Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cover
Gorchudd clytwaith a wnaed o ddarnau gwlanen. Cafodd ei bwytho gan Richard Evans tra’r oedd yn y Fyddin yn India. Ar y cefn mae’r geiriau Rhodd i fy Mam Sarah Evans, 1893.
"Brawd hynaf fy mam, Richard, wnaeth y Cover [sic] coch a du i'w roi am chest of drawers ac anfonodd ef i'w fam o'r India pan yn gwasanaethu gyda'r fyddin - wedi ei wneud o ddillad soldiwr (Roedd ganddo fwy o amynedd na llawer ohonom heddiw)." Ffynhonnell: llythyr gan y rhoddwr, 1962.