Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letters
Llythyrau oddi wrth R. Evans ('Cybi'; Chwilog) at y Dr Iorwerth C. Peate (A.G.C.) yn trafod rhai creiriau yn ei feddiant megis gwasg rwymo llyfrau a 'rule' a berthynai i Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'; 1802-1863), ag ystyllen aradr etc.
*Ceir cyfeiriadau diddorol hefyd at waith John Jones ('Myrddin Fardd'; 1836-1921) ac o'i fwriad i gyhoeddi cofiant iddo a hefyd gyfrolau ar 'Hanes Plwy Llangybi' a 'Hen Ddiwydianau Gwlad' (ei draethawd arobryn yn Eisteddfod Chwilog). Mae un o'r llythyrau uchod yn cynnwys manylion diddorol iawn am grefftwyr lleol, megis ei hen ewythr, 'Ioan Madog', a'i hen daid Owen Wiliams, gofaint. Mewn llythyr arall mae'n sôn am ei brofiad o fwyta 'browes o noe (bren) ... Mewn fferm go fawr ar fore Sul, gynt, arferid gwneud browes mewn noe (ymenyn), a'r gweision yn cydfwyta ohoni ...')
Gw. llsgrau AWC MS 67; MS 2278/1-3