Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Eglwys Stoke-by-Nayland
MORRIS, Cedric (1889-1982)
Roedd Cedric Morris yn beintiwr anifeiliaid rhyfeddol. Ym 1936 mynegodd ei fwriad 'i ysgogi cydymdeimlad bywiog â naws yr adar y mae manyldeb ornitholegol yn dueddol o'i ddinistrio.' Yn y tu blaen mae Sgrech y Coed. Yr oedd Stoke-by-Neyland ger cartref Morris, Pound Farm, y tu allan i Higham, Suffolk. Ym 1940 symudodd ef a'i gyfaill Lett Haines i Hadleigh ychydig filltiroedd i ffwrdd, ac yno sefydlwyd Ysgol Beintio a Dylunio East Anglia ar ôl i'r adeilad gwreiddiol gael ei ddinistrio gan dŷn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.