Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Thetekoula Dargaki. Ynys Karpathos, pentref Olymbos
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn i'n mynd ar drywydd storïwyr hŷn yn ynysoedd yr Aegean. Deuthum ar draws y fenyw 90 oed hon yn Karpathos, un o'r lleoedd mwyaf anghysbell a phur yn y wlad. Fe wnaeth hi fy nghroesawu i mewn i'w cartref bach gyda haelioni ac ymddiriedaeth aruthrol. Ymhlith ei hychydig eiddo, roedd yr aderyn hwn; tegan roedd rhywun wedi’i adael yno. Roedd e’n beth trawiadol, gan mai dyma'r unig beth efallai nad oedd ganddo ryw ddefnydd penodol iawn, felly gofynnais iddi. Goleuodd ei llygaid â llawenydd. Gofynnodd i mi ei dilyn y tu allan, i ddangos i mi yr holl bethau y gallai ei haderyn ei wneud yng ngolau dydd. Ac yno safodd hi, ar y teras bach yn edrych dros y môr mawr, yn chwarae gyda'i haderyn mor ddiniwed a hapus â phlentyn bach." — Nikos Economopoulos