Adnoddau i'ch helpu i adnabod planhigion, anifeiliaid, cerrig a ffosilau yng Nghymru

Eisiau adnabod rhagor o fyd natur ar stepen eich drws?

Gall ein taflenni sylwi ̶ y gallwch chi eu lawrlwytho ̶ eich helpu i ddod o hyd i, ac adnabod, bywyd gwyllt, cerrig, mwynau, a ffosilau yng Nghymru, ac yn bellach i ffwrdd.

Angen gwybod mwy? Cysylltwch â gwyddonwyr ein hamgueddfa i gael cymorth ychwanegol gydag adnabod rhywogaethau, neu i gael rhagor o wybodaeth.

Dysgwch am grwpiau penodol drwy ddefnyddio ein llyfrau hanes natur a’n gwefan. Gall y rhain eich helpu gydag adnabod rhywogaethau ac maen nhw’n cynnwys rhai o’r 3.5 miliwn o sbesimenau sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa.