Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ladies of Llangollen, Dillwyn and Cow Creamers
Wedi’i osod mewn pedwar hen flwch printiau, mae’r gwaith hwn wedi’i greu o hen lestri, teils, pibelli a photiau wedi malu, wedi’u cyfuno â decalau newydd a phrintiau digidol. Drwy ymateb i wrthrychau a phrintiau gafodd eu darganfod yng nghasgliadau amgueddfeydd yn Plymouth, Bryste, Caerdydd a Lerpwl, mae Paul Scott yn adrodd straeon newydd am y pedwar lleoliad. Mae hefyd yn tynnu sylw at themâu cyffredin, fel hanes gwleidyddol ac economaidd a phryderon amgylcheddol.
Mae’r darn am Gaerdydd, Ladies of Llangollen, Dillwyn and Cow Creamers, yn cyfeirio at hanes diwydiant cerameg Cymru. I ddysgu mwy am hyn, ewch i Oriel Cerameg Cymru yr Amgueddfa. Gwelwn faterion amgylcheddol cyfoes yn ymwthio i ddarluniau o harddwch naturiol Cymru: ffracio ac awyrennau ymladd, tyrbinau gwynt a difa moch daear. Mae yna hefyd gyfeiriadau cyferbyniol at hanes gwleidyddiaeth radicalaidd Cymru a rôl y Cymry wrth gefnogi caethwasiaeth a threfedigaethedd yr Ymerodraeth Brydeinig.