Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Ivor Thomas
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Ivor Thomas, Pentyrch. Rhan 1 o 2 (AV 2505/1, AV 2506/1). Mae Mr Thomas yn troi at ei fab ac yn siarad ag ef yn Saesneg mewn rhan o'r cyfweliad. Welsh language oral history recording with Ivor Thomas, Pentyrch.
Cefndir Mr Thomas. Darlun bras o'r ardal ers talwm. Y gwaith glo: Drwso Tal Trwmpo Gwaith y crwt Oblo 1. Ei waith cynta - 'drwso'. Dechrau am 7.00. Mynd I lawr mewn carej. Gweithio ei hun - defnyddio Davy lamp - ei chadw yn y lamp station ar ol gorffen gwaith - 3.00 2. Tal 12/- yr wythnos. Rhoi tip - 'trwmpyn' I'r 'haliers'. 3. Gweithio yn y 'talcen' - llenwi dram' gyda rhew neu 'focs cwrlo'. Bocsys o wahanol faintioli. 4. 'Gweithio dyn a chrotyn' fyddai'r drefn - y dyn yn talu'r bachgen. 'oblo' - heb le rheolaidd, mynd o un lle I'r llall os byddai rhywun yn wael. 5. Gwaith 'riparwr' yn grefft. Gosod 'par o goed' - 'dwy fraich a choler '. Riparo fwyaf ar yr hewl'. Defnyddio bwyell a ffon fesur.