Sut i gael cymorth gan wyddonwyr Amgueddfa
Sut ydw i’n cysylltu â chi?
E-bostiwch ni drwy wefan yr Amgueddfa neu drwy Twitter @CardiffCurator ar gyfer y gwyddorau naturiol a @SF_Archaeology ar gyfer archaeoleg a darnau arian.
Byddwn yn cyfeirio eich ymholiad at y person cywir. Os nad oes modd i ni adnabod eich darganfyddiad o'ch disgrifiad a'ch ffotograffau, efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu ymweliad â'r amgueddfa er mwyn i ni allu edrych yn fanylach.
Alla i anfon ffotograff o rywbeth yr hoffwn i chi ei adnabod?
Wrth gwrs! Yn aml gallwn adnabod gwrthrychau o ffotograffau. Os ydych chi wedi canfod eitem hanes natur neu ddaearegol, dylech ei gadael yn y fan a’r lle er mwyn i eraill allu ei mwynhau.
Sut ydw i’n anfon ffotograff?
Cysylltwch â ni yn gyntaf, er mwyn i ni eich cyfeirio at y curadur perthnasol cyn i chi anfon eich ffotograffau.
Gwnewch yn siŵr bod eich lluniau’n llai na 10MB sef y maint mwyaf posib ar gyfer atodiad, neu fyddwn ni ddim yn eu derbyn! Gallwch anfon mwy nag un e-bost gydag atodiadau os oes angen.
Fel arall, anfonwch luniau atom ar Twitter drwy @CardiffCurator ar gyfer y gwyddorau naturiol a @SF_Archaeology ar gyfer archaeoleg neu ddarnau arian.
Beth yw'r ffotograff gorau i’w anfon?
Cymerwch lun o bob ochr i'r eitem, gan gynnwys rhywbeth arall yn y llun er mwyn i ni weld pa mor fawr yw'r eitem – beiro, darn arian, pren mesur, bys bawd hyd yn oed!
Gwnewch yn siŵr eich bod mor agos at yr eitem â phosib, a bod popeth mewn ffocws er mwyn i ni allu gweld y manylion i gyd.
Beth os ydw i'n credu fy mod i wedi canfod Trysor?
Mae canfyddiadau sy’n 'Drysor' wedi eu diogelu gan y gyfraith a dylech ddweud wrth yr Amgueddfa amdanynt. Gall trysor fod yn eitemau aur neu arian sy'n fwy na 300 mlwydd oed neu gasgliad o ddarnau arian a ganfuwyd gyda'i gilydd. Gall gwrthrychau metel cynhanesyddol gaiff eu canfod gyda'i gilydd hefyd fod yn 'Drysor'.
Os yw'n ddiogel, gadewch y gwrthrychau yn y ddaear a chysylltu ag archaeolegwyr y Cynllun Creiriau Cludadwy (029 20 573226), fydd yn datgloddio'r gwrthrychau yn ofalus gyda chi.
Pa wybodaeth arall sydd ei hangen arnoch?
Cofiwch ddweud ble y cafodd y sbesimen neu’r gwrthrych ei ganfod. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib, gan gynnwys cyfeirnod grid cenedlaethol neu what3words os oes modd.