Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Motiff Unionsyth Rhif 8
Erbyn 1950 câi Henry Moore ei gydnabod yn gyffredinol fel arlunydd 'avant garde' pennaf Prydain. Ym 1955-56 bu'n gweithio ar gyfres o gerfluniau talsyth efydd sy'n atgoffa rhywun am bolion totem a cherfluniau Brancusi. Byddai tri o'r 'Motiffau Talsyth 'hyn weithiau'n cael eu dangos gyda'i gilydd i edrych fel grŵp Croeshoelio. Yma, mae'r ffurfiau dynol crwn wedi eu gosod yn erbyn y ffurfiau ffliwtiog fertigol yn awgrymu ffigwr wedi ei rwymo wrth golofn Glasurol, megis Sant Sebastian neu Grist yn cael ei Fflangellu.