Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Alphonse Legros
Bwriad gwreiddiol Dalou oedd creu cerflun hanner ucha'r corff o'r artist Alphonse Legros yn gafael mewn palet a brws. Ond gan nad oedd yn hapus gyda'r gwaith fe dorrodd y model plastr gwreiddiol. Er hynny, achubwyd y pen a chrëwyd sawl cast efydd ohono. Roedd Legros yn Realydd Ffrengig o bwys a symudodd i Lundain i fyw. Bu'n gefn i Dalou a'i deulu pan gawsant eu halltudio o Ffrainc ym 1871.
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.