Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Barbara Paulette Palmer
“Wrth ichi fynd yn hŷn... mae’n rhaid adrodd yr hanes...”
Ganed Paulette Palmer ym Mawrth 1955 yn St Elizabeth, Jamaica, a hi yw’r ail hynaf o chwech o blant.
“Pobl dosbarth gweithiol oedden nhw, roedd Dad yn gweithio yn y gweithfeydd dur yng Nghasnewydd ac roedd Mam yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Daeth fy nhad tua diwedd y 50au, efallai yn gynnar yn y 60au.”
“Cefais fy magu gan fy nain a thaid, mae hynny’n arferol yn Jamaica... os oes nifer o blant yn y teulu, nid yw’n anarferol i un gael ei fagu gyda nain a thaid neu aelod o’r teulu... Fy mhrif atgof o fy nghartref, mae’n debyg, yw gweithio’n galed...”
Paulette oedd yr olaf o’i brodyr a chwiorydd i ddod i’r Deyrnas Unedig. Ar yr 17eg o Fai 1970, glaniodd Paulette yn Llundain ar un o awyrennau’r wladwriaeth, y BOAC, yn gwisgo ffrog les felen.
“Roedd yn dipyn o sioc ddiwylliannol, setlo yma yn y dechrau... allwch chi ddychmygu bod yn eich arddegau, yn cael eich magu gan eich nain a thaid, ac yna dod yma i fod gyda’ch rhieni a’ch brodyr a chwiorydd, ar ôl bod oddi wrthyn nhw... ‘Sut fyddan nhw’n edrych?’”
“Fe ddois i Gasnewydd ar fy union ac yna o Gasnewydd, fe ddois i Gaerdydd, wel, i Benarth a dweud y gwir, yn 1974, i hyfforddi fel nyrs. Roeddwn i’n un o’r bydwragedd o’n cymuned ni... fe wnes i fy ngradd nyrsio ar ôl imi gael chwech o blant... mae’n anodd bob amser, ac ar ôl imi gymhwyso fel nyrs, fe wnes i [weithio] sifftiau nos am 20 mlynedd.”
“Am wn i, rwy’n berson cryf, ac mae fy nerth oddi mewn imi. Nid wy’n cofio bod yn wan erioed, er bod bywyd wedi taflu heriau lu ataf i, ond rhywsut, rwy’n eu goresgyn ac, wyddoch chi, yn cario ’mlaen.”