Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Saucer
Dyma soser o festri capel y Methodistiaid Calfinaidd, Capel Celyn. Boddwyd Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl. Bu protestiadau drwy Gymru ben baladr. Gwrthwynebwyd y ddeddf gan holl Aelodau Seneddol Cymru, namyn un, ond fe’i pasiwyd gan lywodraeth Geidwadol y dydd. Bu rhaid i’r trigolion adael y pentref. Gadawsant eu cartrefi, eu capel, eu hysgol a’u ffermydd. Yn 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl. Mae Tryweryn yn symbol i rai o ddiffyg grym Cymru.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
64.50.2
Derbyniad
Donation
Mesuriadau
diameter
(mm): 147
Uchder
(mm): 28
Deunydd
stoneware
Lleoliad
St Fagans Wales Is gallery : Drowned Out
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.