Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Burry Port & Gwendraeth Valley Railway platelayer's cycle
Mae gofyn archwilio trac rheilffordd yn rheolaidd at ddibenion cynnal a chadw ac ar achlysuron erill hefyd, er enghraifft pan fo'r arwyddion yn methu gweithio bydd gofyn i un o ddynion y rheilffordd, neu arolygwr, deithio gryn bellter ar hyd y trac cyn y gall trên fynd ar ei thaith. Defnyddid y seicl hwn at y dibenion hyn ar hyd rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth yn Nyfed. Fe'i adeiladwyd yn 1901 yn unol â gofynion Mr. John Eager, Prif Beiriannydd y rheilffordd, a bu yntau'n ei ddefnyddio nes i'r rheilffordd gael ei haruno â'r Great Western Railway yn 1922. Arhosodd y seicl ym Mhorth Tywyn ac fe'i defnyddid yn achlysurol tan 1968 pryd y trosglwyddwyd y doe i ofal y Cyngor Sir.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984