle i gymryd rhan mewn pedwar gweithdy Gwyddoniaeth o dan ofal Grace Todd. Ond, yn gyntaf, fe ddewision ni wneud y daith hunan-arweiniol o gwmpas yr amgueddfa gan ddefnyddio’r llyfryn lawrlwythog.Mae dau grwp bach Blwyddyn 7 anghenion addysgu ychwanegol lawr wedi mynychu’r amgueddfa o ddau safle Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Roedd y daith gychwynnol yn llwyddiant llwyr gyda chynnwys a gofynion y llyfryn yn addas iawn at oed a gallu’r plant gyda chymorth cynorthwyydd a finnau. Roedd y daith yn rhoi cyflwyniad i’r plant o beth sydd yn yr amgueddfa ond hefyd cyfle i astudio addasiadau a chynefinoedd yn ogystal ag esblygiad trwy edrych ar adran y deinosoriaid. Ymateb y plant wrth fynd i mewn i’r adeilad am y tro cyntaf oedd ‘Waw!! Mae’n awsym!’.Roedd y broses o fwcio’r gweithdai yn hwylus iawn trwy ebost (gydag Alun) ac wedyn bant â ni gyda’r pedwar gweithdy: Darganfod!, Ditectif y Deinosoriaid, Penglogau, Dannedd ac Esgyrn, a Bwystfilod Bac. Roedd modd wrth wneud y gweithdai yma, dynnu sawl peth astudiwyd eisoes yn yr ysgol i mewn e.e. y corff, Mathemateg (trwy wneud cymesuredd ac ati). Beth o’n i’n hoffi fwyaf oedd y ffaith bod y plant yn gallu ymdrîn ag artiffactau ac eitemau casgliadau go iawn. Yn y gweithdy terfynol, roedd y plant yn cael ymchwilio cannoedd o eitemau, eu trin, eu pwyso, eu mesur, eu disgrifio…ac wedyn, roedd pob un yn dewis un er mwyn creu arddangosfa dosbarth. Profiad mor werthfawr ac addysgiadol. Yn ogystal â’r sgiliau gwyddonol oedd Grace yn eu hyrwyddo, roedd cyfle i’r plant ddatblygu sgiliau cyfathrebu trwy drafod gyda’i gilydd a chyflwyno o flaen pawb. Felly, diolch Grace ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. 😊(Rydyn ni hefyd wedi gwneud y gweithdy Celf gyda Catrin ac roedd hyn yn fuddiol iawn. Wedi lawrlwytho adnoddau eraill o’r wefan ar gyfer lleoliadau eraill e.e. Pwll Mawr a Sain Ffagan.)Sut i Archebu
Owain Glyndŵr a thrawst Sycharth Dafydd Wiliam, 15 Medi 2017 Ar 16 Medi, 617 o flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru gan ei ddilynwyr yn ei lys yn Glyndyfrdwy. Pahaodd ei frwydr yn erbyn grym Lloegr rhwng 1400 ag 1409. Roedd ei gartref, Sycharth, yn gastell mwnt a beili Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych. Cyn y gwrthryfel, honnai y bardd Iolo Goch fod naw neuadd yn y llys, a bod to o lechi ar bob un. Ysgrifennodd ‘Mae’i lys ef i nef yn nes’. Ar y stad roedd llyn pysgod, perllan, gwinllan, ceffylau, ceirw, peunod, a dim ond y cwrw lleol gorau fyddai ei weithwyr yn yfed. Wedi darganfod Sycharth yn wag fe losgwyd y lle i’r llawr gan Harri o Fynwy (a goronwyd wedyn yn Harri V). Wedi hynny fe losgodd Glyndyfrdwy.Yn 1927 cysylltodd Yr Aldramon Edward Hughes o Wrecsam â Syr Cyril Fox, pennaeth Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a oedd newydd agor i’r cyhoedd. Yn ei lythyr honodd fod trawst mawr derw wedi cael ei ddarganfod 30 mlynedd ynghynt tra’n gwagio ffos Sycharth I’r perchennog, Syr Watkin Williams-Wynn. Symudwyd y trawst yn ofalus i Neuadd Llangedwyn gan y Foneddiges Williams-Wynn. Yn 1924 gofynnodd Y Aldramon Hughes os gallai ddefnyddio’r trawst yn Neuadd Goffa newydd Llansilin. Roedd y trawst yn rhy hir i’r pwrpas, felly fe lifiwyd darn o un pen, gwaith anodd iawn yn ôl y son. Rhoddwyd y darn a oedd ar ôl i’r Amgueddfa.Glanhawyd y trawst yn ddiweddar fel y gellid tynnu lluniau ohono ac ei arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni. Doedd dim golwg o losg arno fel y disgwylid, ond fe all fod yn ddarn o’r bont dros y ffos na losgwyd i’r un raddfa. Mae yn 50cm o uchder, a 27cm x 36cm o drwch (20” x 11” x 14”). Mae y mortis sylweddol sydd i’w weld yn un ochr yn 27cm x 14cm (11” x 6”).Achosodd yr arddangosfa gryn diddordeb, ac fe gysylltodd Richard Suggett o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i gynnig mwy o wybodaeth. Rhai blynyddoedd ar ôl codi Neuadd Llansilin, tynnwyd trawst Sycharth o’r adeilad oherwydd pydredd, a rhoddwyd mewn sgip. Achubwyd y trawst gan Mr. Dick Hughes, perchennog garej lleol, a’i rhoi yn ôl i’r Neuadd rhai blynyddoedd wedyn. Mae gweddillion y trawst yn awr mewn cas gwydr, a bellach ond yn 75cm o hyd.Mae gwaith cloddio archaeolegol yn Sycharth wedi darganfod neuadd 18 medr o hyd (43’), ond nid y naw a honnai Iolo Goch. Er mwyn cefnogi yr honiad taw darn o Sycharth yw’r trawst mae angen ceisio dyddio y pren. Wedi dweud hyn, nid yw pob darn o bren yn addas i’r dechneg o ddyddio drwy dendrocronoleg, ac eraill fel hwn o bosib yn rhy fregus yw ddyddio drwy gymeryd sampl gyda dril llaw.Mae ein gwaith diweddar wedi bod yn canolbwyntio ar ddarganfod cymaint o wybodaeth a phosib drwy ymchwiliadau a wneith ddim niwed i’r pren. Hynny yw, defnyddio ein llygadau. Drwy oleuo y pren or ochr roedd modd gweld y gwahannol farciau a oedd wedi casglu drwy ddeunydd ers cyfnod Glyndŵr lan at ei dderbynodi mewn i’n casgliadau ni yn 1931. Mae’r rhain yn cynnwys y torriadau llif ar ddau ben y pren. Oherwydd bod un ohonnynt yn gam, y tebygrwydd yw y torriad yma a ddinistriwyd tri llif tua 1924 pan addaswyd y pren i ffitio i mewn i neuadd Llansilin.Rydym hefyd wedi glanhau un o’r wynebau yma er mwyn gweld tyfiant y goeden dros amser. Ar ôl cyfri’r cylchoedd tyfiant fe welom fod y goeden tua 200 mlwydd oed pan y torrwyd hi. Ein cam nesaf yw cymharu patrwm tyfiant y goeden gyda’r catalog o gronoleg coed derw er mwyn rhoi dyddiad i’r trawst o Sycharth.
Creating a card catalogue for the Oakdale Workmen's Institute Library Kristine Chapman, 15 Medi 2017 Throughout 2017 the Museum has been celebrating the 100th anniversary of the Oakdale Workmen’s Institute with a variety of projects, all aimed at bringing the building alive again. One of these projects has involved cataloguing the books housed in the Institute’s Library. When the building opened in 1917, the Circulating Library operated out of the Book Room (which is now the ladies lavatories), it wasn’t until 1932 that it was relocated into the current room, due to outgrowing its space. The Book Committee was responsible for choosing and purchasing the books, and they purchased a wide variety of different subjects. There is a note in the Committee Minutes that in 1918 a book of “questionable character” was to be burned, but not before the Committee had been allowed to read it, if they so desired! The rules for using the Library allowed for one book per member for 14 days, although in 1928 that was increased to two, so as to allow members to choose a book for their wives. And, in 1933 they decided to set up a children’s section in the Library. The Library was well used, the minutes record the poor state of repair of the book stock due to overuse, at one point 300 to 500 books were being loaned each month. However, the Library was closed and the books dispersed when a branch of the County Library opened in 1967. The Institute then closed entirely in 1987, before being relocated to St Fagans, where it was rebuilt and reopened to the public in 1995. At this time many other Workmen’s Institutes donated items from their buildings, and now the Library holds a mix of books from across many of those areas. A keen group of volunteers came together to in May 2017, to start working on writing out book record cards. These would then be housed alphabetically in wooden drawers, allowing visitors to browse through the contents of the library shelves, much as original users of the Institute’s Library would have done. As we copied out the details of each book, one by one, we had the opportunity to discuss the wide range of material available to the Institute’s members. The collection included technical manuals, classic works, poetry, sermons and bible stories, mysteries, thrillers and adventure stories, and political works. The mystery and adventure novels certainly seemed the most popular, judging by the amount of date stamps in the front. However, probably the really popular books didn’t survive, as the wear and tear on them would have been the greatest. We found many books in the library with the distinctive red covers of the Left Book Club, a publishing group founded by Victor Gollancz in 1936, with the aim to “help in the struggle for world peace and against fascism”. It offered members a monthly book choice, and the Book Committee at Oakdale joined in 1937. We also found a number of books which had been part of the Boots Booklovers Library, an initiative that many of us hadn’t heard of before. From 1899 till 1966 Boots ran a subscription based lending library out of their chemist branches, at one point more than 400 branches across the UK were participating in the scheme. Many of the books had a distinctive green badge, identifying them as part of the Boots Library, and were probably donated after the closure of the branches. A large collection of books that came originally from the Nantymoel Workmen’s Hall, donated by a father in 1952 in remembrance of his son. They were copies of the 100 Best Books collection from Sir John Lubbock's choice of books. This was a list originally compiled in 1886, after a speech given at the Working-Men’s College in London, on the best books for self-education. We admired how attractive some of the books looked, with stunning illustrations or cover designs. There were a number dating from the 1930s, published by Gwasg Aberystwyth which had very striking designs, including a copy of Y crefftwr yng Nghymru (The craftsman in Wales) by Iorwerth C. Peate, founder of St Fagans National Museum of History!
Bronze Age South Wales Axes Matthew Guiseppe Knight, 12 Medi 2017 The Bronze Age is full of different types of objects.The discovery of metal about 3500 years ago meant new objects could be made or redesigned.One such object is the axe. For thousands of years people across the world had been making axes out of stone. Bronze Age axeheads were then made out of metal in different shapes and sizes.By the Late Bronze Age (1100-800 BC), axes were made with sockets, which allowed for the insertion of a wooden haft/handle. Often they had loops to secure the haft with binding, such as leather strips.In South Wales, a specific form of axe seems to have been very popular and has been named the ‘South Wales axe’.These axes have thick, flat socket mouths and a loop on one side. They are often heavy and poorly made. There are three raised ‘ribs’ on both faces of the axe. These are sometimes parallel and sometimes converging.Hundreds of these axes have been found buried in Wales, either on their own or in large hoards of objects. Sometimes they are complete and sometimes they are broken; the reasons for this are uncertain.An example has recently been found in the Trevithen Hoard, Torfaen, and is currently on display at Pontypool Museum.South Wales axes have also been found across England, and as far away as northern France.This implies these products were traded and exchanged over long distances.The function of these axes is unclear. These axes may have been left in a rough condition because they were used in agricultural activities, such as cutting roots and breaking plough soil.Whatever the reason they appear to have formed an important part of the Late Bronze Age in South Wales. As more are discovered, archaeologists will continue to gain insights into these objects.