Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Llanelli shell factory, photograph
'Llanelly National Shell & Rectification Factory', 1917. Agorodd Richard Thomas & Co. Ltd. y Burry Extension Tinplate Works ym 1911, gyda'r enw'n adlewyrchu'r ffaith fod y safle prin chwarter milltir o waith tunplat arall y cwmni, Burry Tinplate Works a agorodd ym 1875. Ym 1915, cafodd y Burry Extension Works ei addasu i gynhyrchu sieliau chwe modfedd, ac ym 1917 cafodd y safle ei ehangu'n sylweddol er mwyn agor adran ar gyfer newid ac unioni sieliau 18 pwys yn rhai chwe modfedd. Cynhyrchwyd 378,000 o sieliau i gyd, a chafodd 286,000 eu newid mewn gweithfeydd dan yr enw Llanelly National Shell & Rectification Factory. Roedd yr adrannau cynhyrchu ac unioni sieliau yn cyflogi 323 o ddynion a 968 o fenywod rhyngddynt. Rhwng y cadoediad ym 1918 a chau'r gwaith ddechrau 1919, cafodd bron i 1.7 miliwn o sieliau dros ben eu datgymalu. Wedi'r rhyfel, aeth Richard Thomas & Co. Ltd. ati i ailagor y Burry Extension Works fel gwaith tunplat ac ehangu'r adran dunio i safle'r hen ffatri unioni.