Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Horizontal single cylinder steam engine
Tua diwedd y 19eg ganrif ddiwethaf daeth yn amlwg bod yr arfer o adael i sbwriel o’r tai bydru’n naturiol mewn tomenni ar gyrion trefi yn creu peryglon difrifol i iechyd. Erbyn troad y ganrif roedd tua thrigain o drefi wedi sefydlu unedau i ddifetha sbwriel. Aed â’r sbwriel a’i losgi mewn peiriau mawr.
Roedd peth o’r stêm o’r pair yn gyrru injan ac, fel yn achos Y Barri, roedd yn cynhyrchu trydan i oleuo’r gwaith ei hunan ac ysgol gyfagos. Roedd gweddill y stêm yn gyrru melin fortar. Câi’r lludw o’r sbwriel ei falu gyda chalch a dŵr i wneud mortar ar gyfer gosod cerrig cwrbyn a phalmentydd ar hyd strydoedd Y Barri.
Mae’r injan hon, yn gyrru dynamo sydd, yn ei dro, yn cynhyrchu trydan at ddibenion goleuo. Lampiau bwa oedd y dull cyntaf o oleuo, ond pan oedd y dynamo yn cylchdroi’n rhy araf byddai’r golau’n gwanhau yn sydyn. Felly, defnyddid beltiau a phwlïau i droi’r dynamo’n llawer cyflymach na’r injan a thrwy hynny llwyddid i osgoi’r broblem.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984