Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Golwg fanylach ar ein Casgliadau Cenedlaethol

Am ymweliad ychydig yn wahanol, mae ein Canolfan Gasgliadau yn Nantgarw yn cynnwys miloedd o eitemau amgueddfa diddorol nad ydynt yn cael eu harddangos.

Rydyn ni'n cynnig mynediad cyfyngedig i grwpiau er nad yw'r ganolfan yn agored i'r cyhoedd gyffredinol.

Dewiswch o amrywiaeth o deithiau am ddim

Cadwraeth

Mae ein tîm bychan o gadwraethwyr a pheiriannwyr yn cynnal ac yn adfer casgliadau diwydiant Amgueddfa Cymru, o hen ffotograffau brau i beiriannau 22 tunnell. Cewch ddysgu mwy am y gwaith yn ystod sgwrs ag arbenigwr.

Storio a Rheoli Casgliadau

Sgwrs yn y storfa gwrthrychau diwydiannol mawr yn esbonio sut y byddwn ni'n storio, cofnodi a chadw golwg ar y casgliadau diwydiant, all gynnwys unrhyw beth o faint fricsen i injan.

Casgliadau Trafnidiaeth

Cyfle i weld ein casgliad o feiciau, beiciau modur, ceir a bysiau a hyd yn oed hofrennydd achub môr yn ystod sgwrs gan aelod o'r staff rheoli casgliadau.

Injanau Nwy ac Injanau Sefydlog Mawr

Sgwrs am yr injanau mwy a gedwir yn y ganolfan yn codi'r llen ar y sialens gadwraeth o lanhau ac ailadeiladu'r darnau yn injan gyflawn.

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Am ragor o wybodaeth ac i archebu ymlaen llaw ffoniwch (029) 2057 3560 neu ebostiwch ni.

Gellir archebu teithiau ar gyfer hyd at ugain person rhwng:

11am-12.30pm a 2-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ag eithrio gwyliau'r banc).

Cyfleusterau

  • Toiled anabl
  • Mynediad gwastad
  • Parcio am ddim

Ble ydyn ni?

Rydyn ni yn Nantgarw, CF15 7QT. Ewch tua’r gogledd ar yr A470 gan adael y ffordd ar gyffordd A468 Caerffili/A4054 Ystâd Ddiwydiannol Trefforest. Ar y gylchfan, ewch i’r chwith. Ar y gylchfan nesaf, defnyddiwch y trydydd troad i Heol Crochendy, Parc Nantgarw. Ewch yn syth ar draws y gylchfan nesaf. Mynediad y Ganolfan yw’r ail droad ar y chwith.

Canolfan Gasgliadau Genedlaethol, Nantgarw