Gwaith Artistiaid Preswyl yn Sain Ffagan Sian Lile-Pastore, 20 Gorffennaf 2017 Hanes, Celf a Chwarae Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn nodedig am ei gosodweithiau hanesyddol - o eglwys ganoloesol i siop teiliwr, popty a thai teras . Mae'r amgueddfa a'i chasgliadau wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, sydd wedi defnyddio ein safle, ein casgliadau a'n archifau dros y blynyddoedd. Yn ddiweddar, rydym wedi ceisio creu rhagor o gyfleon i artistiaid i ddefnyddio'r amgueddfa mewn ffordd ddyfeisgar, trwy raglen artistiaid preswyl. Diolch i gefnogaeth hael Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae'r rhaglen artistiaid preswyl yn rhoi cyfle i artistiaid ddatblygu eu gwaith, yn ogystal â datblygu profiadau newydd ar gyfer ymwelwyr - fel y lle chwarae i blant, gan yr artist Nils Norman: Manylun o'r Iard, lle chwarae wedi'i ddatblygu gan Nils Norman yn Sain Ffagan Yn 2017-2018 rydym yn falch o weithio gydag Owen Griffiths, Sean Edwards gyda chymorth ymchwil gan Louise Hobson. Eu briff yw i archwilio sut 'mae ymwelwyr yn symud trwy'r safle. Artistiaid Preswyl Sain Ffagan Nils Norman, 2015-16 Fel rhan o’r gwaith ailddatblygu Sain Ffagan , roedd angen lle chwarae newydd – un fyddai’n unigryw i’r safle ac yn annog chwarae creadigol. Gwahoddwyd yr artist Nils Norman i dreulio cyfnod yn yr amgueddfa fel artist preswyl ac i ddylunio lle chwarae newydd a chynnig syniadau am chwarae creadigol dros y safle. Artist sy’n gweithio yn Llundain yw Nils ac mae wedi gweithio ar nifer o brojectau yn ymwneud â chwarae a dylunio dinesig. Mae’n awdur pedwar cyhoeddiad ac yn Athro yn Academi Celf a Dylunio Frenhinol Denmark yn Copenhagen lle mae’n arwain yr Ysgol Waliau a Gofod. Gweld mwy o waith Nils Norman. 'Birdscreens' - Nils Norman Imogen Higgins "Mae’r cyfnod preswyl yn Sain Ffagan wedi rhoi rhyddid i mi arbrofi gyda photensial celf gymunedol yn annibynnol. Cefais ryddid i ddatblygu syniadau sy’n manteisio ar fy nghryfderau a’m diddordebau. Cefais gyfle hefyd i weithio gyda mwy o ffocws a chanolbwyntio ar friff penodol. Bu’n rhaid i mi hefyd arbrofi gyda dulliau creadigol o gasglu gwybodaeth, fydd yn sicr o fantais i mi yn fy ngyrfa fel artist cymunedol.” Artist cerameg newydd raddio ac yn gweithio yng Nghaerdydd yw Imogen Higgins. Ei diddordeb pennaf yw celf ac ymgysylltu cymunedol, a’i thasg hi oedd cydweithio â grwpiau lleol er mwyn llywio datblygiad y lle chwarae. Dechreuodd Imogen ei gweithdai drwy edrych ar batrymau yn y casgliadau ac ar y safle – cwiltiau clytwaith, teils canoloesol a’r patrwm teilio yn yr ardd Eidalaidd – yn ogystal ag ymchwilio i lefydd chwarae a chwarae creadigol yng Nghaerdydd. Bu dau grŵp lleol yn cydweithio gyda hi yn ystod y project – myfyrwyr Ysgol Uwchradd Woodlands a phlant a rhieni Ysgol Gynradd Hywel Dda. Gellir gweld mwy o'r gwaith hwnnw ar flog prosiect Imogen Gweithdy - Imogen Higgins Fern Thomas “Fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy ngwaith wedi bod yn arbrofi â naratif, dogfennau ac archifau hanesyddol. Rwy’n cael fy nenu gan wrthrychau cudd a straeon neu wybodaeth ddirgel, gan ddychmygu’r haenau o hanes i’w dadorchuddio mewn lle. Roedd potensial y cyfnod preswyl hwn, a’r cyfle i bori drwy archifau Sain Ffagan, felly yn fy nghyffroi yn fawr.” Artist yn gweithio yn Abertawe yw Fern Thomas sydd ag ymchwil yn greiddiol i’w gwaith. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn llên a dewiniaeth werin. Ymchwilio i’r lle chwarae oedd ei rôl hi yn y project, ac ar ei gwefan mae ganddi erthygl yn trafod yr hyn ddaeth i’r fei (http://www.thesefuturefields.eu/researching-the-archives-play-hauntings-and-women-of-the-land/) yn ogystal a gwybodaeth am brojectau, ymchwil a gwaith arall. “Mae’r cyfnod preswyl wedi bod yn allweddol wrth i mi ychwanegu gogwydd newydd i’m gwaith, gan fy helpu i fireinio fy niddordeb mewn archifau a hanes Cymru, fydd yn llywio fy ngwaith a’m ymchwil i’r dyfodol.” Fern Thomas Melissa Appleton "Fy mwriad i oedd cael blas o’r safle a chreu detholiad o dameidiau – gofod gwrthdrawiadau rhwng y domestig a’r ysbrydol, y cyffredin a’r arallfydol. Wedi casglu strwythurau, planhigion, ffenestri, patrymau, gwrthrychau, cerrig, offer a drysau, y bwriad oedd eu haildrefnu yn dirlun anghyfarwydd, cyfarwydd. Creu drych o Sain Ffagan oedd y bwriad yn y bôn, gydag un droed yn y byd hwn a’r llall mewn rhith fyd.” (cyfieithiad o gyfweliad gyda chylchgrawn CCQ, 2015) Y tu allan i waliau arddangosfa y caiff gwaith Melissa Appleton ei lwyfannu fel arfer. Mae’n cyfuno amgylchfyd artiffisial, digwyddiadau byw, sain a deunyddiau eraill mewn math o gerflunio estynedig. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn 2015 ymdriniodd Melissa â’r safle o bell ac agos, gan gydweithio â Mighty Sky (Abertawe) i ffilmio’r Amgueddfa gyda drôn, a gyda Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i fapio rhannau o’r safle gyda sganiwr 3D. Drwy gyfuno’r rhain â chyfweliadau ag aelodau staff, casglodd Melissa ddetholiad o elfennau oedd yn cynnwys: dyn ar draeth yn hudo mecryll â chân, trisgell gyda thri sgwarnog a’u clustiau ymhleth, telyn deires, fframiau ffenestri wedi’u hailgylchu o awyrennau, ffigwr marwolaeth wedi’i naddu i bren gwely, a cwrwglwr noeth yn padlo’n wyllt ar draws afon. Lluniodd Melissa uwchgynllun amgen ar gyfer yr Amgueddfa, wedi’i lywio gan esblygiad Sain Ffagan dan law dyheadau a breuddwydion cenedlaethau o guraduron a staff yr hanner canrif diwethaf. Wrth i’r cyfnod preswyl fynd rhagddo, cafodd Melissa ei hudo gan y ‘stiwdio a labordy gwrando’ (y stiwdio recordio a’r archif sgrin a sain). Yn ei lleoliad ar gyrion y gwaith ailddatblygu (ar y pryd) ond prin wedi newid ers y 1960au ei hun, ymddangosai fel stiwdio wedi’i dal rhwng y dyfodol arfaethedig a’r presennol. Mae Melissa bellach yn gweithio gyda Bedwyr Williams (oedd hefyd yn artist preswyl yn 2015) ar broject posibl i fynd â’r archif sgrin a sain ar daith drwy Gymru, mewn cerbyd sy’n adlais o garafán y curadur gwreiddiol. Melissa Appleton James Parkinson “Penderfynais fynd ati i ymchwilio i hanes pensaernïol yr Amgueddfa a’r broses o gofnodi, symud ac ailadeiladu. Roeddwn i am astudio mannau ar draws yr Amgueddfa lle cafodd elfennau gwreiddiol a replica eu hasio i greu cyfanwaith credadwy. Y peth diddorol i mi oedd bod hyn yn greiddiol i greu’r Amgueddfa a’i datblygiad parhaus, ond eto’n herio’r syniad bod henebion yn ddisyfl a disymud.” Artist yn gweithio ym Mryste yw James Parkinson sy’n defnyddio’r broses o drosi deunyddiau i ailddiffinio’r cysyniad o ofod, gwrthrych a chorff. Yn ystod ei gyfnod preswyl treuliodd James fwyafrif ei amser gyda chadwraethwyr a staff yr Uned Adeiladau Hanesyddol, ac ers hynny, mae wedi parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y syniadau a lywiwyd gan ei amser yn Sain Ffagan. “Yn ystod y cyfnod preswyl llwyddais i ddatblygu cyfres o ysgrifau drwy drawsgrifio cyfweliadau â chadwraethwyr yn disgrifio’r technegau a ddefnyddiwyd i ddadorchuddio cyfres o furluniau. Fy niddordeb i yw dadorchuddio o’r newydd gyflwr arteffactau a henebion yng nghasgliad yr Amgueddfa trwy gyfrwng ysgrifau, a dilyn effaith y broses drosi hon. Mae agor y drws i’r lleisiau yma yn foment fawr yn fy ngwaith, ac rwy’n cyffroi wrth feddwl am y posibiliadau o gyfosod yr ysgrifau hyn ag agweddau eraill o’m gwaith yn y dyfodol.” Mwy am waith yr artist: Gwefan James Parkinson 'Around Anything', 2015, James Parkinson 'That's the Original' - James Parkinson Claire Prosser Mae gwaith Claire Prosser yn cwmpasu celf weledol, ysgrifennu a pherfformio. Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Sain Ffagan bu’n gweithio gyda gofalwyr yr Amgueddfa, crefftwyr, garddwyr a glanhawyr i gofnodi’r symudiadau bach, ailadroddus y bydd pobl yn eu hailadrodd yn ddifeddwl yn eu gwaith bob dydd – sut y defnyddia’r gofalwyr eu dwylo i droi’r allweddi yng nghloeon yr adeiladau hanesyddol a symudiad y crydd clocsiau wrth wnïo neu dorri lledr. Ar ddiwedd y cyfnod preswyl cyfansoddodd Claire berfformiad o’r enw ‘Petai Symudiad yn Wrthrych’ a lwyfannwyd i’r cyhoedd gan yr artist a chwmni dawns Expressions. “Pan oeddwn i’n treulio amser gyda’r staff, sylweddolais taw nid symudiadau technegol y gwaith oedd yn tanio fy nychymyg, ond yn hytrach symudiadau hanfodol, anymwybodol, mympwyol pob unigolyn. […] Symudiadau sy’n ddynol, angenrheidiol a naturiol. Symudiadau a dyf o dreulio amser mewn lle wrth i berson, dros amser, ddod yn gyfarwydd a’r lle. Symudiadau sy’n perthyn i’r person hwnnw, sydd yn y lle hwnnw, ar yr amser hwnnw, bob dydd. Daw’r bobl yn rhan o’r lle fel ag y daw’r lle yn rhan ohonynt hwythau. Beth sy’n digwydd wrth osod y symudiadau yn rhywle arall? Ydyn nhw’n ffitio? Fel gwrthrych sy’n ffitio mewn lle penodol, all symudiad gael ei symud a’i ail-ffitio?” Claire Prosser Claire Prosser Bedwyr Williams Bedwyr Williams oedd cynrychiolydd Cymru yn Biennale Fenis 2015 ac roedd ar restr fer Artes Mundi 2016. Yn ystod ei gyfnod preswyl yn Sain Ffagan treuliodd Bedwyr ran helaeth o’i amser yn yr archifau sain ac yn crwydro’r Amgueddfa yn ffilmio a thynnu ffotograffau. Mae wrthi o hyd yn ystyried ffyrdd o gynnwys yr ymchwil yn ei waith, ond fe gynhyrchodd ffilm fer yn ystod ei amser yn Sain Ffagan sydd wedi’i harddangos yn ei arddangosfa yn Oriel Whitworth, Manceinion. Ers cyflwyno ei waith yn Artes Mundi 2016, enillodd Bedwyr Wobr Ymddiriedolaeth Derek Williams, a thrwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth, mae ei waith, 'Tyrrau Mawrion' 'nawr yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Darllen mwy am brosiect ail-ddatblygu Sain Ffagan neu archwilio casgliad celf Amgueddfa Cymru.
A Mobile Laboratory visits the Museum Christian Baars, 20 Gorffennaf 2017 There are times in life when a problem and its solution come together seamlessly.The problem – one which every museum faces: cryptic causes of deterioration of stored objects.The solution: investigation using the latest chemical analyses.One step better: to combine this analysis with the mission of museums – inspiring people – and undertake the investigative work with full public engagement.Like most museums, National Museum Cardiff has the task of slowing down corrosion to preserve collections. Think of your family silver tarnishing and you know what I am talking about. Multiply this by hundreds of thousands of metal objects in our collection and you understand the herculean task we face when we come to work every day.Like most museums, we do not have much equipment to undertake complex chemical analyses. So when we want to investigate the magnitude of potential sources of corrosive airborne substances in our collection stores, we often work in partnership with academic institutions.SEAHA is an initiative between three universities with industry and heritage partners to improve our understanding of heritage science. Heritage science is multi disciplinary and includes experts with chemistry, imaging, IT, engineering, architecture and other backgrounds. One of SEAHA’s amazing facilities is a fully equipped mobile laboratory. We submitted an application last year for the mobile lab to come to Cardiff which, amazingly (there is much demand for this vehicle), was approved. Last week, staff and postgraduate students from University College London, one of SEAHA’s academic partners, visited National Museum Cardiff.The Mobile Heritage Lab was at the museum for two days. During this time, we assessed environments and pollutants in collection stores and in public galleries. We undertook this work with full involvement of our museum visitors. The mobile lab was parked next to the museum entrance where we encouraged our visitors to explore the on-board analytical equipment. UCL staff and students were at hand to explain how science helps us preserve heritage collections, for example how UV fluorescence is used to explore paintings.We received a visit by A-level students from Fitzalan High School in Cardiff in the morning. The students were especially interested in chemistry. After a quick introduction, we gave the students an ultra-fine particle counter to produce a pollutant map of the public galleries at the museum. The students used this equipment to measure ultra-fine dust inside and outside the museum. We are still analysing these data, but the early results indicate that the museum’s air filtration system is doing a good job at keeping dust out of the building. This is important because the gases associated with ultra-fine particles (for example, SO2) can damage paper and other organic materials.We also measured concentrations of volatile organic compounds (VOC) in collection stores and found that levels were higher inside drawers in the Entomology collection than in the store itself; this is important in the context of entomological pin corrosion. We managed to confirm that work we undertook recently to reduce the levels of VOC in the museum’s Mineralogy store had been effective and successful. In addition, we used a thermal imaging camera to check whether relatively high temperatures in a display case are caused by heating pipes in the wall behind the case, or by in-case lighting.The Mobile Heritage Lab’s visit provided us with an opportunity to answer some important questions about the way we care for the museum’s collections. At the same time, we managed to teach students the practical applications of investigative science and analytical chemistry. Lastly, we spoke to many museum visitors about the role played by science in the preservation of heritage collections. We are extremely grateful for the fruitful partnership with SEAHA and hope to collaborate on additional projects in the near future. For example, there are some interesting questions surrounding the deposition of different types of dust which we discussed over a beer on Thursday evening. Watch this space as multi-disciplinary heritage science is becoming ever more important for answering questions of collection care and preservation. Museums are best placed to working in partnerships on important scientific questions while achieving public impact by explaining to a wider audience how science works.Find out more about Care of Collections at Amgueddfa Cymru - National Museum Wales here and follow us on Twitter.
Ysgol Tonyrefail yn archwilio natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Penny Dacey, 19 Gorffennaf 2017 Bob blwyddyn mae ysgolion sy’n gwneud cyfraniad mawr yn cael eu dewis fel enillwyr Project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – un o bob gwlad sy’n cymryd rhan. Ymddiriedolaeth Edina sy’n trefnu gwobrau yr Alban a Lloegr (a Gogledd Iwerddon o’r flwyddyn nesaf ymlaen), gydag Amgueddfa Cymru’n trefnu gwobrau’r ysgol fuddugol yng Nghymru.Yr enillwyr eleni oedd Ysgol Gynradd Tonyrefail, a’u gwobr oedd trip i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda bws a gweithdai addysgiadol am ddim. Roedd yn bleser cyfarfod â’r grŵp ac fe gawson ni amser wrth ein bodd yn astudio natur yn Sain Ffagan.Dyma fi’n croesawu’r grŵp oddi ar y bws ac yn eu harwain drwy’r Amgueddfa i Sgubor Hendre Wen. Anaml mae’r sgubor ar agor i’r cyhoedd, a dim ond yn ddiweddar mae wedi dechrau cael ei defnyddio fel gofod addysgiadol i ysgolion. Dyma oedd ein pencadlys ni am y diwrnod, ac roedd y plant yn edrych ymlaen i glywed am yr ystlumod a’r adar sydd wedi ymgartrefu yn y sgubor!Dechreuais drwy ddiolch i’r grŵp am eu gwaith caled ar y project, a gofyn sut oedden nhw’n cadw trefn ar y gwaith yn y dosbarth? Wedyn, dyma fi’n rhoi cyflwyniad byr o ganlyniadau’r project i ddangos sut mae eu gwaith wedi cyfrannu at astudiaeth hirdymor o effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Un adborth diddorol oedd syniad clyfar y dosbarth i ddefnyddio rotor i ddangos tro pwy oedd hi i gasglu data bob wythnos, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.Dyma ni wedyn yn rhannu’n ddau grŵp. Aeth Grŵp A gyda Hywel i’r Tanerdy i astudio’r bywyd gwyllt sy’n byw yn y pyllau – roedd y pyllau’n arfer cael eu defnyddio i drin lledr, ond bellach mae nhw wedi llenwi â dŵr. Wrth chwilio dyma nhw’n canfod amryw greaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn y pyllau, a thrafod eu cylch bywyd a’u cynefin. Cafodd y grŵp hefyd gyfle i ddal Madfall Ddŵr Balfog, oedd yn brofiad newydd sbon i’r mwyafrif!Dilynodd Grŵp B fi i’r guddfan adar, lle buon ni’n braslunio’r coed ac yn defnyddio binocwlars a thaflenni adnabod adar i adnabod trigolion y goedwig. Roedden ni’n lwcus iawn i gael gweld amrywiaeth o adar, gan gynnwys cnocell fraith fwyaf! Daeth wiwerod a llygod coed i ddweud helo hefyd, oedd bron mor gyffrous â gweld yr adar. Dyma ni’n trafod y rhywogaethau adar gwahanol, eu lliwiau, eu cylch bywyd a’u cynefin. Dyma ni hefyd yn trafod sut mae bywyd gwyllt yn elwa o’r lle bwydo a beth allwn ni ei wneud yn ein gerddi neu ar dir yr ysgol i helpu bywyd gwyllt.Ar ôl i’r grwpiau gyfnewid, fel bod pawb yn cael cyfle i archwilio’r goedwig a’r pyllau, dyma ni’n cael cinio yn y sgubor ac atebodd Hywel lawer o gwestiynau am yr Ystlumod Hirglust Brown, y rhywogaeth dan warchodaeth sy’n clwydo yn nhrawstiau’r sgubor.Ar ôl cinio dyma ni’n cael trafodaeth ehangach ar gynefin a meddwl am y trychfilod gwahanol sydd i’w gweld yn ein gerddi. Roedd y drafodaeth yn help mawr gyd thasg nesaf y plant – creu gwesty trychfilod i fynd adref gyda nhw. Dyma ni’n ailgylchu potiau planhigion, gwellt yfed a gwellt naturiol wrth adeiladu, a thrafod ble fyddai orau i osod y gwestai i ddenu gwahanol drychfilod. Dewisodd rhai o’r grŵp osod eu gwestai mewn llefydd heulog, uchel er mwyn denu gwenyn unigol, a dewisodd eraill lefydd cysgodol ar y llawr er mwyn denu pryfed sy’n hoff o amodau oerach.Dim ond ei gwneud hi’n ôl i’r bws mewn pryd wnaethon ni wrth i ni edrych am bryfed ar hyd y llwybrau. Fe ges i a Hywel diwrnod gwych ac o’r wên ar eu hwynebau a’r adborth ffafriol, cafodd Ysgol Tonyrefail amser wrth eu bodd hefyd. Diolch eto Gyfeillion y Gwanwyn! Adborth Ysgol Gynradd Tonyrefail:‘Dwi’n credu taw dyma un o’n hoff dripiau achos dwi heb weld y rhan fwyaf o beth welais i heddiw ac mae mor ddiddorol.’‘Fe ges i amser da a mwynhau gwylio adar a chwilio’r pwll. Roeddwn i’n hoffi gwylio adar achos ei fod yn ddiddorol ac roeddwn i’n gallu gysgu am rywogaethau do’n i ddim yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen.’‘Fe wnes i fwynhau heddiw yn bennaf achos chwilio’r pyllau a’r gwylio adar.’‘Fe ges i hwyl heddiw. Roeddwn i’n hoffi’r gwylio adar achos fe welais i rai adar am y tro cynta.’‘Nes i fwynhau dal y fadfall ddŵr achos ei fod yn teimlo fel dal putty byw, ac fe wnes i hoffi gwylio’r adar achos eu bod nhw’n edrych yn bert iawn.’‘Roeddwn i’n mwynhau achos dyma’r tro cyntaf i fi ddal madfall ddŵr. Roeddwn i’n falch bod fy ngwesty trychfilod wedi troi allan yn grêt.’‘Fe ges i hwyl yn cwrdd â pawb a roen i’n dwlu gwneud gwesty trychfilod achos ei fod yn hwyl. Roedd heddiw yn hwyl.’‘Roeddwn i’n hoffi gwneud y gwesty trychfilod achos dwi’n hoffi gwneud pethau.’
Arnie the Guide Dog’s guide to the Museum Stephanie Roberts, 18 Gorffennaf 2017 Regular visitors might recognise Arnie the guide dog. He helped us to develop National Museum Cardiff's audio description tours, visited our Quentin Blake exhibition and even blogged about his Museum adventures! Arnie has recently retired from guiding duties and has handed his harness over to Uri, an enthusiastic young pup just out of training.Ever the cultured canine, Arnie wanted to make sure Uri gets to sample the best of the National Museum but for a young pup the first visit can be scary. He has written so has written a few words to help Uri - and other guide dogs - take their first steps into the Museum.Arnie's advice"The National Museum Cardiff is a very old, impressive building that towers into the sky. It looks similar to other buildings in the area, but you'll know it because it has a big set of steps in front and a giant ball on top called the dome. The road outside is usually busy with traffic so your humans will need your help to cross. On either side of the front steps is some grass. You can 'spend' here but make sure you indicate to your humans that there's a step down to the grass. They might be safer letting you on a long lead and staying on the pavement. You may feel overwhelmed as you stand at the bottom of the steps looking up at the building. I still get queasy. The stone ceiling looks like it's being held up by stilts (Mum calls them 'Grecian columns'), but I've been assured they're safe. The steps up to the Museum are in two flights, with brass rails zig-zagging across. You will need to guide your owner to the next rail between each flight. If you're feeling adventurous you might want to use the magic glass box that lifts you into the air instead. This is to the left of the steps, through a gate. Once inside, look out for the large silver button to the left - this opens the door. Once you reach the top of the stairs you will need to guide your owner through the massive brass doorway. Then you will come to a set of glass doors that open automatically. They are much safer for us guide dogs than the old revolving type - less danger of getting squished! Be careful as you enter the Main Hall - your paws may slip on the marble-effect floor. You will hear lots of noises echoing and reverberating because the ceiling is so high. Guide your owner to the reception desk, which is straight ahead across the hall.And then the best bit. You will soon be hit by a whiff of cakes and biscuits from the coffee shop to your left. Drooling is inevitable, but stay calm. This is the first of many temptations you will encounter. The Museum is full of animals you can't chase, bones you can't eat, and rocks you can't spend a penny on. Enjoy!" We wish Arnie the very best in his retirement and look forward to welcoming Uri and other guide dogs to the Museum. Our next Audio Description tour is on the 10th August. Cultured canines and Guide Dogs in training welcome!
Taith gyfnewid i Amgueddfa Jamtli Marsli Owen, 17 Gorffennaf 2017 Yn ôl ym mis Mawrth roeddwn i a 3 o fy nghyd weithwyr yn lwcus iawn i gael mynd i dref yng nghanol Sweden o’r enw Östersund i ymweld ag amgueddfa awyr agored Jamtli fel rhan o raglen Erasmus+ o’r enw ‘Rhannu a Dysgu’. Bwriad y rhaglen yw cysgodi staff yr Amgueddfa, a rhannu gwybodaeth a sgiliau.Cyrraedd ÖstersundRoedd ymweld ag Östersund ei hun yn brofiad. Roedd blanced drwchus o eira ymhob man a’r llyn wedi rhewi yn gorn. Wni ddim beth mae’r anghenfil chwedlonol druan sy’n byw yn ynddo yn gwneud yn y gaeaf, ond yn ôl sôn mae ganddo fo dwnnel i’r Alban! Roedd pobol yn sglefrio a sgïo ar y llyn, a hyd yn oed cario eu neges adref drwy gerdded yn syth ar ei draws i'r ochor arall! Roedden yn edrych ymlaen at gael gweld yn Amgueddfa.JamtliTreuliom dri diwrnod yn yr Amgueddfa yn cysgodi eu staff. Mae’r Amgueddfa ei hun yn adeilad pren gydag arddangosfa enfawr yn y llawr isaf (gallwch ei gyrraedd gan fynd i lawr llithren wedi ei siapio fel anghenfil y llyn!) Mae arddangosfeydd parhaol yma yn cynnwys y Llychlynwyr a’r tapestri o’r cyfnod, bywyd dyddiol drwy’r oesau a’r Sami, sef poblogaeth frodorol gogledd Sgandinafia.Y tu allan mae aceri o adeiladau hanesyddol o sawl cyfnod gwahanol. Mae sgwar pentref yno, yn cynnwys siop a banc. Roedd y siop yn eithaf gwahanol i siop Gwalia, er efallai y buasai'r daliwr rholiau papur brown gyda dim llai na 3 rholyn yn rhywbeth i gynorthwy-ydd siop fod yn genfigenus ohono! Roedd y siop yn gwerthu pethau go iawn. Mae’r Amgueddfa yn ceisio dod a’r adeiladau yn fyw gan eu gwneud yn ddefnyddiadwy ble sy’n bosib.Roeddwn i yn cysgodi gwahanol staff o’r adran Addysg ac yn cymryd rhan mewn ambell weithgaredd fel tywys ceirw fel y gwna’r Sami a defnyddio lasŵ! Roedd Mark Smith a David Davies gyda Mats Maloff yn gwneud gwaith cynnal a chadw a gwaith pren – ac wedi dod yn ffrindiau reit dda dros yr wythnos! Roedd Rhian Morris yn cysgodi'r tîm blaen tŷ yn cael cyfle i gyfarfod yr ymwlewyr fel y ferch fach wedi cyffroi am ael ymarfer ei Saesneg!Fel Joe, ein hoff adeilad oedd yr adeilad o’r 70au ble cawsom hyd yn oed gêm o dennis bwrdd! Roedd yr adeilad fferm o 1942 yn drawiadol gyda’i leoliad yn ei wneud i deimlo fel ei fod yn wirioneddol bell o bob man yn y goedwig, a phob manylyn yn ei le. Roedd nifer o’r adeiladau yn bren ac wedi eu paentio, gyda sawl tŷ o 1895 hefyd. Blwyddyn bwysig i Östersund gan mai dyma pryd gyrhaeddodd y rheilffordd.Daethom i gyd yn ôl wedi cael profiad anhygoel. Roedd yn wych cael y cyfle i gyfarfod a threulio amser gyda staff, a chael gweld tu ôl i’r llenni a theimlo fel rhan o’r tîm. Buasai’n dda dod yn ôl yn yr haf pan mae’r adeiladau ar agor, Historieland yn mynd ymlaen a chael cyfle i weld y set rhaglen deledu sydd yn cynnal sioeau i blant! Roedd yn ymweliad yn ysbrydoliaeth i ni gyd, ac rydym wedi mynd yn ôl yn llawn straeon a syniadau.