Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mam a’i phlentyn yn Ville Bonheur, Haiti
Mae crefydd genedlaethol Haiti, Vodou, yn cyfuno traddodiadau brodorol, arferion crefyddol Affricanaidd ac elfennau o Gatholigiaeth. Mae Ezili Dantò, y vodou lwa (neu ysbryd) y famolaeth yn aml yn cyd-fynd â'r Forwyn Fair. Ym 1849, dywedir iddi ymddangos yn Saut d’Eau, rhaeadr uchaf yr ynys, sydd i’w gweld yn y ffotograff hwn. Mae ffyddloniaid yn teithio i'r rhaeadr bob blwyddyn i ymdrochi o dan y dŵr cysegredig yn y gobaith o ennyn amddiffyniad yr Iwa. Mae’r llun hwn gan Diana Markosian, sy’n rhan o'i chyfres Y Forwyn Fair, yn cyfleu hanfod addoliad benywaidd dwyfol mewn portread clòs o fam a’i phlentyn o dan y dŵr puro.