Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Belliss and Morcom engine, John Bland's timberyard
Adeiladwyd yr injan yn 1910 ar gyfer Gwaith Glo’r Grange yn Swydd Strafford, gan Belliss a Morcom o Birminghamac fe’i cysylltid at ddynamo i gynhyrchu trydan. Yn ddiweddarach fe’i symudwyd i Iard Goed John Bland yng Nghaerdydd i ddarparu trydan ar gyfer llifiau, peiriannau gweithio coed, a goleuo hyd 1967. Gan ei bod mewn iard goed gallai’r pair oedd yn cynhyrchu ager ar gyfer yn injan gael ei redeg yn gynnil, nid yn unig ar lo, ond hefyd ar flawd llif a darnau ofer o goed.
Hyd tua 1890 doedd yna ond ambell injan stêm yn rhedeg ar fwy na thua 120 o gylchdroadau’r funud oherwydd problemau dirgryniad a diffyg iro. Yn 1892 cynhyrchodd Belliss a Morcom injan gyflym oedd ymhlith y cyntaf i fod yn fasnachol lwyddiannus.
Gwaith peirianyddol ac adeiladu cywir ac irydd mecanyddol oedd yn gyd-gyfrifol am ei llwyddiant. Roedd yr irydd yn pwmpio olew o dan wasgedd i bob beryn unigol ar yr injan ac yn cantiatáu iddi redeg ar gyflymder o 600 o gylchdroadau’r funud – cynnydd technolegol anferth. Nawr fe ellid cysylltu injan gyflym yn uniongyrchol â generadur trydanol heb ddefnyddio geryn, na phwlïau, na beltiau trafferthus.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984