Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Abraham Lee
“Dyma fi’n dweud wrthyf fi fy hun, wel, mae’n well imi gael fy lle fy hun ac aros yno, a dysgu sut mae byw yn y wlad hon.”
Ganed Abraham Lee yn Dominica, ar yr 22ain o Fedi 1942. Cyrhaeddodd ei dad Brydain yn fuan iawn ar ôl yr Ail Ryfel Byd...
“Fe oedd un o’r bobl gyntaf a ddaeth i Loegr, oherwydd ar ôl y rhyfel... roedd [Prydain] wedi’i ddifrodi mor ofnadwy, roedden nhw eisiau pobl i weithio iddyn nhw i ailgodi Lloegr, dyna pam roedd rhaid i bobl o India’r Gorllewin ddod... fuodd o ddim yma’n hir... pum neu chwe blynedd rwy’n credu, ac yna fe adawodd. Daeth yn ôl (i Ddominica) ac yna fe brynodd o long.”
Wedi iddo gyrraedd Prydain, fe weithiodd Abraham yn Lloegr fel pobydd, ac ar un adeg fel gweithredwr lifft yn y Cumberland Hotel, cyn dilyn ei blant i Stryd Bute yng Nghaerdydd, Cymru.
“Rwy’n dweud wrthyf fi fy hun, dydw i byth eisiau bod heb waith... rwyf i yn fy ngwaith o hyd... rwy’n gweld fy mhlant yn cysgu pan rwy’n mynd, a phan rwy’n dod yn ôl fe’u gwelaf yn cysgu eto... roeddwn i’n cael un diwrnod i ffwrdd, dydd Sul, pan ddois i yma, a dyna pan fuaswn i’n cael gweld fy mhlant...”
Fe dreuliodd 6–7 blynedd yn gweithio fel cariwr cesig morter yng Nghymru.
“Dyna pam rwy’n byw yng Nghymru, [mae’n wahanol iawn] dyna pam rwy’n aros. Wel, roedd y bobl yn gyfeillgar, roeddech chi’n gallu gadael eich tŷ heb ei gloi, mynd i’r dref, mynd i ble bynnag a fynnech chi, ac mi fuasai’ch cymydog yn edrych ar ôl eich tŷ. Chi’n gweld, fuasai neb yn creu ffwdan ichi, ac mae hynny’n well na’r lle y dois i ohono, ac rwy’ wedi aros yng Nghaerdydd...”