Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Richard Wilson (1713-1782)
Mae Richard Wilson yn eistedd wrth ei îsl, yn peintio tirlun. Mae'n gwisgo het tebyg i dwrban cyfforddus yn lle'r wigiau a wisgwyd yn y cyfnod. Mae'r osgo, sy'n debyg iawn i osgo hunan-bortread, yn creu awyrgylch o falchder proffesiynol a ffyniant. Yn raddol daeth dilyn gyrfa fel peintiwr yn fwy derbyniol yn gymdeithasol ar gyfer dynion Prydeinig, ac mae osgo Wilson yn awgrymu ymdeimlad o falchder proffesiynol a chyfoeth. Llwyddodd gyrfa Wilson am gyfnod yn yr Eidal, ac ar ôl iddo ddychwelyd i Brydain. Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson - gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall.
Caiff Wilson, sy'n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ei alw'n aml yn "Dad tirluniau Prydain" am y rôl allweddol a chwaraeodd yn natblygiad y traddodiad, er iddo hyfforddi fel peintiwr portreadau i gychwyn. Ef oedd yr artist mawr cyntaf i boblogeiddio delweddau o Gymru oedd yn mynd y tu hwnt i gywirdeb topograffaidd. Gwerthodd y darlun hwn wedyn i Syr Watkin Williams-Wynn, a brynodd bedwar tirlun hefyd ganddo ym 1771. Yr oedd Mengs yn un o brif gystadleuwyr Batoni yn Rhufain, ac yn hybu neo- glasuriaeth.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.