Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Girl with a Siamese Cat
Ganwyd Brenda Chamberlain ym Mangor, ac ym 1947 aeth i fyw ar Ynys Enlli oddi ar arfordir Llŷn. Yn yr olygfa gartrefol hon, mae un o’i chymdogion ar yr ynys yn gafael yn anifail anwes yr artist. Mae’r ddau yn edrych ar rywbeth y tu hwnt i’r ffrâm. Tybed beth sydd wedi mynd â’u sylw? Y tu ôl iddynt, mae’r ffenest agored yn tynnu ein llygaid at y bryniau a’r awyr glir.
Enillodd Brenda Chamberlain y Fedal Aur gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1951 am y paentiad hwn.