Natur Astrus
Our scientists have gotten their work in a muddle. Can you work out what plants, animals, fossils or minerals our scientists have been studying by clicking on the following clues? Can you work it out before they do!
Jig-sô
Mae angen eich cymorth ar ein gwyddonwyr. Maen nhw wedi sylwi ar rywbeth lawr ar bwys yr afon ond mae’r llun yn aneglur. Allwch chi ddyfalu beth sydd yn y llun cyn y gwyddonwyr?
Mae angen eich help chi ar ein gwyddonwyr o hyd i adnabod y creadur dirgel yn y pos Natur Ar Eich Stepen Drws hwn. Mae un ohonynt yn dweud eu bod wedi gweld fflach o liw wrth iddo hedfan o dan bont.
Mae ambell un o’n gwyddonwyr yn parhau i bendroni dros y pos Natur Ar Eich Stepen Drws. Rydym wedi ychwanegu ambell ddarn arall ac mae gennym gliw ychwanegol: cafodd ei weld yn plymio i’r dŵr.
Os nad ydych chi wedi datrys ein jig-sô Natur Ar Eich Stepen Drws eto, dyma ambell bos ychwanegol a chliw terfynol. Daeth allan o’r dŵr yn dal pysgodyn bychan yn ei big hir.
Amser i ddatgelu’r darlun llawn yn ein jig-sô Natur Ar Eich Stepen Drws. Glas y Dorlan yw’r aderyn hardd hwn, ac mae weithiau’n cael ei weld yn clwydo ar frigau camlas neu lannau afon, yn amlach na pheidio yn hedfan yn gyflym dros wyneb y dŵr. Dyma un o gasgliad tacsidermi Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.