Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pen Victor Hugo (1802-1885)
Mae Victor Hugo yn un o fawrion llenyddiaeth Ffrainc, ac fel Gweriniaethwr pybyr, mae ei nofelau epig yn amlygu anghyfiawnder cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod. Pan ddaeth Napoleon III i rym ym 1851, galwodd Hugo ef yn fradwr. Bu’n byw’n alltud yn Guernsey tan gwymp yr Ail Ymerodraeth ym 1870, gan ddychwelyd i Baris gyda’r wlad yng nghanol helynt cynyddol y Rhyfel â Prwsia. Nid oedd Hugo yn fodlon eistedd yn llonydd ar gyfer portread ohono, felly roedd rhaid i Rodin weithio o frasluniau cyflym. Yn ôl yr artist, 'meddyliais i mi weld Iau Ffrengig; ond ar ôl dod i'w adnabod yn well, roedd yn debycach i Hercules'. Mae'r penddelw yn cyfleu statws urddasol yr awdur o fri ac arwr cenedlaethol y Ffrancwyr, a ysgrifennodd glasuron fel 'Les Miserables 'a 'Notre-Dame de Paris.' Disgrifiodd Syr Goscombe John ef fel 'tua'r gorau ganddo o'r math hwnnw ac yn enwog ar hyd a lled y byd. Mae'n waith arbennig o onest'.