Natur Astrus
Our scientists have gotten their work in a muddle. Can you work out what plants, animals, fossils or minerals our scientists have been studying by clicking on the following clues? Can you work it out before they do!
Jig-sô
Mae ein gwyddonwyr angen eich cymorth! Mae angen iddyn nhw ganfod beth sydd wedi bod yn ymweld â bwydwyr adar Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ond mae’r llun wedi cymysgu. Allwch chi ddatrys y pos cyn y gwyddonwyr?
Mae angen eich help chi ar ein gwyddonwyr o hyd i adnabod yr anifail yn y pos. Cliw: Mae’n dwli ar drychfilod a lindysiaid, a cnau o fwydwyr adar. Roedd yn arfer cael ei weld yn pigo ar gaeadau poteli llaeth ar riniog y drws i gael gafael ar yr hufen!
Mae rhai o’n gwyddonwyr yn parhau i grafu eu pennau. Ambell ddarn arall o’r jig-sô ynghyd â chliw: Mae’r aderyn bach yma’n nythu mewn ceubrennau coed gan ddefnyddio mwsogl, dail marw, gwlân a phlu. Bydd hefyd yn defnyddio bocsys nythu gardd.
Beth yw e? Ambell ddarn arall o’r jig-sô Natur Ar Eich Stepen Drws. Cliw: Mae 3 miliwn o barau bridio yn y DU a gallwch eu gweld drwy’r flwyddyn. Mae’r aderyn bychan yn pwyso tua 11g.
Y Titw Tomos Las lliwgar, dyma sbesimen tacsidermi o gasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.