Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Gaynor Legall
Ganed Gaynor Legall ym mis Chwefror 1950 yn Ysbyty Dewi Sant. Ganed ei mam yng Nghaerdydd, ac roedd ei thad yn hanu o Belize, a elwid yn Honduras Brydeinig nes ennill annibyniaeth yn 1981.
“Fe gefais i blentyndod hapus iawn, ac mewn llawer o ffyrdd, er ein bod ni’n dlawd iawn ac yn cael ein gweld fel pobl ddifreintiedig, roedden ni’n gyfoethog iawn mewn ffyrdd eraill. Felly yn nhermau diwylliant, yn nhermau cyfeillgarwch, yn nhermau byw mewn cymuned gydlynol a gwarchodol. Roedden ni’n ffodus iawn.”
“I Ysgol South Church Street roeddwn i’n mynd... roeddwn i’n bedair a hanner... Sa i’n credu eu bod nhw’n disgwyl dim byd gan y plant, ac roedden nhw’n rheoli gyda grym corfforol, roedd y gansen yn gyffredin, neu bwniad ar ochr eich pen, y math yna o beth...”
“Am y ddwy flynedd olaf, bob dydd cyn i’r ysgol ddechrau, roedd yn rhaid i mi aros y tu allan i ddrws y prifathro a dweud ‘syr, wnes i ddim byd’, ac meddai ef, ‘fe wnei di’.”
Mae Gaynor Legall yn cofio dechrau ailddatblygiad Tiger Bay, a ddechreuodd yn 1956, ac a fu’n gyfrifol am adleoli teuluoedd o 57 o genhedloedd gwahanol.
“Nid yw’r gymuned gefais i fy magu ynddi’n bodoli mwyach, ac rwy’n drist am hynny. Doedd hyn ddim yn normal, gan fod ymfudiad yn arfer ymwneud â dynion, ond y tro hwn, roedd yn ymwneud â dynion a’u gwragedd a’u mamau a’u tadau a’u plant, felly roedd yr effaith yn wahanol.”
“Fi sydd wedi creu fy hunaniaeth, felly Cymraes ydw i. Allaf i ddim smalio bod yn unrhyw beth arall, oherwydd pan rwy’n mynd i leoedd eraill, maen nhw’n gwybod nad ydw i’n dod o’r fan honno, ond wn i ddim i ba raddau mae’r boblogaeth wen ehangach yn fy nerbyn i fel Cymraes. Ond rwy’ wedi penderfynu fy mod i’n Ddu, yn Gymreig, a dyna fy hunaniaeth a fy nharddiad ethnig. Rwy’n gyfforddus iawn yn fy nghroen fy hun.”