Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
View from my window, Maentwrog, Snowdonia
Yn y gwaith hwn, mae Bodichon yn darlunio calon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r awyr llwyd yn gwrthgyferbynnu â lliwiau tawel canghennau'r coed. Mae'n tynnu ein sylw at ddyfnder y ffocws sy'n rhoi cyfle i ni werthfawrogi'r pellter rhwng y dyffryn a'r llwyni. Mae Bodichon hefyd yn artist arwyddocaol am ei bod yn fenyw, a'i bod yn cynnig gwrthbwynt i uchafiaeth dynion ym maes celf dirwedd y 19eg ganrif. Ar fenthyg o gasgliad preifat Label gan Abraham Makanjuola o'r grŵp Codi'r Llen ar Gaffael