Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gydag Arfau: gwaith peryglus (pacio T.N.T)
Yn ei hunangofiant, dywed Hartrick na chafodd fynd yn agos at y cwt arfau, "in case a nail in my boots or anything like that might cause a spark". Ysgrifennodd am ferch bert iawn oedd yn gweithio yno, â'i gwallt a'i hwyneb wedi'u staenio'n felyn gan y cemegau. Roedd llawer o'r 'munitionettes" 'fel y gelwid nhw ar lafar gwlad, yn agored i effeithiau asid sylffwrig, ac yn cael eu galw'n "ferched caneri" o'r herwydd.
Mae'r printiau hyn yn cofnodi cyfraniad allweddol menywod i'r ymdrech ryfel. Pan alwyd ar ragor o ddynion i ymuno â'r brwydro ym 1915, roedd gofyn i fenywod ysgwyddo'r baich. Cododd lefelau cynhyrchu yn y ffatrïoedd a'r ffermydd wrth i fenywod wneud gwaith fyddai'n draddodiadol yn waith y dyn. Er bod cryn dipyn ohono'n waith llafurus a pheryglus, cafodd llawer o fenywod ryddid newydd, a chyfle i ddangos eu dawn a'u gallu mewn meysydd a reolwyd cyn hynny gan ddynion. Anfonwyd Hartrick i wneud brasluniau yn y fan a'r lle, ac mae llawer o'r cyfansoddiadau yn fwriadol eu hystum a'u hosgo - yn lluniau "gwneud". Delweddau propaganda ydyn nhw heb arlliw o'r caledi a'r peryglon a wynebai'r menywod o ddydd i ddydd.
Ganwyd yr artist a'r darlunydd Hartrick yn India a'i fagu yn yr Alban cyn mynd ati'n wreiddiol i astudio meddygaeth. Wedi troi at gelf, mynychodd Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac ysgolion celf Paris, gan arddangos yn Salon Paris 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Senefelder ym 1909. Trodd ei law at ddysgu hefyd, gan gyhoeddi'r gyfrol ganllaw 'Lithography As A Fine Art' ym 1932.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.