Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Holiadur | questionnaire
Nodiadau yn y Saesneg, 1938, gan G. E. Blundell ar bwnc 'The Neighbourhood of Llanvihangel Crucorney, 1870-1880' (Mynwy), yn ateb i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1937, ar bwnc diwylliant gwerin Cymru.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.