Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
North Wales
Mae'r gweithiau hyn yn rhan o gyfres o ddeg ysgythriad a gynhyrchodd Ofili i ymateb i leoliad. Gogledd Cymru oedd y lleoliad diweddaraf ar ôl Barcelona, Berlin ac Efrog Newydd. Yr ysgythriadau yw ffordd yr artist o ddod i 'nabod Gogledd Cymru. Mae'r ddelweddiaeth yn cyfeirio'n anuniongyrchol at y lleoliad dan sylw. Trwy ddefnyddio celf i ddeall yr ardal o'i gwmpas, mae Ofili yn ein hannog i gwestiynu beth yw hanfod genre tirluniau.
Label gan Chloe Jones o'r grŵp Codi'r Llen ar Gaffael.