Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bowl
"Walter Keeler yw un o grochenyddion stiwdio mwyaf blaenllaw Prydain. Er bod ei waith yn unigryw ac yn llawn egni, mae’n dal yn ymarferol. Yn nyddiau cynnar ei yrfa roedd yn nodedig am ei ddefnydd radical o grochenwaith caled gwydriad halen traddodiadol. Esiampl a welir yn y ddysgl weini hon o arbrofi presennol Keeler yn cyfuno llestri yn arddull hufenwaith y ddeunawfed ganrif a gwydriadau gwahanol. Mae cynildeb y gwydriad 'golchiad inc' llwyd yn ategu olion y broses greu, fel rhigolau’r dechneg taflu ar olwyn. "