Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cup, commemorative
Dyma gwpan o festri capel y Methodistiaid Calfinaidd, Capel Celyn. Boddwyd Capel Celyn er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl. Bu protestiadau drwy Gymru ben baladr. Gwrthwynebwyd y ddeddf gan holl Aelodau Seneddol Cymru, namyn un, ond fe’i pasiwyd gan lywodraeth Geidwadol y dydd. Bu rhaid i’r trigolion adael y pentref. Gadawsant eu cartrefi, eu capel, eu hysgol a’u ffermydd.Yn 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl. Mae Tryweryn yn symbol i rai o ddiffyg grym Cymru.