Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bechgyn-bysgotwyr
Dau fachgen-bysgotwr yn edrych i’r gorwel dychmygol wrth bwyso ar helm cwch a welir yn y paentiad hwn gan yr artist o Ferthyr, Penry Williams. Bachgen o deulu cyffredin oedd Penry, mab i saer maen a phaentiwr tai o Ferthyr Tudful, ond arweiniodd ei dalent fel paentiwr ef at yrfa lwyddiannus yn yr Eidal. Symudodd i Rufain ym 1827, a sefydlu stiwdio brysur a ddenai ymwelwyr o bob cwr o Ewrop. Roedd yn gymdeithaswr mawr, ac reodd ei gyfeillgarwch, ei wybodaeth leol a’i sgil mewn sawl iaith yn golygu y byddai artistiaid (gan gynnwys Turner ac Edward Lear) yn tyrru i’w gyfarfod. Roedd ei baentiadau o Eidalwyr ifanc a gwerinwyr mewn golygfeydd ysgafn, hafaidd (a alwyd yn felys a sentimental gan nifer) yn boblogiadd iawn gan dwrisitiad. Daeth yn gyfaill agos i’r cerflunydd John Gibson, oedd hefyd o Gymru. Bu’r ddau yn byw ac yn gweithio gyda’i gilydd yn Rhufain am 30 mlynedd, ac efallai eu bod yn gariadon. Gadawodd Gibson gyfran helaeth o’i ystâd i Williams yn ei ewyllys. Er ei fod yn un o artistiaid mwyaf llwyddiannus a bydenwog Cymru yn y 19eg ganrif, maei ei waith yn llai adnabyddus heddiw.