Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Roy Grant
“Chefais i mo fy ngeni gydag un llygad, ond doedd gen i erioed ddwy lygad, fe dyfais i fyny ac er gwaethaf hynny, rwyf wedi cyflawni fy nyhead, sef bod yn beiriannydd.”
Ganed Roy Grant yn Jamaica ym Mai 1942.
“Dyflwydd oed oeddwn i pan gollais i fy ngolwg yn fy llygad chwith, damwain oedd hi... yn 1944, pwy a ŵ yr sut oedd mendio llygad bryd hynny, doedd mo’r fath beth â thriniaeth i hynny... erbyn y diwrnod wedyn... roedd twll yng nghannwyll y llygad.”
“Yn 15 mlwydd oed, roeddwn i am fod yn beiriannydd... fe es i i’r ysgol beirianneg...”
“Yn bedair blwydd ar bymtheg, doeddwn i erioed wedi teithio y tu hwnt i fy mhlwyf... yn 1962, ar y 18fed o Fawrth, esgynnais ar fwrdd yr SS Begona... roedd yn cludo bron i 5,000 o bobl, roedd hi’n enfawr. Fe dreulion ni 11 o ddyddiau a nosau ar fwrdd y llong honno.”
“Doedd hi ddim yn hawdd bryd hynny, fel person Du, i ddod yn beiriannydd. Ysgrifennais at fy nghyfnither, fe ddaeth hi i Gymru... roedd Pont Hafren wrthi’n cael ei hadeiladu ac roedd gwaith adeiladu peirianyddol ar raddfa fawr [yn digwydd].”
“Felly, ddois i yma ym Mehefin 1962, ddiwedd mis Mehefin, a dechreuais weithio yn Top Grinding Enigneering.”
“Fe wnes i berffeithio’r twlsyn torri, un i dorri [neilon] yn gyflym... fe wnaethon nhw fy mhenodi’n weithiwr mewn gofal. Ond nid fy enw i ymddangosodd yn y papur yn dweud fy mod wedi’i ddatblygu, enw’r bos oedd ynddo. Fel arall, mi fuaswn i’n ddyn cyfoethog... Wnes i erioed ddychmygu yn fy nyddiau cynnar y buaswn i’n eistedd i lawr ac yn rhoi cyfweliad, felly dyma ichi un, ond prif uchafbwynt fy mywyd oedd pan enillais i wobr am Lyfr Gorau yng Nghymru, yn Abertawe, Neuadd Brangwyn, am ‘When Darkness Turns to Light’, dyna ichi foment da.”
“Gyda’r genhedlaeth hŷn yn dod i ddiwedd eu hoes, chi’r ieuanc fydd yn dechrau newid y drefn a newid yr awyrgylch... mwynhewch, ond dysgwch, dysgwch, dysgwch... efallai bydd pethau’n cymryd ychydig yn hirach, ond fe ddaw’r cyfle...”