Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
O'r gyfres ar y gweill ar ieuenctid ac electronica, 'Paradiso'. Havana, Cuba
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Eleni treuliais ychydig fisoedd yn Havana yn tynnu lluniau criw o DJs o Giwba sy'n byw ac yn gweithio gyda'r nos. Roedden ni’n chwilfrydig am ein gilydd a deuthum yn agos iawn at y rhamantwyr ifanc, strydgall hyn. Maen nhw'n caru eu gwlad ond maen nhw hefyd yn tynnu’n groes iddi. Maen nhw eisiau gweithio, ond nid ar gyfer system nad yw'n gwobrwyo'r gwaith hwnnw'n iawn. Maen nhw, fel llawer o bobl yng Nghiwba, yn gwybod sut i fachu bywoliaeth ond nid hustlers ydyn nhw yn y bôn; maen nhw'n ei wneud i oroesi. Mae cael ffrind tramor o werth mawr iddyn nhw oherwydd eu bod am gyfathrebu â'r byd modern. Roedden nhw’n fy ngweld i fel pont ddefnyddiol ac efallai yn gyfnewid am hynny, yn caniatáu imi arsylwi a chofnodi eu bywydau mewn ffordd agos atoch. Dywedodd pregethwr wrthyf unwaith fod pobl am gael llais, maen nhw eisiau rhannu eu barn â'r byd, ond nid eu hwyneb bob amser. Mae wyneb yn gwneud rhai pethau'n rhy real, yn rhy weladwy. Ond dw i wedi canfod bod y math o rannu sy'n caniatáu i'r ddwy ochr elwa'n fawr yn adeiladu ymddiriedaeth. Gydag ymddiriedaeth, weithiau mae'r wyneb hwnnw'n cael ei anghofio, mae'r byd yn cael ei anghofio, ac rydyn ni'n cael bod yn bresennol, i fod yn agos at y person arall." — Michael Christopher Brown