Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hooked knife
Cyllell grom y turniwr James Davies, Aber-cuch, Castell-newydd Emlyn, 1800au.
Ar un adeg, roedd pentref Aber-cuch yn y Gorllewin yn ganolfan turnio pren bwysig. Un o’r teuluoedd o durnwyr oedd y teulu Davies. Yn y blynyddoedd cynnar, offer ar gyfer y llaethdy a phowlenni bob dydd oedd prif gynnyrch y brodyr, John a James. Wrth i’r galw edwino, sefydlodd y brodyr ffatri fach yn gweithio handlenni ar gyfer offer a theclynnau, yn enwedig ar gyfer y diwydiant cloddio.