Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Coastal Trader JOHN BROGDEN off North Shields (painting)
Cafodd y llong ager haearn JOHN BROGDEN ei hadeiladu gan Charles Mitchell yn Newcastle ar gyfer Alex Brogden & Co., Abertawe ym 1866. Wedi'i chofrestru'n 719 o dunelli gros (547 net), roedd hi'n mesur 199½ troedfedd o hyd gyda thrawst 27½ troedfedd, ac yn cael ei gyrru gan injan wrthdro gyfansawdd 2-silindr 95hp gan J. & W. Dudgeon o Lundain. Gwerthwyd ym 1874 i J. Brogden and Son, Abertawe, ac ym 1879 i J. J. Wallace, Abertawe. Er bod cofrestr Lloyd yn nodi mai Abertawe oedd ei phorthladd cartref, y bwriad gwreiddiol oedd ei defnyddio i fasnachu ar hyd yr arfordir o Newcastle – cyn newid ei chyrchfan i Fôr y Canoldir o borthladd Llundain. Peintiodd John Scott y llun hwn ohoni oddi ar arfordir Newcastle ym 1866, ar ei mordaith gyntaf mwy na thebyg. Gan nad oes paentiadau eraill o'i eiddo yn cynnwys dyddiad diweddarach, gallwn gymryd mai dyma un o bortreadau ola'r artist o longau.
JOHN BROGDEN 1866-1881 Iron O.N. 51118 548g 373n 162.2 x 27.3 x 15.5 feet 1872: 719g 373n 199.5 27.4 x 15.6 feet 80 HP. 1872: C. 2-cyl. (26, 50 x 24 inches) by J. and W. Dudgeon, London; 95 NHP. 3.11.1865: Keel laid. 18.4.1866: Launched by Charles Mitchell and Co., Newcastle-upon-Tyne (Yard No. 140). 6.6.1866: Completed. 1866: Registered in the ownership of Alexander Brogden, Swansea*. 1872: Lengthened and re-engined. 1881: Sold to James J. Wallace, London. 1881: Renamed GAINFORD 1882: Sold to Louis Breslauer, London. 30.8.1884: Stranded in Castillos Bay, Uruguay whilst on a voyage from Rio Grande do Sul to Montevideo in ballast. 11.1885: Salvage attempts abandoned. 1887: Register closed (deleted from MNL and LR). Registration: Swansea 1866 Swansea 1872 London 1881 Tonnages: 548g 373n 1866 Sources: PRdatabase186768 MNL 1871: Alexander Brogden, Holme Island, Lancashire LR 1877: Jno. Brogden and Sons, Portcawl, Glamorgan. Ballast: Double bottom Trades: DV71: Lon.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.