Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Glowyr yn canu
Dianc o Wlad Pwyl wnaeth Josef Herman a threuliodd ddeng mlynedd o 1944 i 1954 yn Ystradgynlais, lle peintiodd ei themáu mwyaf adnabyddus, sef gweithfeydd glo a bywyd y glowyr. Astudiaeth yw hon ar gyfer ei waith mwyaf, y llun anferth Glowyr a wnaed ar gyfer Pafiliwn Mwynau'r Ynys yng Ngŵyl Prydain ym 1951. Dechreuodd yr arlunydd gyda'r ffigwr sydd â'i fraich i fyny ar y chwith, ac wedyn rhoes ystyr storïol i'w osgo drwy ei ymgorffori gyda grŵp o gantorion.