Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Penelope
Ganed Bourdelle ym Montauban a bu'n astudio yn Toulouse a Pharis, lle daeth yn gynorthwywr i Rodin. Ar ôl ei sioe un-dyn ym 1905, daeth yn enw cyfarwydd iawn. Mae hwn yn un o gyfres o 9 gwaith efydd o faint canolig ar y pwnc hwn. Mae'n darlunio Penelope, gwraig Odysseus, yn disgwyl i'r arwr ddychwelyd o Gaerdroea. Daw'r corff o astudiaeth o Cleopatre Sevastos, cerflunwraig Roegaidd, yn edrych ar gerflun Hindŵaidd yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Y pen yw pen gwraig yr arlunydd, Stephanie.