Nantwallter - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Nantwallter

Clai neu laid, neu clom fel y câi ei alw yn yr ardal, a ddefnyddiwyd i godi'r bwthyn hwn. Roedd y clai'n cael ei gloddio ar y safle a'i gymysgu â gwellt, pridd a cherrig mân. Roedd y clom yn cael ei osod fesul haen ac roedd rhaid i bob haen sychu am rai dyddiau cyn gosod yr haen nesaf. Dwy set o nenffyrch ag uniad sgarff sy'n cynnal y to. Byddai plethwaith o wiail, eithin a tho gwellt yn cael eu gosod drostynt. Gwnaed y daflod, y pared a brest y simnai o blethwaith hefyd.

Codwyd y bwthyn ar dir stad Taliaris, tua 1770 mae'n fwy na thebyg, ac ar y stad y byddai'r trigolion gwreiddiol yn gweithio. Mae'r dodrefn plaen yn nodweddiadol o gartref gwas ffarm tua diwedd y 18fed ganrif. Roedd y sgiw wrth y tân yn ddarn pwysig o ddodrefn oedd yn helpu i atal drafftiau. Roedd i'r bwrdd ddiben ymarferol hefyd. Roedd yn hir ac yn gul er mwyn rhoi rhagor o le byw i'r teulu ac roedd ynddo ddroriau dwfn i gadw pethau. Ceir dau wely pyst yn y man cysgu — byddai'r pyst yn cael eu defnyddio i hongian sachliain er mwyn cadw'r gwres i mewn yn y nos. Cafodd y bwthyn ei symud ym 1990.

Y tu allan, mae twlc mochyn bychan o gerrig, a llofft i'r ieir uwchben, a tho o deils cerrig.

Nantwallter
Delwedd: Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru
  Chwyddo / Rhagor o ddelweddau (45)

Pwnc

Bywyd Gwerin

Rhif yr Eitem

F94.19

Mesuriadau

Uchder (cm): 625
Meithder (cm): 970
Lled (cm): 655
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Bywyd Gwerin

Photograph

F2022.16.140
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Photograph

F2022.16.139
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Photograph

F2022.16.138
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Photograph

F2022.16.137
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯